Fernão de Magalhães

(Ailgyfeiriad o Magellan)

Fforiwr o Bortiwgal oedd Fernão de Magalhães (Sbaeneg: Fernando de Magallanes, Saesneg: Ferdinand Magellan) (Gwanwyn 148027 Ebrill 1521).

Fernão de Magalhães
Ganwydc. 1480 Edit this on Wikidata
Ponte da Barca Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ebrill 1521 Edit this on Wikidata
Mactan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Portiwgal, Coron Castilia Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, morwr, morwr Edit this on Wikidata
TadRui de Magalhães Edit this on Wikidata
MamAlda de Mesquita Edit this on Wikidata
PriodBeatriz Barbosa Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommander of the Order of Santiago, Urdd Filwrol Sant Iago'r Gleddyf, Urdd Crist Edit this on Wikidata
llofnod

Ef drefnodd y fordaith Sbaenaidd i India’r Dwyrain rhwng 1519 a 1522 a arweiniodd at gwblhau’r fordaith gyntaf o gwmpas y byd yn llwyddiannus. Bu farw yn y Philipinas cyn cwblhau'r daith, a chwblhawyd y gylchdaith gan Juan Sebastian Elcano. Arweiniodd Magellan sawl mordaith i India ac Affrica ar ran Portiwgal rhwng 1505 a 1516. Yn y flwyddyn 1519, dan nawdd Sbaen y tro yma, cychwynnodd gyda llynges fach o bum llong - ei fanerlong Trinidad, y San Antonio, Concepcio, Victoria a'r Santiago - i geisio darganfod llwybr i ynysoedd y Molucca.

Croesodd y Cefnfor Tawel draw i Batagonia ac aeth drwy'r culfor a enwyd ar ei ôl, sef Culfor Magellan. Yng ngwanwyn 1521 cyrhaeddodd yr Indies ond cafodd Magellan ei ladd yn y Philipinau yn ystod Brwydr Mactan. Cyrhaeddodd y fordaith Ynysoedd y Sbeisys yn 1521 gan ddychwelyd i Sbaen drwy Gefnfor India.[1]

Y Victoria oedd yr unig un o'r 5 llong i ddychwelyd i Sbaen, gan gwblhau (dan gapteiniaeth Juan Sebastián del Cano o Wlad y Basg) y fordaith gyntaf yr holl ffordd o gwmpas y byd.[2]

Bywyd cynnar a theulu

golygu

Ganwyd Magellan mewn tref ym Mhortiwgal o’r enw Sabrosa tua'r flwyddyn 1480. Roedd ei dad, Rui de Magalhães, yn aelod o deulu aristocrataidd ym Mhortiwgal ac yn faer y dref. Enw ei fam oedd Alda de Mesquita.[1] Roedd ganddo frawd o’r enw Diego de Sosa a chwaer o’r enw Isabel Magellan. Magwyd ef fel macwy i’r Frenhines Eleanor, sef gwraig y Brenin John II. Yn 1495, dechreuodd ar ei wasanaeth gydag olynydd John, sef y Brenin Manuel I.[3]

Ym mis Mawrth 1505, pan oedd yn 25 mlwydd oed, ymunodd â fflyd o 22 o longau a anfonwyd i groesawu a diddanu Francisco de Almeida, rhaglaw cyntaf yr India Portiwgeaidd. Mae’n debyg iddo aros yno am tua wyth mlynedd yn Goa, Cochin a Quilon. Bu’n ymladd mewn sawl brwydr tra bu yno, gan gynnwys ym Mrwydr Cannanore yn 1506 lle cafodd ei anafu. Ymladdodd hefyd ym Mrwydr Diu yn 1509.[4] Bu’r cyfnod hwn yn allweddol o ran ei helpu i gasglu gwybodaeth am fordwyo ac am diroedd a gwledydd draw yn y Dwyrain.[1]

Yn ystod y blynyddoedd dilynol, bu Magellan yn hwylio gyda Diogo Lopes de Sequeira a Francisco Serrão, ei ffrind ac o bosib ei gefnder, draw i Malacca ym Maleisia. Yn 1511, wedi i Magellan a Serrão fod yn rhan o goncwest Malacca, dychwelodd Magellan i Bortiwgal tua 1512 neu 1513.[5]

Gadawodd wasanaeth Brenin Portiwgal heb ganiatâd ac felly collodd ffafr y Brenin. Bu draw ym Moroco lle cafodd ei anafu, a chyhuddwyd ef o fasnachu’n anghyfreithlon gyda'r Mwriaid. Ni chafodd y cyhuddiadau eu profi ond ni chynigiwyd llawer o waith i Magellan ar ôl 1514. Yn 1517, cwerylodd gyda’r Brenin Manuel I, a wrthododd geisiadau cyson ganddo i arwain mordaith er mwyn cyrraedd Ynysoedd y Sbeisys o’r dwyrain (fel nad oedd angen hwylio o gwmpas penrhyn de Affrica). Oherwydd y cweryl gadawodd Bortiwgal a mynd i Sbaen. Cyrhaeddodd Sevilla a phriododd Maria Caldera Beatriz Barbosa. Ganwyd dau o blant iddynt, sef Rodrigo de Magalhães a Carlos de Magalhães, ond bu farw’r ddau yn ifanc.  

Cylchdaith o gwmpas y byd

golygu

Wedi i’w gais am fordaith i Ynysoedd y Sbeisys gael ei wrthod yn gyson gan y Brenin Manuel o Bortiwgal, trodd Magellan am gefnogaeth gan Siarl I, brenin ifanc Sbaen. Yn ôl Cytundeb Tordesillas yn 1494, roedd Portiwgal yn rheoli'r llwybrau dwyreiniol draw i Asia a oedd yn mynd o gwmpas Affrica. Portiwgal oedd piau’r tiroedd i’r cyfeiriad hwnnw tra mai Sbaen oedd yn rheoli i gyfeiriad y gorllewin. Bwriad Magellan, yn hytrach, oedd cyrraedd Ynysoedd y Sbeisys yn y Dwyrain ar hyd y llwybr gorllewinol, drwy Dde America a thrwy'r Môr Tawel, gan osgoi Penrhyn Gobaith Da yn Ne Affrica, a reolwyd gan Bortiwgal.[6]

 
Victoria[dolen farw], yr unig long yn fflyd Magellan i gwblhau'r daith. Ortelius, 1590.

Cefnogodd Siarl I y fenter drwy ei chyllido, gan obeithio y byddai’r llwybr hwn o fantais fasnachol i Sbaen. Hwyliodd fflyd o longau Magellan, a oedd yn cynnwys pum llong, gyda digon o adnoddau ar gyfer dwy flynedd o hwylio a chriw o tua 270 o ddynion.[7] Roedd y mwyafrif yn Sbaenwyr, gyda thua 40 o Bortiwgeaid.[8]

Gadawodd Magellan Sbaen gyda’i fflyd o longau ar 20 Medi 1519, gan hwylio i’r gorllewin ar draws Môr yr Iwerydd tuag at Dde America. Ym mis Rhagfyr cyrhaeddwyd Rio de Janeiro ym Mrasil ac wedyn hwyliwyd i lawr ar hyd arfordir De America er mwyn chwilio am ffordd i hwylio drwy neu o gwmpas y cyfandir. Gorfodwyd y fflyd i atal fforio am tua thri mis oherwydd tywydd gwael, ac yn ystod y cyfnod hwnnw wynebodd Magellan fiwtini ymhlith y morwyr. Llwyddodd i gael rheolaeth ar y sefyllfa, gyda Mendoza yn cael ei ladd yn ystod y ffrwgwd, a phenderfynodd Magellan bod Quesada i gael ei ddienyddio a Cartagena i gael ei ynysu a’i adael ar ôl.

Ailgychwynnwyd chwilio am lwybr i’r Môr Tawel yn Hydref 1520, a bryd hynny daeth y fflyd o hyd i fae, a wnaeth eu harwain at lwybr a oedd yn eu cyfeirio drwodd i’r Môr Tawel. Dyma’r llwybr a enwyd yn Gulfor Magellan. Wrth fforio yn y culfor, gadawodd un o’r llongau y fflyd, sef y San Antonio, gan ddychwelyd i gyfeiriad y dwyrain yn ôl i Sbaen. Cyrhaeddodd y fflyd y Môr Tawel ar ddiwedd Tachwedd 1520, ac oherwydd anwybodaeth am ddaearyddiaeth y byd, credai Magellan mai dim ond siwrnai o tua 3 neu 4 diwrnod fyddai hi draw i Asia. Mewn gwirionedd, treuliwyd bron i 4 mis yn croesi’r Môr Tawel, ac oherwydd hynny daeth diwedd ar y cyflenwadau bwyd a dŵr, gyda tua 30 o ddynion yn marw o sgyrfi.[8]

 
Darlun[dolen farw] arlunydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o farwolaeth Magellan yn nwylo rhyfelwyr Mactan

Ar 6 Mawrth 1521 glaniodd y fflyd ar ynys Guam[9] ac ar 16 Mawrth cyrhaeddodd y fflyd y Philipinas, lle buont yn aros am tua mis a hanner. Ceisiodd Magellan droi’r brodorion at Gristnogaeth a derbyniodd y mwyafrif o’r brodorion y ffydd newydd, heblaw am ynys Mactan. Ym mis Ebrill ceisiodd Magellan ac aelodau ei griw gael rheolaeth dros lwyth y Mactan drwy drais, ac yn y frwydr rhyngddynt lladdwyd Magellan.[10]

Yn dilyn ei farwolaeth olynwyd Magellan gan Juan Serrano a Duarte Barbosa fel cyd-gadlywyddion, a chyrhaeddwyd Ynysoedd Molwca yn Nhachwedd 1521. Llwythwyd y llongau gyda sbeisys a chychwynnwyd hwylio yn ôl am Sbaen, ond dim ond un o’r llongau, sef y Victoria, oedd mewn cyflwr digon da i hwylio. Dychwelodd y llong honno i Sbaen ar 6 Medi 1522 o dan gapteiniaeth Juan Sebastian Elcano, a thrwy hynny cwblhawyd y gylchdaith gyntaf ar y môr o gwmpas y byd. O’r 270 o ddynion a gychwynnodd ar y fordaith, dim ond tua 18 neu 19 a ddychwelodd.[2][11]

Gwaddol Magellan

golygu

Mae Magellan yn cael ei gydnabod fel unigolyn pwysig yn hanes fforio oherwydd mae ei gyfraniad ef at y gylchdaith gyfan gyntaf o gwmpas y byd yn cael ei ystyried fel mordaith allweddol yn hanes Oes Aur fforio. Amlygwyd pwysigrwydd ei fordaith ym methiant mordeithiau diweddarach i ddilyn ei lwybr - er enghraifft, mordaith Loaísa yn 1525 (pan oedd Juan Sebastian Elcano yn ail gadlywydd). Bu’n rhaid aros am 58 mlynedd arall, nes i Francis Drake a’i long Pelican lwyddo i gylchdeithio’n llwyddiannus o gwmpas y byd.

Enwyd y Môr Tawel gan Magellan (y cyfeiriwyd ato'n aml fel Môr Magellan mewn teyrnged iddo tan y 18g), ac enwyd y culfor a ddarganfuwyd ganddo yn Gulfor Magellan.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Ferdinand Magellan | Biography, Voyage, Discoveries, Death, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-24.
  2. 2.0 2.1 "Ferdinand Magellan - Circumnavigation of the globe". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-24.
  3. "Magellan, Ferdinand", 1911 Encyclopædia Britannica Volume 17, https://en.wikisource.org/wiki/1911_Encyclop%C3%A6dia_Britannica/Magellan,_Ferdinand, adalwyd 2020-08-24
  4. Renaissance and Reformation. Patrick, James, 1933-. New York: Marshall Cavendish. 2007. ISBN 978-0-7614-7650-4. OCLC 64487293.CS1 maint: others (link)
  5. Joyner, Tim. (1994). Magellan. Camden, Me.: International Marine. ISBN 0-07-033128-6. OCLC 51960470.
  6. "Ferdinand Magellan - Allegiance to Spain". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-24.
  7. Levinson, Nancy Smiler. (2001). Magellan and the first voyage around the world. New York: Clarion Books. ISBN 0-395-98773-3. OCLC 45363879.
  8. 8.0 8.1 Bergreen, Laurence. (2003). Over the edge of the world : Magellan's terrifying circumnavigation of the globe (arg. 1st ed). New York: Morrow. ISBN 0-06-621173-5. OCLC 52047431.CS1 maint: extra text (link)
  9. The Boxer Codex : transcription and translation of an illustrated late sixteenth-century Spanish manuscript concerning the geography, ethnography and history of the Pacific, South-East Asia and East Asia. Souza, George Bryan,, Turley, Jeffrey Scott,. Leiden. ISBN 978-90-04-29273-4. OCLC 927618969.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: others (link)
  10. "Ferdinand Magellan - Discovery of the Strait of Magellan". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-24.
  11. Cameron, Ian, 1924- (1974). Magellan and the first circumnavigation of the world. London,: Wiedenfeld and Nicolson. ISBN 0-297-76568-X. OCLC 842695.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)