Magnoliid
Magnoliidau | |
---|---|
Tiwlipwydden (Liriodendron tulipifera) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Magnoliidau |
Urddau | |
Grŵp mawr o blanhigion blodeuol yw'r magnoliidau (Saesneg: magnoliids). Mae'r grŵp yn cynnyws tua 9,900 o rywogaethau;[1] ceir y mwyafrif ohonynt mewn rhanbarthau trofannol. Mae gan eu gronynnau paill un mandwll yn hytrach na thri mandwll fel yr ewdicotau.[2] Mae gan y mwyafrif o'r magnollidau ddail ag ymylon llyfn a rhwydwaith o wythiennau canghennog.[2] Mae magnoliidau o bwysigrywdd economaidd yn cynnwys yr afocado, nytmeg (Cneuen yr India), pupur du a sinamon.
Urddau a theuluoedd
golyguMae'r magnoliidau'n cynnwys 20 teulu mewn 4 urdd yn ôl y system APG III:[3]
- Canellales
- Canellaceae: coed a llwyni aromatig o'r trofannau, 13 rhywogaeth
- Winteraceae: coed a llwyni aromatig, 60-90 rhywogaeth
- Laurales
- Atherospermataceae: coed a llwyni o Hemisffer y De, 16 rhywogaeth
- Calycanthaceae: llwyni neu goed bach, 11 rywogaeth
- Gomortegaceae: coeden aromatig o Tsile, 1 rywogaeth
- Hernandiaceae: coed a lianau o'r trofannau, 55 rhywogaeth
- Lauraceae: coed, llwyni a dringwyr, 2500 rhywogaeth e.e. llawryfen, sinamon, afocado
- Monimiaceae: llwyni neu goed bach o'r trofannau ac is-drofannau, 200 rhywogaeth
- Siparunaceae: coed a llwyni o Dde a Chanolbarth America a Gorllewin Affrica, 75 rhywogaeth
- Magnoliales
- Annonaceae: coed a llwyni, mae gan rhai ohonynt ffrwythau bwytadwy, 2220 rhywogaeth e.e. afal cwstard, pawpaw, ylang-ylang
- Degeneriaceae: coed mawr o Ffiji, 2 rywogaeth
- Eupomatiaceae: Awstralia a Gini Newydd, 3 rhywogaeth
- Himantandraceae: coed aromatig o Awstralasia, 2 rywogaeth
- Magnoliaceae: coed a llwyni o'r Amerig ac Asia, 227 rhywogaeth e.e. magnolias, tiwlipwydd
- Myristicaceae: coed o'r trofannau, 475 rhywogaeth e.e. nytmeg
- Piperales
- Aristolochiaceae: planhigion cyntefig â blodau tiwbaidd, 480 rhywogaeth e.e. esgorlys
- Hydnoraceae: parasitiaid o Dde a Chanolbarth America, Affrica ac Arabia, 7 rhywogaeth
- Lactoridaceae: llwyn o Ynysoedd Juan Fernández yn Tsile, 1 rywogaeth
- Piperaceae: trofannau ac is-drofannau, 3615 rhywogaeth e.e. pupur du
- Saururaceae: Gogledd America a Dwyrain Asia, 6 rhywogaeth
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Stevens, P. F. (2001 ymlaen). Angiosperm Phylogeny Website. Adalwyd ar 17 Ebrill 2012.
- ↑ 2.0 2.1 Hennessey, Kathryn & Victoria Wiggins, goln. (2010) The Natural History Book, Dorling Kindersley, Llundain.
- ↑ The Angiosperm Phylogeny Group (2009) An update of the Angiosperm Phylogeny Group classification for the orders and families of flowering plants: APG III Botanical Journal of the Linnean Society 161 (2), 105–121.
- Heywood, Vernon H.; Richard K. Brummitt, Ole Seberg & Alastair Culham (2007) Flowering Plant Families of the World, Royal Botanic Gardens, Kew.
- Stevens, P. F. (2001 ymlaen). Angiosperm Phylogeny Website. Adalwyd ar 17 Ebrill 2012.