Mahasen al-Khateeb
Artist o Balesteina oedd Mahasen Al-Khateeb (1993 - 18 Hydref 2024), a oedd yn arbenigo mewn arlunio a dylunio cymeriadau. Daeth i amlygrwydd yn ystod goresgyniad Israel ar Gaza (2023‒24). Yn ystod yr hil-laddiad hwn o Balisteiniaid gan Israel, defnyddiodd gelf weledol i ddarlunio’r ddioddefaint a’r erchylltra a gafwyd yn ystod yr ymosodiadau, i ledaenu achos y Palesteiniaid ac i eiriol dros hawliau dynol.[1]
Mahasen al-Khateeb | |
---|---|
Ganwyd | 1993 Jabaliya |
Bu farw | 19 Hydref 2024, 20 Hydref 2024 Llain Gaza |
Dinasyddiaeth | Palesteina |
Galwedigaeth | arlunydd, darlunydd |
Galwedigaeth
golyguBythefnos cyn 7 Hydref, buddsoddodd ei holl gynilion mewn stiwdio, lle ymdrechodd i gael rhywfaint o annibyniaeth broffesiynol i wneud ei gwaith mor ddiduedd â phosibl. Fodd bynnag, dinistriwyd ei stiwdio'n llwyr. Defnyddiodd yr ychydig incwm a gafodd i gynnal ei theulu. Darparodd hefyd gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim i Balesteiniaid eraill a oedd yn dyheu am ddatblygu eu sgiliau artistig.[2]
Fe'i hystyriwyd yn artist dawnus,[3] a cheisiodd gyfleu naratif cryf a ddeilliai o realiti llym y rhyfel, yn aml trwy gyfryngau cymdeithasol. Ataliodd awdurdodau Israel bron pob cysylltiad Rhyngrwyd yn Gaza; yn ffodus, roedd yn un o'r ychydig a fedrai gael cysylltiad gwe, a defnyddiai gyfryngau cymdeithasol, fel Instagram, i ledaenu ei chynnyrch artistig. Cydweithiodd Al-Khateeb â llawer o asiantau Arabaidd a sefydliadau rhyngwladol.[4]
Dyluniodd ei gwaith olaf, o'r enw Dywedwch wrthyf beth rydych chi'n ei deimlo pan welwch person yn llosgi, er cof am Shaban al-Dalu, llanc 19 oed wedi'i losgi i farwolaeth pan fomiodd Israel Ysbyty al-Aqsa ddyddiau ynghynt.[5][6] Bu farw yn fuan wedi hynny, ar ôl cael ei tharo gan un o fomiau Israel yn ei chymdogaeth.
Etifeddiaeth
golyguAr ôl ei marwolaeth, dyfarnwyd sylw arbennig iddi gan Ŵyl Comics & Games Lucca.[3]
Yng Ngwlad y Basg, galwodd nifer o undebau, gan gynnwys ELA, LAB, UGT, a CCOO gyfarfodydd yn Pamplona, Donostia, Bilbao a Vitoria-Gasteiz i'w choffau, talu teyrnged iddi, a mynnu diwedd i hil-laddiad y Palesteinaid. Trefnodd nifer o gymdeithasau myfyrwyr hefyd gyfarfodydd mewn sefydliadau addysgol ac academaidd yng Ngwlad y Basg. Cydweithiodd Al-Khateeb â'r gymdeithas pro-Palesteina Gernika-Palestina.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Mahasen al-Khateeb: Artist who depicted war in Gaza killed in Israeli air strike". Middle East Eye (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-07.
- ↑ "Mahasen al-Khateeb: Artist who depicted war in Gaza killed in Israeli air strike". Middle East Eye (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-07.
- ↑ 3.0 3.1 "Special mention to Palestinian cartoonist Mahasen Al-Khatib at the Lucca Comics & Games Festival - ChannelDraw" (yn Saesneg). 2024-11-01. Cyrchwyd 2024-11-07.
- ↑ "Special mention to Palestinian cartoonist Mahasen Al-Khatib at the Lucca Comics & Games Festival - ChannelDraw" (yn Saesneg). 2024-11-01. Cyrchwyd 2024-11-07.
- ↑ Gardner, Alan (2024-10-23). "Mahasen al-Khateeb – RIP". The Daily Cartoonist (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-07.
- ↑ "Mahasen al-Khateeb: Artist who depicted war in Gaza killed in Israeli air strike". Middle East Eye (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-07.
- ↑ "Gernika-Palestina elkarteko kolaboratzaile bat hil du Israelek, Gazan". Berria (yn Basgeg). 2024-10-21. Cyrchwyd 2024-11-07.