Mandy Jones (gwleidydd)

Mae Mandy Jones yn wleidydd a oedd yn aelod Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros rhanbarth Ogledd Cymru yn rhwng 27 Rhagfyr 2017 a Mai 2021.[1][2]

Mandy Jones
Aelod o Senedd Cymru
dros Rhanbarth Gogledd Cymru
Yn ei swydd
27 Rhagfyr 2017 – 29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganNathan Gill
Manylion personol
GanwydWolverhampton, England
CenedligrwyddPrydeinig
Plaid wleidyddolAnnibynnol (2017-2019, 2020-Presennol)
Cysylltiadau gwleidyddol
arall
Alma materColeg Llysfasi
SwyddFfermwr, Gwleidydd
Rhan o'r Independent Alliance for Reform yng nghyd a Caroline Jones a David Rowlands

Cefndir golygu

Gweithiodd Jones fel contractwr fferm a bugail yng ngogledd ddwyrain Cymru. Bu'n astudio Amaethyddiaeth a Gofal Anifeiliaid Bach yng Nholeg Llysfasi. Magodd ei theulu yn ardal Corwen.[3]

Gyrfa wleidyddol golygu

Sefodd Jones dros UKIP yn etholaeth De Clwyd yn Etholiad Cyffredinol 2015. Sefodd hefyd dros UKIP yn Ne Clwyd yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol 2016, gan ddod yn bedwaredd tu ôl i Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.[4] Fel y trydydd ymgeisydd UKIP ar rhestr rhanbarthol Gogledd Cymru, methodd sicrhau sedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.[5]

Yn dilyn ymddiswyddiad cyn Aelod Cynulliad UKIP Nathan Gill ym mis Rhagfyr 2017 cafodd Jones ei chadarnhau ar 27 Rhagfyr fel yr AC newydd (am mai hi oedd yr ymgeisydd UKIP nesaf ar y rhestr ranbarthol). Cymerodd ei dyletswyddau yn dilyn seremoni cymryd llw, a gynhaliwyd ar 29 Rhagfyr yn adeiladau y Cynulliad ym Mae Colwyn.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "New North Wales UKIP AM following resignation of Nathan 'you're stuck with me' Gill". Deeside.com (yn Saesneg). 28 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2017.
  2. "Mandy Jones confirmed to replace Nathan Gill in the Welsh Assembly". South Wales Argus (yn Saesneg). 28 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2017.
  3. "Mandy Jones, UKIP candidate for Clwyd South". Daily Post (yn Saesneg). North Wales. 21 Ebrill 2015. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2017.
  4. "Russell George and Ken Skates hold on to their seats in Welsh Assembly elections". Shropshire Star (yn Saesneg). 6 Mai 2016. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2017.
  5. "New UKIP AM after Nathan Gill resignation". BBC News (yn Saesneg). 28 December 2017. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2017.
  6. "UKIP's Mandy Jones sworn in as party's new North Wales AM". BBC News (yn Saesneg). 29 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2017.