Llanddeiniol, Ceredigion

pentref 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanrhystud, Ceredigion

Pentref bychan yng nghymuned Llanrhystud, Ceredigion, Cymru, yw Llanddeiniol.[1][2] Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y sir tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanrhystud a thua 2 filltir i'r dwyrain o arfordir Bae Ceredigion, tua 6 milltir i'r de o Aberystwyth. Mae'n gorwedd ar y lôn sy'n cysylltu Llanrhystud a Llanilar.

Llanddeiniol, Ceredigion
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanrhystud Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.32731°N 4.111292°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN564722 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Erthygl am bentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Llanddeiniol (gwahaniaethu).

Mae'n debyg y cafodd eglwys Llanddeiniol ei sefydlu gan Deiniol, sant Cymreig o'r 6g sy'n nawddsant dinas Bangor, Gwynedd. Mae'r eglwys bresennol yn adeilad cymharol ddiweddar.[3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 12 Chwefror 2023
  2. British Place Names; adalwyd 27 Chwefror 2023
  3. T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1953), tud. 81-82.
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU