Roedd Marc Chagall (7 Gorffennaf 1887 - 28 Mawrth 1985) yn beintiwr, printiwr a chynllunydd. Bu’n gysylltiedig gyda nifer o arddulliau celfyddydol, cyfunodd elfennau Ciwbiaeth, Symbolaeth a Fauve gyda'i ddehongliad unigryw o gelf werinol Iddewig dwyrain Ewrop. Dangosodd ei waith Fi a'r Pentref (1911) syniadaeth Swrealaeth rhai blynyddoedd cyn ffurfio mudiad y Swrrealaidd ei hun. Yn fodernydd cynnar, creodd Chagall waith yn bron bob cyfrwng celfyddydol, yn cynnwys setiau llwyfan, engrafiadau (etchings) Beiblaidd a gwydr lliw.[1]

Marc Chagall
FfugenwShagal, Moishe Edit this on Wikidata
GanwydМоисей Хацкелевич Шагал Edit this on Wikidata
24 Mehefin 1887 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Vitebsk, Liozna Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 1985 Edit this on Wikidata
Saint-Paul-de-Vence Edit this on Wikidata
Man preswylSt Petersburg, Moscfa, Ffrainc, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Ymerodraeth Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd, di-wlad Edit this on Wikidata
Alma mater
  • School Yehuda Pen in Vitebsk
  • Académie de La Palette Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, gwneuthurwr printiau, bardd, lithograffydd, cynllunydd, arlunydd graffig, darlunydd, cynllunydd llwyfan, cerflunydd, drafftsmon, seramegydd, drafftsmon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBehind the House, Hommage à Apollinaire, I and the Village, Chagall Windows, Chagall Lounge Edit this on Wikidata
Arddullavant-garde, peintio lluniau anifeiliaid, celf tirlun, portread, celfyddyd grefyddol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadNiko Pirosmani, Paul Gauguin, Pablo Picasso, Henri Matisse, Maria Prymachenko Edit this on Wikidata
MudiadMynegiadaeth, Modernisme Edit this on Wikidata
PriodBella Rosenfeld, Virginia Haggard, Valentina Brodsky Edit this on Wikidata
PlantDavid McNeil, Ida Chagall Edit this on Wikidata
Gwobr/auCarnegie Prize, Yakir Yerushalayim, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Gwobr Erasmus, Wolf Prize in Arts, Doctor Anrhydeddus o'r Brifysgol Hebraeg, Jerusalem, honorary doctor of the Catholic University of Louvain, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.marcchagall.com Edit this on Wikidata

Ystyrir fel un o arlunwyr mwyaf llwyddiannus yr 20g.

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd yn Vitebsk, Belarws (Rwsia pryd hynny), ym 1887. Fe'i fagwyd ar aelwyd Iddewig draddodiadol gydag wyth o frodyr a chwiorydd. Gweithiodd ei dad mewn warws pysgod, ei fam yn cadw siop.

Er ei gefndir tlawd, fe lwyddodd i gael lle i astudio peintio yn St. Petersburg cyn symud i Baris ym 1910 ble cyfarfu nifer o arlunwyr ac ysgrifennwr yn cynnwys Guillaume Apollinaire a Robert Delaunay. Hefyd fe gafodd gyfle i weld llawer o ddarluniau prif fudiadau celf y cyfnod fel Argraffiadaeth (Impressionnisme) a Fauve. Cyn hir roedd Chagall yn arddangos ei waith wrth eu hochr.[2]

Bywyd fel arlunydd

golygu
 
Chagall – Orffiws

Yn dilyn arddangosfa lwyddiannus un dyn ym Merlin, 1914, dychwelodd Chagall i Vitebsk ble briododd ei gariad, Bella. Rhai wythnosau'n ddiweddarach fe ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf a chaewyd ffiniau Rwsia. Yn methu teithio fe'i ganolbwyntiodd ar beintio ei gymdogion Iddewig.

Yn frwdfrydig dros Chwyldro Rwsia ym 1917, penderfynodd aros yn Vitebsk. Fe'i benodwyd yn gomisar dros gelfyddyd a sefydlwyd Ysgol Celf y Bobl yn y dref ond i adael ym 1920 wedi dadleuon gyda chefnogwyr celfyddyd Swprematydd (Suprematist). Roedd y Swprematyddion y prif fudiad celfyddydol yn yr Undeb Sofietaidd yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y chwyldro, eu gwaith yn seiliedig ar siapiau geometrig ac yn tra gwahanol i waith Chagall.[3]

 
Marc Chagall, 1941

Symudodd i Foscow i gynllunio setiau ar gyfer Theatr Siambr Iddewig y wlad. Ym 1922 fe'i adawodd yr Undeb Sofietaidd am byth gan deithio i Ferlin ac wedyn yn ôl i Baris ym 1923.

Ym Mharis bu'n hynod o weithgar fel peintiwr ond hefyd yn gwneud engrafiadau (etchings). Yn ystod y 1930au fe'i deithiodd i'r Iseldiroedd, Sbaen, Gwlad Pwyl, Yr Eidal a Phalestina. Ym Mhalestina fe ymddiddorodd yn hanes a bywyd Iddewig a fu'n ysbrydoliaeth i'w engrafiadau Beiblaidd.[3]

Bu Chagall yn un o'r arlunwyr a gondemniwyd eu gwaith yn Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsiaidd pan ddaethant i rym yn yr Almaen. Llosgwyd llyfrau a malwyd darluniau a cherfluniau modern nad oedd yn gyd fynd â syniadaeth. Roedd Chagall, fel arlunydd modern ac Iddew a chefnogodd y Comiwnyddion Sofietaidd mewn perygl arbennig. Pan feddiannodd Ffrainc gan y Natsiaidd bu Chagall yn ffodus i ddianc i'r Unol Daleithiau mewn pryd. Lladdwyd y boblogaidd Iddewig bron i gyd o'i dref wreiddiol Vitebsk yn Belarws.[4]

Ar ôl y rhyfel fe'i symudodd yn ôl i fyw yn Ffrainc ble fu'n hynod o weithgar mewn nifer o feysydd a chyfryngau trwy'r degawdau canlynol. Ystyrir Chagall fel yr arlunydd mawr olaf y mudiad modern hanner cyntaf yr 20g (Bu farw Joan Miró dwy flynedd yn gynt). Gweler ei waith yn gyfuniad cwbl unigryw o'r avant garde arloesol dan ddylanwad traddodiad gwerinol Iddewig ei blentyndod.

Cofir yn bennaf am ei ffigyrau angylaidd yn hedfan fel mewn breuddwyd uwch tirwedd hud a lledrith rhyw ‘’sitetl’’ dychmygol.

Enillodd Wobr Erasmus ym 1960.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Benjamin Harshav: Marc Chagall and his times: a documentary narrative. Contraversions: Jews and Other Differenc. Stanford University Press; 1 edition. August 2003. ISBN 0804742146. Polonsky, Gill, Chagall Phaidon, 1998
  2. Marc Chagall ar wefan Biography.com.
  3. 3.0 3.1 http://www.biography.com/people/marc-chagall-9243488
  4. Davies, Serena. "Chagall: Love and Exile by Jackie Wullschlager - review", UK Daily Telegraph, 11 October 2008
  5. (Saesneg) "Former Laureates: Marc Chagall". Praemium Erasmianum Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-04. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.