Palesteina
Tiriogaeth hanesyddol yn y Dwyrain Canol sy'n gorwedd rhwng y Môr Canoldir ac Afon Iorddonen a gwlad a grewyd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf o dan reolaeth Prydain wrth i hen Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Dwyrain Canol ddarnio yw Palesteina. Cyfeirir ati yn aml wrth yr enw Y Tir Sanctaidd hefyd, am ei bod yn cynnwys lleoedd sy'n gysegredig i'r tair crefydd Abrahamig, sef Cristnogaeth, Iddewiaeth ac Islam. Er na fu iddi hanes hir fel uned wleidyddol fodern, llwyddwyd yn sgîl sefydlu gwladwriaeth Iddewig Israel ar yr un diriogaeth, i lunio hunaniaeth Balesteinaidd genedlaethol, a gâi ei mynegi'n bennaf trwy Fudiad Rhyddid Palesteina (PLO).
Math | rhanbarth, ardal hanesyddol, divided region, ardal ddiwylliannol, tiriogaeth dan feddiant, cyrchfan i dwristiaid |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Lefant |
Lleoliad | De-orllewin Asia |
Gwlad | Palesteina |
Cyfesurynnau | 31.625321°N 35.145264°E |
- Mae'r erthygl hon yn disgrifio'r tiriogaeth hanesyddol a elwir yn 'Palesteina'. Ceir erthygl arall am Wladwriaeth Palesteina heddiw.
Bellach mae gan y Palesteiniaid wladwriaeth yn y Tiriogaethau Palesteinaidd hyn: Llain Gaza, rhwng Israel a'r Aifft ar lan y Môr Canoldir, a reolir gan Awdurdod Cenedlaethol Palesteina. Mae'r Lan Orllewinol, rhwng Israel a Gwlad Iorddonen, hefyd o dan reolaeth yr Awdurdod hwn. Fodd bynnag, mae'r tiriogaethau hyn yn cael eu hystyried yn Diriogaethau a Feddianwyd gan y Palesteiniaid a'r Cenhedloedd Unedig am fod Israel yn rheolwr de facto arnynt o hyd. Mae tua 100 o wledydd led-led y byd yn cydnabod hawl y Palesteiniaid i'w hanibyniaeth. Ar 3 o Hydref 2014 cafwyd anerchiad gan Brif Weinidog Sweden y byddai ei wlad yn cydnabod cenedl Palesteina ac yna ar 13 Hydref 2014 pleidleisiodd Llywodraeth y DU o 274 i 12 o blaid cydnabod Palesteina yn genedl.[2][3][4] Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai y Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor Ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.
Daearyddiaeth
golygu- Prif: Daearyddiaeth Palesteina
Mae Palesteina heddiw yn diriogaeth sy'n cynnwys gwladwriaeth Israel a'r Tiriogaethau Palesteinaidd. Mae'r diriogaeth yma yn cael ei ffinio gan Libanus a Syria i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r dwyrain a'r Aifft (gorynys Sinai) i'r de-orllewin. Ceir arfordir hir ar lan y Môr Canoldir. Dynoda Afon Iorddonen y ffin ddwyreiniol.
Gweler hefyd:
Hanes
golyguGorwedd Palesteina mewn lleoliad strategol rhwng yr Aifft i'r gorllewin a gweddill y Lefant a'r Dwyrain Canol i'r gogledd a'r dwyrain. Mewn canlyniad mae sawl ymerodraeth wedi brwydro i'w meddiannu a'i rheoli ers gwawr hanes.
Mae pobl wedi byw yn yr ardal o'r cyfnod cynhanesyddol ymlaen. Ceir rhai o ddinasoedd hynaf y byd yno, fel Jericho. Tua diwedd yr ail fileniwm Cyn Crist ymsefydlodd yr Hebreaid yno, wedi eu harwain allan o gaethiwed yn yr Hen Aifft gan Moses, yn ôl Llyfr Exodus yn yr Hen Destament. Sefydlodd y brenin Saul deyrnas yno tua 1,000 CC. Bu'n gartref i'r Ffilistiaid a sawl pobl arall hefyd, fel y Ffeniciaid a sefydlodd canolfannau fel Gaza. Yn dilyn teyrnasiad y brenin Solomon ffurfiwyd teyrnasoedd Israel a Judaea. Cwmcwerwyd y cyntaf gan yr Assyriaid a'r olaf gan y Babiloniaid. Bu'n rhan o ymerodraeth Alecsander Fawr am gyfnod cyn dod yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Yma, tua'r flwyddyn 3 CC efallai, y ganed Iesu o Nasareth.
O ddiwedd y 4g OC ymlaen, ymadawodd nifer o Iddewon. Daeth yn ganolfan pererindod i Gristnogion ac i'r Mwslemiaid hefyd, yn dilyn ei choncwest gan yr Arabiaid yn 636 OC. Cipiwyd rhannau sylweddol o Balesteina gan y Croesgadwyr a bu yn eu meddiant o 1099 hyd ganol y 13g. Ar ôl cyfnod dan reolaeth yr Aifft, cipiwyd yr ardal gan Ymerodraeth yr Otomaniaid yn 1516 ac fe'i rheolwyd ganddynt hyd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yr 20g - Cyfnod Mandad Prydain
golyguAr ddiwedd cyfnod rheolaeth yr Otomaniaid agorwyd Palesteina i ddylanwadau newydd o'r Gorllewin. Dechreuodd Iddewon a fu ar wasgar ymsefydlu yno o ganol y 19g ymlaen. Gyda hyn, datblygodd Seionaeth gyda'r nod o sefydlu gwladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina. Arwydd o hyn oedd sefydlu Tel Aviv fel dinas Iddewig newydd yn 1909. Yn ôl rhai awdurdodau roedd tua 100,000 o Iddewon ym Mhalesteina erbyn y 1900au, ond hanerwyd eu nifer yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn 1918 cipiwyd Palesteina gan Brydain. Cadarnheuwyd rheolaeth Prydain gan Fandad Cynghrair y Cenhedloedd yn 1922. Gyda Datganiad Balfour yn 1917, roedd Prydain eisoes wedi mynegi ei chefnogaeth i sefydlu gwladwriaeth Iddewig, ond arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng yr ymsefydlwyr Iddewig a'r Palesteiniaid brodorol wrth i'r Seionwyr gipio eu tir. David Lloyd George fu'n bennaf gyfrifol am hynny yn ei amser fel Gweinidog Rhyfel a Phrif Weinidog y DU. Saethwyd dros 5,000 o Balesteiniaid gan filwyr Prydeinig rhwng 1936 ac 1939. Cafwyd sawl ymosodiad terfysgol a chyflafanau gan grwpiau Seionaidd terfysgol fel y Gang Stern. Dylifodd nifer o ymsefydlwyr Iddewig o Ewrop i'r ardal a gwaethygodd y sefyllfa. Yn 1947 penderfynodd y Cenhedloedd Unedig rannu Palesteina yn ddwy wladwriaeth, un i'r Iddewon a'r llall i'r Palesteiniaid, yn unol â 'Penderfynaid Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 181' (UN General Assembly Resolution 181). Ond gwrthodwyd hyn gan y Palesteiniaid am y byddai'n golygu colli llawer o'r tiroedd gorau. Rhoddodd Prydain ei mandad heibio yn 1948 a chafwyd rhyfel gan yr Israeliaid ar y Palesteiniaid. Trawsfeddianwyd eu tiroedd a gorfodwyd miloedd lawer ohonynt i ffoi am eu bywydau: cyfeirir at hyn gan y Palesteiniaid fel Al Nakba ("Y Catastroffi").
Sefydlwyd gwladwriaeth Israel yn 1948.
Mae'r linell-amser hon yn dangos pa wlad a oedd yn hawlio pwerau sofren dros Balesteina. Prif erthygl: Palesteina.
Y diaspora Palesteinaidd
golyguAr ôl sefydlu Israel ac ers hynny hefyd, mae nifer fawr o Balesteiniaid wedi gorfod ffoi eu mamwlad. Mae llawer o'r rhain yn byw mewn gwersi ffoaduriaid yn y gwledydd cyfagos. Ffoaduriaid o'r tir a feddianwyd i greu Israel yw trwch poblogaeth Llain Gaza a chanran uchel o drigolion Y Lan Orllewinol hefyd. Yn ogystal mae dros filiwn o Balesteiniaid yn byw yn Israel o hyd ond mae llywodraeth Israel yn cyfeirio atynt fel 'Arabiaid Israelaidd': mae ganddynt lai o hawliau sifil na'r Iddewon Israelaidd a safon byw sy'n is yn gyffredinol. Yng ngweddill y Dwyrain Canol, ceir y nifer uchaf o Balesteiniaid ar wasgar yng Ngwlad Iorddonen, Syria a Libanus lle maent yn byw gan amlaf mewn gwersi ffoaduriaid dan ofal UNRWA. Mae dros 800,000 yn byw yn yr Amerig, yn bennaf yn UDA a Tsile.
- Gwlad Iorddonen 2,700,000
- Israel 1,318,000
- Syria 434,896
- Libanus 405,425
- Tsile 400,000
- UDA 200,000
- Yr Aifft 70,245
- Hondwras 54,000
- Ciwait 50,000
- Brasil 50,000
- Iemen 24,000
- Canada 24,000
- Awstralia 15,000
- Colombia 12,000
- Gwatemala 1,400
Gweler hefyd: Al Nakba
Plant Palesteinaidd
golyguYn ystod ymosodiad 2008 Israel ar y Palesteiniaid yn Llain Gaza credir fod oddeutu bron i 400 o blant. Yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol a ymwelodd â Llain Gaza yn 2009 (sef Britain-Palestine All Party Parliamentary Group) mae oddeutu 6,500 o blant wedi'u carcharu yn Israel. Ym Mehefin 2012 croesawodd Richard Burden AS (sef cadeirydd y grŵp) Adroddiad a gomisiynwyd gan y Swyddfa Dramor a ddaeth i'r canlyniad fod Awdurdodau Israel yn fwriadol dorri Pedwerydd Confensiwn Genefa dros Hawliau'r Plentyn.[5]
Rhwng 2000 a 2009 cafodd 6,700 o blant dan 18 oed eu harestio gan Awdurdodau Israel, yn ôl Amddiffyn Plant Rhyngwladol (Defence for Children International). Roedd 423 ohonynt mewn carchardai yn 2009; erbyn 280 roedd y ffigwr i lawr i 280. Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod hyn yn gwbwl groes i Ddeddfau Rhyngwladol.[6] Nid yw'n anghyffredin i'r plant gael eu dal mewn carchar am 6 mis heb weld eu teulu a'u bod yn cael eu poenydio.
Rhanbarthau a dinasoedd
golyguDyma restr o is-adrannau gweinyddol, a elwir yn 'Llywodraethiaethau Palesteina' (Governorates of Palestine):
Rhanbarth | Arwynebedd (km2)[7] | Poblogaeth | Dwysedd (y km2) | Prifddinas y Rhanbarth |
---|---|---|---|---|
Llywodraethiaeth Jenin | 583 | 311,231 | 533.8 | Jenin |
Llywodraethiaeth Tubas | 402 | 64,719 | 161.0 | Tubas |
Llywodraethiaeth Tulkarm | 246 | 182,053 | 740.0 | Tulkarm |
Llywodraethiaeth Nablus | 605 | 380,961 | 629.7 | Nablus |
Llywodraethiaeth Qalqilya | 166 | 110,800 | 667.5 | Qalqilya |
Llywodraethiaeth Salfit | 204 | 70,727 | 346.7 | Salfit |
Llywodraethiaeth Ramallah ac Al-Bireh | 855 | 348,110 | 407.1 | Ramallah |
Llywodraethiaeth Jericho | 593 | 52,154 | 87.9 | Jericho |
Llywodraethiaeth Jeriwsalem | 345 | 419,108a | 1214.8 | Jeriwsalem |
Llywodraethiaeth Bethlehem | 659 | 216,114 | 927.9 | Bethlehem |
Llywodraethiaeth Hebron | 997 | 706,508 | 708.6 | Hebron |
Llywodraethiaeth Gogledd Gaza | 61 | 362,772 | 5947.1 | Jabaliya |
Llywodraethiaeth Gaza | 74 | 625,824 | 8457.1 | Dinas Gaza |
Llywodraethiaeth Deir al-Balah | 58 | 264,455 | 4559.6 | Deir al-Balah |
Llywodraethiaeth Khan Yunis | 108 | 341,393 | 3161.0 | Khan Yunis |
Llywodraethiaeth Rafah | 64 | 225,538 | 3524.0 | Rafah |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Mae'r map gwreiddiol i'w gael yma
- ↑ [1][dolen farw]
- ↑ Beaumont, Peter (3 Hydref 2014). "Sweden to recognise state of Palestine". The Guardian. London. Cyrchwyd 14 Hydref 2014.
- ↑ "MPs back Palestinian statehood alongside Israel". BBC News. BBC. 14 Hydref 2014. Cyrchwyd 14 Hydref 2014.
- ↑ [2] Archifwyd 2013-01-03 yn y Peiriant Wayback Gwefan Richard Burdon AS); adalwyd 06/12/2012
- ↑ "Palestinian Prisoners Day 2009: Highest number of children currently in detention since 2000". 18 April 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-04. Cyrchwyd 2012-12-06. Text "Amddiffyn Plant Rhyngwladol: Adran Palesteina" ignored (help)
- ↑ "Palestine". GeoHive. Johan van der Heyden. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 3 OHydref 2015. Check date values in:
|access-date=
(help)