Marion Fellows
Gwleidydd o'r Alban yw Marion Fellows (ganwyd 5 Mai 1949)[1] a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Motherwell a Wishaw; mae'r etholaeth yn siroedd Dwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark, yr Alban. Mae Marion Fellows yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Marion Fellows AS | |
![]()
| |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Rhagflaenydd | Frank Roy |
---|---|
Geni | Yr Alban | 5 Mai 1949
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Motherwell a Wishaw |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Cartref | Wishaw |
Alma mater | Prifysgol Heriot Way |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Astudiodd cyfrifeg ym Mhrifysgol Heriot Way a darlithodd astudiaethau busnes am 17 mlynedd yng Ngogledd Gorllewin Lothian ble roedd yn weithgar gyda'r undebau.
Bu'n byw gyda'i theulu yn Wishaw a Bellshill ers y 1970au. Fe'i hetholwyd yn 2012 fel cynghorydd sir ar Gyngor Gogledd Swydd Lanark dros ardal Wishaw.
Etholiad 2015
golyguYn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Marion Fellows 27275 o bleidleisiau, sef 56.5% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +38.4 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 11898 pleidlais.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ My Parliament; adalwyd 5 Awst 2015
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban