Mark Robert Davey
Ffotograffydd yw Mark Robert Davey (ganed 20 Medi 1968 yn Ilford, Llundain Fwyaf, Lloegr). Symudodd Davey i Dalysarn yn Nyffryn Nantlle gyda'i deulu pan oedd yn naw oed, ac wedyn i Gricieth. Dysgodd Gymraeg fel plentyn. Mae'n hoff o natur a dringo mynyddoedd yng Nghymru a'r byd. Ar hyn o bryd mae'n byw yn yr Almaen.
Mark Robert Davey | |
---|---|
Ganwyd | 20 Medi 1968 Redbridge |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | ffotograffydd |
Mae ffotograffau Davey mewn du a gwyn yn bennaf. Tirwedd a phobl yng Nghymru yw ei hoff themâu. Yn aml mae'n defnyddio'r Ddraig Goch Cymru a'r talfyriad MRD yn ei ffotograffau. Mae wedi bod yn gweithio ar lyfrau ac erthyglau yng Nghymru, a hefyd yng ngweddill Ewrop ac America. Mae hefyd yn gweithio gyda ffilm ac mae ganddo ddiddordeb mewn ffotograffiaeth digidol, portreadau stryd, portreadau newydd gan bobol.
Bu'n ffotograffydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ers deng mlynedd. Mae wedi creu gwaith ar gyfer nifer o sefydliadau Cymreig a gweithio gyda enwogion a phobl eraill blaenllaw yn niwylliant Cymru megis Mererid Hopwood, Dafydd Iwan a Britta Schulze-Thulin yn yr Almaen, sy'n arbennigo ar Gymru a'r iaith Gymraeg.
Arddangosfeydd (Detholiad)
golygu- "En Route", Castell Hanstein, Yr Almaen, Mai 2006 - Medi 2006
- Archif Sgrin a Sain yn Riga, Latfia, Ebrill 2007 - Hydref 2007
- Amgueddfa Mühlhausen, Yr Almaen, Ebrill 2007 - Hydref 2007
- Eglwys St. Concordia, Ruhla, Yr Almaen, Haf 2007
- Arddangosfa VW Kassel, Yr Almaen, Ebrill 2007 - Rhagfyr 2007
Bu arddangosfa mawr am Gymru yn Llyfrgell y Brifysgol a Sacsoni Isaf, Göttingen, Yr Almaen, yn 2008, o dan y teitl: "Panorama Cymru" (Paratoiadau gan Dr. Silke Glitsch, Dr. Jens Mittelbach, Annette Strauch, M.A.). Mae gan y Llyfrgell yno gasgliad o'r enw Sondersammelgebiet Keltologie (Casgliad Celtaidd), sy'n cynnwys pob llyfr sydd wedi ei gyhoeddi yng Nghymru heddiw. Mae llyfr gan Brynley F. Roberts, Dylan Thomas ac y Mabinogi i'w gweld yno.
Ffynonellau
golygu- Cylchgrawn Black and White, Hydref 2005
- Western Mail, 4 Chwefror 2005
- Y Cymro 16 Hydref 2005, 8 Medi 2006 a 20 Hydref 2006
- ephotozine.com/hasselblad.pdf Gwefan Hasselblad[dolen farw] (Saesneg)
- Linsenstudio Rotermund Archifwyd 2010-08-25 yn y Peiriant Wayback (Almaeneg)
- http://www.sub.uni-goettingen.de/archiv/ausstell/2008/wales.html
- Fideo ar wefan YouTube (Saesneg)
- Rüganer Anzeiger online Archifwyd 2008-02-15 yn y Peiriant Wayback (Almaeneg)
- Papur Newydd "Göttinger Tageblatt", 9 Ebrill 2008
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Mark Robert Davey (Saesneg)
- Heimatverein Hanstein Archifwyd 2007-07-02 yn y Peiriant Wayback (Almaeneg)
- SUB Göttingen (Almaeneg)
- Kultura Archifwyd 2009-03-11 yn y Peiriant Wayback Gwefan Diwylliant Latvia (Saesneg)
- Kulturportal (Almaeneg)
- Fideo ar wefan YouYube (Almaeneg)
- Uni-Goettingen (Almaeneg)
- Gwefan Putbus[dolen farw] (Almaeneg)
- Blog Wordpress (Almaeneg)
- ugoe.de/de/text/1269.html?cid=12708 (Almaeneg)