Martha Hughes Cannon
Roedd Martha Hughes Cannon (1 Gorffennaf 1857 – 10 Gorffennaf 1932) a anwyd yn Llandudno, Gogledd Cymru, yn ffisegydd a Swffraget amlwg yn Unol Daleithiau America. Bu hefyd yn seneddwraig yn nhalaith Utah: y cyntaf drwy UDA i gyd, pan gafodd ei hethol yn 1895, gan drechu ei gŵr ei hun a oedd hefyd yn ymgeisydd. Ei llysenw oedd "Mattie".[1]
Martha Hughes Cannon | |
---|---|
Ganwyd | 1 Gorffennaf 1857 Llandudno |
Bu farw | 10 Gorffennaf 1932 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, meddyg, swffragét |
Swydd | member of the State Senate of Utah |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Angus M. Cannon |
Plant | James Hughes Cannon |
Peter ac Elizabeth Evans Hughes oedd ei thad a'i mam ac roedd y teulu'n aelodau o Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf. Ar 30 Mawrth 1860 daliodd y teulu long o'r enw Underwriter yn Lerpwl a chyrhaeddodd Efrog Newydd ar ddydd Calan.[2]
Ym 1882 derbyniodd radd mewn Fferylliaeth gan Ysgol Feddygol Prifysgol Pennsylvania yn ogystal â diploma.
Ceir cerflun wyth troedfedd yn Utah i'w choffáu ac enwyd The Martha Hughes Cannon Health Building yn Salt Lake City, Utah ar ei hôl. Dychwelodd i Salt Lake City gan weithio fel fferyllydd yn Ysbyty'r Paith rhwng 1882 a 1886.
Cafodd ei chladdu yn Salt Lake City (40°46′37″N 111°51′29″W / 40.777°N 111.858°W).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Gymraes sy'n eicon Americanaidd , BBC Cymru Fyw, 5 Mawrth 2018.
- ↑ "CANNON, MARTHA MARIA HUGHES (1857 - 1932), meddyg a gwleidydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-08-24.
Dolennau allanol
golygu- Martha Hughes Cannon ar Find a Grave
- Teyrnged i Martha Hughes Cannon ar y 'Salt Lake Tribune' Archifwyd 2006-11-14 yn y Peiriant Wayback
- Angus M Cannon: teyrnged gan ei ŵyr a hanesydd Donald Q. Cannon Archifwyd 2013-07-25 yn y Peiriant Wayback
- Teyrnged i Angus M. Cannon Archifwyd 2013-10-21 yn y Peiriant Wayback
- Arddangosfa 'Women of the West' Archifwyd 2003-01-24 yn archive.today
- Utah Capitol rotunda gyda gwybodaeth oddi wrth cerflyn Martha Archifwyd 2006-11-22 yn y Peiriant Wayback
- Martha Hughes Cannon Dogfennau KUED