Mary Gillham

naturiaethwraig ac addysgydd

Roedd Dr Mary Eleanor Gillham MBE (26 Tachwedd 1921 - 23 Mawrth 2013) yn naturiaethwr Cymreig, darlithydd prifysgol, ac awdur, a oedd yn preswylio am sawl blwyddyn yng Ngwaelod-y-garth ac yna yn Radur, yng Nghaerdydd, Cymru hyd at ei marwolaeth yn 2013.[1]

Mary Gillham
Ganwyd26 Tachwedd 1921 Edit this on Wikidata
Ealing Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mawrth 2013, 23 Mawrth 2013 Edit this on Wikidata
Ysbyty Brenhinol Morgannwg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdarlithydd, ysgrifennwr, botanegydd, naturiaethydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Melbourne Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Magwraeth a choleg golygu

Ganed Mary Gillham yn un o faestrefi Llundain, a gwasanaethu am bum mlynedd yn ystod yr Ail Rhyfel Byd ym Myddin Merched y Tir gan weithio ar sawl fferm.[2]

Cafodd Gillham ei geni a'i magu yn Ealing, gorllewin Llundain ar 26 Tachwedd 1921 i'w mam Edith Gertrude a'i thad Charles Gillham, athro ysgol uwchradd. Roedd y teulu'n byw yn Birbeck Road yn South Ealing a mynychodd ysgolion yn Ealing.[3] Ym 1927 symudodd y teulu i dŷ newydd ei adeiladu ym Mharc Gunnersbury, a newidiodd ei enw yn ddiweddarach i Popes Lane, lle bu’n byw nes iddi symud i Gymru ym 1962.

Treuliodd lawer o'i hamser yng Nghymru. Fel myfyriwr ar ôl y rhyfel ym Mhrifysgol Cymru yn Aberystwyth a Bangor, enillodd radd mewn amaethyddiaeth, anrhydedd dosbarth cyntaf mewn botaneg, a PhD mewn ecoleg ynys.[4]

Bu’n darlithio ym mhrifysgolion Caerwysg (Dyfnaint), Massey (Seland Newydd), Melbourne (Awstralia), Kano (Nigeria), a bu’n gweithio yn yr Adran Addysg Oedolion yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd o 1961 hyd nes iddi ymddeol ym 1988.[5]

Gwaith golygu

Fel athrawes naturiaethwyr amatur (oedolion), gwelodd ei rôl fel dehonglydd data gwyddonol ar gyfer y lleygwr, ac aeth ati i ysgrifennu llyfrau ac erthyglau poblogaidd. Arbenigai ar gytrefi adar glan y môr, ac aeth ymchwil ar y rhain â hi i ynysoedd anghysbell mewn sawl rhan o'r byd, lle mae hi wedi byw mewn pebyll, cytiau, goleudai, ac ati. Roedd ei phrosiectau ymchwil pwysicaf o amgylch arfordiroedd gorllewin Cymru. (ei thesis PhD), Awstralia, Seland Newydd, a De Affrica, ac roedd hi'n un o'r menywod cyntaf i ymuno ag alldaith i'r Antarctig, ym 1959-60.[6][7]

Llyfryddiaeth golygu

  • 1963 – Sea-Birds. (Instructions to Young Ornithologists IV). Museum Press: London.
  • 1966 – A Naturalist in New Zealand. Museum Press: London.
  • 1967 – Sub-Antarctic Sanctuary: Summertime On Macquarie Island. Victor Gollancz: London.
  • 1977 – The Natural History of Gower. D. Brown and Sons Ltd: Cowbridge.
  • 1982 – The Historic Taf Valleys, Volume 2: In the Brecon Beacons National Park. Geology, Social History, Natural History. Merthyr Tydfil and District Naturalists' Society. (Gyda John Perkins a Jack Evans). ISBN 0-905928-21-0
  •  
    Mary Gillham's PhD thesis, 1953. Link to full thesis: https://issuu.com/sewbrec/docs/mary_scombinedthesis
    1982[dolen marw]Swansea Bay's Green Mantle. Wildlife on an Industrial Coast. D. Brown & Sons: Cowbridge. ISBN 0-905928-18-0
  • 1987 – Sand Dunes. (Glamorgan Heritage Coast Wildlife Series Volume 1). Glamorgan Wildlife Trust: Pen-y-bont ar Ogwr.
  • 1989 – Rivers. (Glamorgan Heritage Coast Wildlife Series Volume 2). Glamorgan Heritage Coast Project, Southerndown. ISBN 0-9508538-2-8
  • 1991 – Limestone Downs: Commons, Farms and Woods. Glamorgan Wildlife Trust: Bridgend.
  • 1993 – Coastal Downs: Ogmore and Dunraven, Glamorgan Heritage Coast Wildlife Series, Volume 4. Glamorgan Wildlife Trust: Bridgend. ISBN 0-9518015-1-1
  • 1994 – Sea Cliffs Cwm Mawr to Gileston. (Glamorgan Heritage Coast Wildlife Series Volume 5). Glamorgan Wildlife Trust: Pen-y-bont ar Ogwr.
  • 1998 – Town Bred – Country Nurtured: A Naturalist Looks Back Fifty Years. ISBN 0-9534074-0-3
  • 2000 – Island Hopping in Tasmania's Roaring Forties. A.H. Stockwell Ltd: Dyfnaint. ISBN 0-7223-3296-3
  • 2000 – Islands of the Trade Winds: An Indian Ocean Odyssey. Minerva Press. ISBN 0-7541-0857-0
  • 2001 – The Garth Countryside: Part of Cardiff's green mantle, A Natural History. Lazy Cat Publishing: Caerdydd. ISBN 0-9537707-0-2
  • 2002 – A Natural History of Cardiff: Exploring along the River Taff, being an account of the animal and plant life in and around our capital city, Volume 2. Lazy Cat Publishing: Caerdydd.
  • 2004 – A Natural History of Cardiff: Exploring along the Rivers Rhymney and Roath. Dinefwr Publishers Ltd: Wales. ISBN 1-904323-11-1
  • 2004 – Memories of Welsh Islands. Gwasg Dinefwr Press: Llandybie. ISBN 1-904323-08-1
  • 2005 – Salt Wind from the Cape. Lazy Cat Publishing: Caerffili.
  • 2007 – A Naturalist on Lundy: The Island Wildlife Over 50 Years. Halsgrove: UK. ISBN 1-84114-589-0
  • 2007 – Island Life. Discovering Britain's Offshore Gems. Halsgrove: UK. ISBN 1-84114-619-6

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: MBE .

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyddiad marw: "Dr Mary Gillham, English naturalist, dies|cardiffnaturalists.blogspot.co.uk".
  2. Gillham, Mary (1998). "Tenderfoot Cow Hand: Berkshire". Town Bred, Country Nurtured. J & P Davison. ISBN 0-9534074-0-3.
  3. Gillham, Mary (1998). "Introduction". Town Bred, Country Nurtured. J & P Davison. ISBN 0-9534074-0-3.
  4. Mary Gillham – her Life and Times – the first 80 years, Cardiff Naturalists; adalwyd 21 Rhagfyr 2016
  5. "Mary Shows the Write Stuff at 88". Wales Online. 5 Chwefror 2010. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2016.
  6. "The Project". Mary Gillham Archive Project. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-07. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2016.
  7. "The Women of Macquarie Island". Antarctica. 28 Mawrth 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-02. Cyrchwyd 20 Chwefror 2017.