Mary Lloyd Jones
Arlunydd a gwneuthurwr printiau o Gymru ydy Mary Lloyd Jones (ganed 1934, Pontarfynach, Ceredigion, Cymru)[1] sy'n byw yn Aberystwyth lle mae ei stiwdio. Mae ei gweithiau'n cynnwys techneg aml-haenau sy'n adlewyrchu ei diddordeb mewn esblygiad ieithyddol gan gynnwys marciau cynnar dynol a'r wyddor ogam. Mae hi wedi arddangos ei gweithiau ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Mary Lloyd Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1934 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd graffig |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Gwefan | http://www.marylloydjones.co.uk/ |
Gwaith
golyguMynychodd Mary Lloyd Jones Ysgol Celf Caerdydd yn syth ar ôl iddi adael yr ysgol. Ei huchelgais o'i phlentyndod oedd i fod yn artist. Fodd bynnag, ni ddechreuodd arddangos gwaith yn gyhoeddus tan 1966 pan oedd hi'n ei thridegau cynnar.[2] Mae Ceridwen yn esbonio'r blodeuo hwyr hwn drwy nodi ei bod hi'n Gymraes o gefndir gwledig.
Fel mae Lloyd Jones ei hunan yn sylwi, "At times I felt that I belonged to the wrong sex and was living in the wrong time and place to be a successful artist." [2] Ym 1989 gadawodd ei swydd fel Swyddog Celfyddydau Gweledol yn Nyfed er mwyn gweithio fel arlinudd llawn amser.[3] O hynny ymlaen datblygodd gwaith Mary Lloyd Jones i gymryd ffurf canfasau afreolaidd mawr. Roedd y gwaith yn gysylltiedig â lliain, pwytho a llifo-socian y brethyn.[4] Yn hwyrach yn ei bywyd, dychwelodd i ffurfiau mwy traddodiadol o baentio yn ogystal â chreu baneri mawr. Ysbrydolwyd gwaith Lloyd Jones yn fawr gan y tirlun lle magwyd hi, yn enwedig y tirlun sydd wedi'i greithio gan fwyngloddio. Mae ei synnwyr o'r lle hwn yn cael ei ymestyn hefyd gan ei hetifeddiaeth ddiwylliannol Gymraeg. Mae Ann Price-Owen yn cyfeirio ati fel curadur ei etifeddiaeth ddiwylliannol.[5] Serch hynny, mae profiadau tu allan i Gymru wedi darparu cyfnodau allweddol yn natblygiad ei gwaith. Ysgogwyd ei diddordeb yn y gwyddorau cynnar gan ymweliad i Ilkley Moor i weld y marciau Celtaidd sy'n cael eu alw'n 'gwpan a chylch'.[6] Wrth gynnwys y marciau hyn yn ei gwaith datblygodd gysylltiad ysbrydol gyda'r bardd a'r ysgolhaig Iolo Morgannwg a luniodd wyddor farddol ei hun yn ystod y 18g. Enwodd y wyddor hynny'n Goelbren. Ystyriodd Lloyd Jones y defnydd o sgriptiau fel y sgript hynafol Ogam yn ei gwaith fel cyfeirnod cynnil i'r arwahanrwydd Cymreig. Yn Haf 2009 arddangosodd Canolfan Crefft Ruthun waith cynnar tecstil Mary Lloyd-Jones' ac ysgogodd yr arddangosfa ail-werthusiad o'i gwaith o fewn cynulleidfa newydd.[7] Ymddangosodd ail arddangosfa yn 2013 mewn cylchgrawn o o'r enw Embroidery.[8] Yn Chwefror 2013 bu'n artist preswyl cyntaf yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth a symudodd i stiwdio newydd yn yr adeilad.[9]
Mae rhai o'i gweithiau yng nghasgliad cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd.[10]
Yn Hydref 2014 cyhoeddodd ei hunangofiant, 'No Mod Cons', "golwg fywiog ar ei hymdrechion i ddilyn gyrfa fel artist, ac i wella amodau gwaith artistiaid Cymreig".[11]
Bywyd personol
golyguGaned Mary Lloyd Jones yn 1934 yn ferch i deulu o siaradwyr Cymraeg.
- 2004 - The Colour of Saying, Oriel Theatr Clwyd
- 2004 - The Colour of Saying, Llantarnam Grange, Gwent
- 2005 - Gwaith newydd, Oriel Martin Tinney, Caerdydd
- 2006 - Iaith Cyntaf, Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- 2009 - Cloth works, Canolfan Rhuthun[9]
- 2013 - Signs of Life, Canolfan Crefft Ruthun[12]
- 2014 - A Journey from Devils Bridge, Oriel 1, Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth[13]
- 2023 - Mary Lloyd Jones, Oriel 1, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth[14]
Cyfnodau preswyl
golyguRhestr gan Oriel Martin Tinney.
- 1988 Preswyliad, Canolfan Tyrone Guthrie, Iwerddon
- 1990 Cyfnewid Stiwdio i Philadelphia UDA
- 1993 'Cwlwm Celtaidd / Ceangal Ceilteach'. Preswyliad tair mis. Cyngor Rhanbarthol Ucheldir yr Alban / Celfyddydau Gorllewin Cymru
- 1995 Tiwtor Gwadd, Rajastan, India
- 1997 Progetto Galles Celtico, Citta Di Adria, Yr Eidal
- 1997 Green Mountain College, Vermont, UDA
- 1998 Cywaith Cymru. Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998. Gosodiad a chydweithrediad ar bwnc Iolo Morganwg.
- 1999 Centre D'Art I Natura. Farerra de Pallars, Catalunya.
Llyfrau gan Mary Lloyd Jones
golygu- First Language (2006), Gwasg Gomer, Llandysul, ISBN 1-84323-540-4
- No Mod Cons (2014), Llygad Gwalch Cyf., ISBN 1-84524-228-9
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 BBC Arts Gwefan y BBC; Mary Lloyd Jones, adalwyd 2 Mehefin 2014.
- ↑ 2.0 2.1 Lloyd Morgan, Ceridwen (2002). Delweddau o'r ymylon: Bywyd a gwaith Mary Lloyd Jones. t. 7. ISBN 0862435579.
- ↑ Jenkins, Nigel (2001). Singing the landscape= 20. ISBN 1859028691.
- ↑ Ropek, Eve (2001). The Colour of Saying: Mary Lloyd Jones. t. 10. ISBN 1859028691.
- ↑ Price Owen, Anne (2006). Mother Tongue: Celebrating the Word in Images=42. ISBN 1843235404.
- ↑ Price Owen, Anne (2006). Mother Tongue: Celebrating the Word in Images=43. ISBN 1843235404.
- ↑ Hughes, Hughes (2013). Mary Lloyd Jones: Signs of Life. t. 5.
- ↑ Bell, Ellen (2013). Mary Lloyd Jones: Signs of Life: Exhibition Review. t. 56.
- ↑ 9.0 9.1 Mary Lloyd Jones: Signs of Life. 2013. t. 35.
- ↑ Mary Lloyd Jones paintings Archifwyd 2013-06-25 yn y Peiriant Wayback, BBC Your Paintings. Adalwyd 30 Mehefin 2014.
- ↑ [1] Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd 27 Rhagfyr 2014.]
- ↑ Mary Lloyd Jones: Signs of Life. 2013. t. 37.
- ↑ "Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; adalwyd 27 Rhagfyr 2014". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-11. Cyrchwyd 2014-12-27.
- ↑ "Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; adalwyd 15 Chwefror 2023". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-15. Cyrchwyd 2023-02-15.