Chwyldroadwr a therfysgwr Maoaidd o Beriw oedd Manuel Rubén Abimael Guzmán Reynoso (3 Rhagfyr 193411 Medi 2021) a arweiniodd y mudiad herwfilwrol Sendero luminoso (Y Llwybr Disglair) mewn gwrthryfel o 1980 i 1992. Câi ei adnabod gan y ffugenw Presidente Gonzalo.

Abimael Guzmán
Abimael Guzmán.
FfugenwPresidente Gonzalo, cuarta espada del comunismo, camarada Gonzalo, cuarta espada del marxismo Edit this on Wikidata
GanwydManuel Rubén Abimael Guzmán Reinoso Edit this on Wikidata
3 Rhagfyr 1934 Edit this on Wikidata
Mollendo Edit this on Wikidata
Bu farw11 Medi 2021 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Callao navy base Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPeriw Edit this on Wikidata
Alma mater
  • National University of St Augustin of Arequipa Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, academydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddysgrifennydd cyffredinol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • San Cristóbal of Huamanga University Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJosé Carlos Mariátegui, Mao Zedong Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSendero Luminoso, Peruvian Communist Party, Peruvian Communist Party – Red Flag Edit this on Wikidata
MudiadMeddwl Gonzalo, Marcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth Edit this on Wikidata
PriodAugusta La Torre, Elena Iparraguirre Revoredo Edit this on Wikidata
PartnerElena Iparraguirre Revoredo Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg (1934–62) golygu

Ganed Manuel Rubén Abimael Guzmán Reynoso ar 3 Rhagfyr 1934 ger Arequipa yn ne Gweriniaeth Periw, yn fab anghyfreithlon i fasnachwr cefnog. Bu farw ei fam pan oedd yn 5 oed, a bu'n byw gyda'i theulu hi nes iddo symud i ddinas Arequipa yn 12 oed i fyw gyda'i dad a'i blant cyfreithlon efe. Mynychodd La Salle, ysgol ddethol yn Arequipa, ond roedd yn gwbl ymwybodol na fyddai'n derbyn yr un hawliau cymynnol mewn ewyllys ei dad â'i hanner-frodyr a hanner-chwiorydd cyfreithlon.[1]

Myfyriwr galluog ydoedd, ond ni châi fawr o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth nes iddo ymgysylltu â deallusion yr adain chwith yn niwedd ei arddegau, yn eu plith yr arlunydd Carlos de la Riva a oedd yn edmygwr brwd o Joseff Stalin. Ymaelododd Guzmán â Phlaid Gomiwnyddol Periw yn niwedd y 1950au.[2]

Astudiodd athroniaeth yn y brifysgol, a chyflawnodd ei draethawd estynedig ar bwnc damcaniaeth gofod Immanuel Kant.

Gyrfa academaidd (1962–69) golygu

Penodwyd Guzmán yn athro athroniaeth ym Mhrifysgol Genedlaethol San Cristóbal del Huamanga, yn Ayacucho, ym 1962. Tlodion oedd y mwyafrif helaeth o'i fyfyrwyr, nifer ohonynt o dras frodorol, ac hon oedd y genhedlaeth leol gyntaf i dderbyn addysg yn y brifysgol. Cawsant eu denu gan ddysgeidiaeth yr Athro Guzmán o esboniadau Marcsaidd am dlodi ac anghydraddoldeb economaidd, peoniaeth y ddyled, anffafriaeth hiliol, a llygredigaeth fiwrocrataidd. Ymdaflai Guzmán i'r dadleuon ffyrnig ynglŷn ag athrawiaeth gomiwnyddol yn y brifysgol, gan arddel damcaniaethau Mao Zedong, arweinydd Gweriniaeth Pobl Tsieina, ynglŷn â'r gallu i gymdeithas amaethol gael ei throi'n gymdeithas gomiwnyddol fodern heb yr angen am broletariat diwydiannol i arwain y chwyldro. Daeth Guzmán i'r amlwg fel arweinydd ar garfan o Faöyddion a oedd yn cynnal trafodaethau wythnosol rhwng myfyrwyr ac academyddion ynglŷn â sut i ddwyn ymwybyddiaeth o ddosbarth i feddwl y gwerinwyr ym Mheriw.

Priododd Abimael Guzmán ag Augusta La Torre ym 1964. Teithiodd y pâr i Weriniaeth Pobl Tsieina ym 1965, ac yno cawsant eu swyno gan gychwyniadau'r Chwyldro Diwylliannol.[1] Aeth Guzmán yn ôl i Tsieina sawl tro yn y ddwy flynedd olynol, gan sylwi ar ddatblygiad y Chwyldro Diwylliannol a llwyddiant honedig damcaniaethau Mao ac unbennaeth y gwerinwyr.[2] Dychwelodd i Beriw yn sicr yn ei argyhoeddiad o wirionedd Maoaeth a'r angen am chwyldro yn ei famwlad. Dadleuodd y byddai gwrthryfel gan werinwyr a thlodion y cefn gwlad yn y pen draw yn amgylchynu ac yn gorchfygu'r brifddinas Lima, ac mewn ffordd debyg byddai chwyldroadau mewn gwledydd y Trydydd Byd yn amgylchynu ac yn gorchfygu'r gwledydd cyfalafol. Gwelai ei hun yn ddamcaniaethwr ac yn arweinydd ar y chwyldro byd-eang i ddod. Tyfodd dylanwad y garfan Faoaidd yn Ayacucho, ac atgyfnerthai Guzmán ei rym yn y brifysgol drwy ei reolaeth dros benodi athrawon.[1]

Ffurfio'r Sendero luminoso (1969–80) golygu

Erbyn diwedd y 1960au, datblygodd y cylch trafod wythnosol dan arweiniad yr Athro Guzmán yn fwy na siop siarad academaidd. Ymgymerasant yr enw Plaid Gomiwnyddol Periw arnynt, yn gorff gwahanol i'r blaid gomiwnyddol swyddogol yn y wlad.

Rhoddwyd yr enw Pensamiento Gonzalo (Meddwl Gonzalo) ar ei syniadaeth, a galwodd Guzmán ei hunan yn "Bedwerydd Cleddyf Marcsiaeth", gan honni ei fod yn olynydd i Marx, Lenin, a Mao. Caiff ysgrifeniadau Guzmán eu hystyried yn hynod o gêl ac yn anodd eu darllen.

Gadawodd Guzmán y brifysgol yn Ayacucho yng nghanol y 1970au, wrth i'w blaid ddatblygu'n fyddin herwfilwrol. Mabwysiadwyd yr enw Sendero luminoso ar sail disgrifiad José Carlos Mariátegui o Farcsiaeth, sendero luminoso al futuro ("llwybr disglair i'r dyfodol"). Aeth Guzmán a'i ddilynwyr, y Senderistas, ar herw yn y cefn gwlad, i gynllunio'u gwrthryfel yn ddirgel. Datblygodd Sendero luminoso yn fudiad herwfilwrol hynod o ddisgybledig, ffanatigaidd, ac hierarchaidd, ac yn llym yn ei ymgyrchoedd yn erbyn yr awdurdodau, yr adain chwith a oedd yn gwyro oddi ar Faoaeth, ac unrhyw un arall a ystyriwyd yn rhan o'r fwrdeisiaeth neu yn elyn i'r chwyldro.

Gwrthryfel y Sendero luminoso (1980–92) golygu

 
Paentiad alegorïaidd o Ysgol Filwrol y Llwybr Disglair, yn portreadu Guzmán ar y dde gyda lluniau o Marx, Lenin, a Mao y tu ôl iddo (tua 1980).

Lansiodd Abimael Guzmán wrthryfel y Sendero luminoso yn erbyn llywodraeth Periw ym Mai 1980, yn ystod yr etholiad cyffredinol cyntaf yn y wlad ers 1963 ac yn sgil diwedd y llywodraeth filwrol adain-chwith a fu'n rheoli'r wlad ers 1968. Un o weithredoedd cychwynnol y Senderistas oedd i losgi blychau pleidleisio ym mhentref Chuschi, ger Ayacucho.

Ar 26 Rhagfyr 1980, canfuwyd cyrff saith ci wedi eu crogi o bolion lampau ar draws Lima, rhai ohonynt gyda negeseuon yn condemnio Deng Xiaoping, arweinydd Tsieina a geisiai ddadwneud nifer o bolisïau Mao drwy ddiwygiadau'r Boulan Fanzheng. Rhoddwyd neges ar un o'r cŵn yn rhybuddio bod bom wedi ei osod ar ei gorff. Credir bod los perros de Deng Xiaoping yn enghraifft o ymgyrch limpieza social (glanhau cymdeithasol) y Senderistas.

 
Poster propaganda i ddathlu pum mlynedd o "ryfel poblogaidd" y Sendero luminoso, yn darlunio Guzmán fel arweinydd y chwyldro (1985).

Ni châi'r fath fân-ymosodiadau fawr o effaith ar y dechrau, ond ymhen fawr o dro llwyddasai Sendero luminoso i gipio rhannau mawr o diriogaeth Periw. Trodd yn wrthdaro gwaedlyd gan gynnwys terfysgaeth yn erbyn y bobl gan y Senderistas a lluoedd diogelwch y llywodraeth, ac ym 1984 ymunodd Mudiad Chwyldroadol Túpac Amaru (MRTA) â'r ffrae. Ar y cychwyn cafodd Guzmán gefnogaeth nifer o'r gwerinwyr, am iddo ddisodli a lladd nifer o swyddogion llygredig a gormesol. Yn y pen draw, trodd trwch y boblogaeth yn erbyn Sendero luminoso wrth i Guzmán orfodi trefn biwritanaidd newydd yn ei diriogaeth, gan gynnwys dirwest gorfodol.[1]

 
Abimael Guzmán yn codi ei ddwrn wrth gorff ei wraig gyntaf, Augusta La Torre (1988).

Bu farw ei wraig, Augusta, mewn amgylchiadau dirgel ym 1988. Bu achlust fod cariad Guzmán, Elena Iparraguirre, yn gyfrifol am ei lladd, gyda'i ganiatâd efe.[1] O'r diwedd cafwyd hyd i Guzmán, yn cuddio mewn tŷ uwchben stiwdio fale, gan lu gwrth-derfysgaeth DIRCOTE ym 1992. Sylwyd bod sbwriel y tŷ yn cynnwys tiwbiau o eli a ddefnyddiwyd i drin y cengroen, afiechyd y dioddefodd ohono. Ar 12 Medi 1992 arestiwyd Guzmán, Iparraguirre, a nifer o'i gyd-droseddwyr eraill heb frwydr.

Achosion llys a diwedd ei oes (1992–2021) golygu

Cafwyd Guzmán yn euog o lofruddiaeth a brad gan lys milwrol a fe'i dedfrydwyd i garchar am oes. Yn sgil cwymp yr Arlywydd Alberto Fujimori, cafodd y treial hwnnw ei ystyried yn anghyfreithlon a rhoddwyd Guzmán ar brawf dwywaith eto yn y llysoedd sifil ar gyhuddiadau o lofruddiaeth a therfysgaeth difrifolach.

Yn 2003, datganodd y Comisiwn Gwir a Chymod bod Sendero luminoso yn gyfrifol am 54% o'r 70,000 o farwolaethau a achoswyd gan y gwrthdaro mewnol o 1980 i 1999 ym Mheriw.

Yn 2014 cafodd ei roi ar brawf eto am drefnu ffrwydrad Tarata, ymosodiad terfysgol a laddodd 25 o bobl yn Lima ym 1992. Ar 11 Medi 2018 fe'i cafwyd yn euog a derbyniodd ail ddedfryd o garchar am oes.[3]

Bu farw Abimael Guzmán yn y carchar yn Callao, ar gyrion Lima, yn 86 oed.

Cyfeiriadau golygu