Llosgi tai haf

(Ailgyfeiriad o Llosgi Tai Haf)

Ymgyrch yn 80degau'r ugeinfed ganrif yn tanlinellu problemau tai lleol a'r problemau a achoswyd gan dai haf yng Nghymru, yn enwedig yn y Fro Gymraeg, oedd yr ymgyrch llosgi tai haf. Drwy'r wythdegau a dechrau'r nawdegau fe losgwyd neu ddifrodwyd dros 200 o dai gwyliau ac fe ymosodwyd ar swyddfeydd asiantwyr gwerthu tai yng Nghymru a Lloegr. Meibion Glyndŵr hawliodd gyfrifoldeb am y mwyafrif llethol o'r digwyddiadau hyn, ond mae pwy oedd y mudiad hwn yn dal i fod yn ddirgelwch.

Llosgi tai haf

Llosgwyd dros dau gant o dai haf, swyddfeydd gwerthu tai, ceir a chychod i gyd dros y cyfnod, o Ben Llŷn i Sir Benfro ac o Sir Fôn i Glwyd. Targedwyd hefyd fusnesau Seisnig yng Nghymru. Ar 12 Rhagfyr 1979 llosgwyd pedwar tŷ haf ac erbyn diwedd y mis roedd wyth wedi eu llosgi. Dyma oedd dechrau'r ymgyrch.

Un mudiad a hawliodd gyfrifoldeb oedd Meibion Glyndŵr. Roedd y cyfryngau yn derbyn llythyron oddi wrth "Rhys Gethin" yn hawlio cyfrifoldeb am y gweithrediadau ar ran y Meibion.

Methiant fu ymdrechion yr heddlu i ddal y rhai oedd yn gyfrifol am y llosgi. Yn wir roedd yn gred gyffredinol bod llawer o gydymdeimlad gan y cyhoedd gyda'r ymgyrch ac hyd yn oed gan rai o aelodau'r heddlu cyffredin.

Ym 1981 dedfrydwyd Eurig ap Gwilym, o Ddolgellau, i ddwy flynedd o garchar, Edward Gresty i 9 mis ac Alan Besston i 15 mis am ddau ymgais aflwyddiannus i losgi tai a chafodd John Roberts 18 mis, am ddanfon llythyrau i'r BBC ym Mangor yn ffug hawlio cyfrifoldeb am yr holl ymosodiadau, roedd y pedwar yn aelodau o fudiad Cadwyr Cymru [1].  Yn yr un flwyddyn carcharwyd John Stuart Speckman a Thomas Lappin o Ffynnongroyw am 3 blynedd yr un am gynnau tân mewn tŷ haf ger Treffynnon. Roedd y ddau'n cydymdeimlo efo’r ymgyrch llosgi ond nid oeddynt yn rhan o unrhyw fudiad.[2]

Arestiwyd nifer o bobl eraill yn ystod yr ymgyrch. Ar Sul y Blodau, 30 Mawrth 1980, arestiwyd dros 50 o genedlaetholwyr mewn cyrch heddlu o'r enw Operation Tân ond rhyddhawyd y rhain o fewn 3 diwrnod heb gyhuddiad.[3] Cafodd ambell i berchennog tŷ haf eu herlyn am losgi eu tai eu hunain, gan gogio eu bod wedi eu targedu gan yr ymgyrch er mwyn twyllo cwmnïau yswiriant; cafodd brawd yng nghyfraith y cyn aelod o'r FWA Glyn Rowlands, ei dal yn ceisio tanio tŷ haf er mwyn fframio Glyn.

Ar 14eg Chwefror 1990 arestiwyd y canwr a'r actor Bryn Fôn[4] a'i bartner Anna Wynne-Williams ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig a'r ymgyrch llosgi, yn hwyrach yr un diwrnod arestiwyd yr actor Dyfed Thomas yn Llundain ar amheuaeth o fod a deunydd ffrwydrol neu ddyfeisiadau cynnau tân yn ei feddiant a chafodd yr actor Mei Jones ei wahodd i swyddfa'r heddlu i gynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliadau. Rhyddhawyd y pedwar heb eu cyhuddo o unrhyw drosedd.[2]

Ym Mawrth 1993 dedfrydwyd Siôn Aubrey Roberts i 12 mlynedd o garchar, a hynny nid am losgi tŷ, ond am anfon ffrwydriadau drwy'r post at aelodau o'r Blaid Geidwadol, gan gynnwys Wyn Roberts yr Is-Ysgrifennydd Gwladol yn y Swyddfa Gymreig ar y pryd, ac at ddau aelod blaenllaw o'r tim heddlu a ymchwiliai i mewn i'r ymgyrch. Roedd Roberts yn un o dri a gyhuddwyd o gynllwynio i achosi ffrwydriadau, yn Rhagfyr 1991 a Ionawr 1992, ond fe gafwyd y ddau arall, Dewi Prysor Williams a David Gareth Davies, yn ddi-euog.

Cyfeiriadau golygu

  1. Carn Spring 1981 No33 Tud 12 Arson Campaign Re-starts [1] adalwyd 28 Mawrth 2016
  2. 2.0 2.1 Gruffydd, Alwyn Mae Rhywyn yn Gwybod, Gwasg Carreg Gwalch 2004; ISBN 0-86381-675-4
  3. Sul y Blodau: Holi'r Heddlu Cudd
  4. Gwefan y BBC; Cysgod o hyd dros fy mywyd; adalwyd 28 Mawrth 2015