Meinir Lloyd

Cantores a hyfforddwraig cerdd o Gymraes

Cantores a cherddor yw Meinir Lloyd a adnabyddir hefyd fel Meinir Hughes Griffiths.[1]

Meinir Lloyd
GanwydMeinir Lloyd Edit this on Wikidata
1940s Edit this on Wikidata
Cyffylliog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
PlantLlyr Huws Gruffydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Fe'i magwyd ym mhentref Cyffylliog ger Rhuthun. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd lle datblygodd fel telynores a chantores. Cafodd ei dylanwadu gan hyfforddwyr lleol, yn enwedig Dr Aled Lloyd Davies. Yn y 1960au daeth yn wyneb cyfarwydd ar raglenni cerddoriaeth y cyfnod fel Disc a Dawn a chyhoeddodd nifer o recordiau. Roedd ganddi ei chyfres ei hun hefyd o'r enw Mynd â'r Gân.

Ymgartrefodd yng Nghaerfyrddin yn 1972, ac ers hynny mae wedi hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc yr ardal. Bu'n hyfforddi'n wirfoddol bartïon myfyrwyr Coleg y Drindod. Sefydlodd barti bechgyn Bois y Dderwen, ac yn ddiweddarach gôr merched Telynau Tywi, gan ei arwain am bymtheng mlynedd. Bu’n organydd yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin, am dros 45 mlynedd.

Roedd yn Llywydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn 2017 ac yn Llywydd Merched y Wawr Caerfyrddin ym mlwyddyn aur y gangen.[2]

Daeth yn ôl i sylw'r cyhoedd yn 2017 pan ddaeth ei chân "Watshia Di Dy Hun" yn ffefryn ar raglen radio Tudur Owen. Yn 2018, enillodd Fedal Goffa Syr T.H. Parry-Williams am ei chyfraniad a'i gwaith gyda phobl ifanc.[3]

Bywyd personol golygu

Mae'n briod a Peter Hughes Griffiths ac mae ganddynt ddau o blant, Meleri Llwyd a Llyr Huws Gruffydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cwrdd â'r wraig tu ôl i'r 'hit' annisgwyl, Watshia Di Dy Hun , Golwg360, 20 Tachwedd 2017. Cyrchwyd ar 7 Awst 2018.
  2.  Meinir Lloyd yn ennill Medal Goffa Syr TH Parry-Williams. Eisteddfod Genedlaethol Cymru (21 Ebrill 2018). Adalwyd ar 7 Awst 2018.
  3. Medal T H Parry-Williams i un o sêr pop y 1960au , Golwg360, 21 Ebrill 2018. Cyrchwyd ar 7 Awst 2018.