Meisgyn
Cwmwd canoloesol a bro ym Morgannwg, de Cymru, yw Meisgyn. Mae'n gorwedd ar lan orllewinol afon Taf. Gyda Glyn Rhondda roedd yn un o ddau gwmwd Cantref Penychen. Defnyddir yr enw o hyd am y fro.
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
- Erthygl am yr ardal hanesyddol yw hon. Am y pentref gweler Meisgyn, Rhondda Cynon Taf.
Ffiniai Meisgyn â'r Cantref Mawr, Brycheiniog, i'r gogledd, Senghennydd i'r dwyrain, a Glyn Rhondda i'r de a'r gorllewin.
Wedi cwymp Teyrnas Morgannwg parhaodd Iestyn ap Gwrgant i reoli Meisgyn dan wyneb y Normaniaid. Yn 1246 cipiodd Richard de Clare y cwmwd a chododd gastell yn Llantrisant i'w rheoli. Ar ddiwedd y 13g a dechrau'r ganrif olynol, Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Bren, m. 1317) oedd arglwydd Meisgyn a Senghennydd. Cododd mewn gwrthyfel ond cafodd ei ddienyddio yn 1317. Yn ddiweddarach yn y ganrif rhanwyd y cwmwd yn ddwy faenor, sef Pen-tyrch a Chlun.
Yn 1536 unwyd Meisgyn a Glyn Rhondda i greu hwndrwd Meisgyn. Yno, yng Nghwm Cynon, tyfodd un o ganolfannau cynharaf y diwydiant haearn yng Nghymru.