Cantref ym Morgannwg oedd Penychen. Gorweddai rhwng cantrefi Senghenydd a Gwrinydd yn ne Cymru, ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a gorllewin Caerdydd heddiw.

Mae'n bosibl ei fod wedi dechrau fel teyrnas fechan cyn ddod yn un o gantrefi canoloesol Teyrnas Morgannwg. Cyn hynny, roedd Penychen yn rhan o deyrnas Glywysing, gyda Gwynllŵg a Gorfynydd. Yn ôl traddodiad, ffurfwyd yr unedau hyn ar farwolaeth Glywys (tua 480 OC), brenin cyntaf Glywysing, pan ranwyd y deyrnas rhwng ei dri mab, Pawl, Gwynllyw a Mechwyn. Ond ansicr iawn yw ein gwybodaeth am hanes cynnar y deyrnas, sy'n deillio o ddogfennau canoloesol ac achau traddodiadol yn bennaf.

Ar farwolaeth Gwynllyw dywedir fod y cantref wedi cael ei etifeddu gan ei fab Cadog (Cadwg/Cadoc), a gofir hefyd fel sant. Daeth yn rhan o Deyrnas Gwent yn nheyrnasiad Meurig ap Tewdrig ac ar ôl hynny yn rhan o Deyrnas Morgannwg.

Ar ôl goresgyniad de Cymru gan y Normaniaid, bu rhannau deheuol Penychen, ar lan Môr Hafren, dan reolaeth uniongyrchol arglwyddi Normanaidd y Mers a'i ddisgynyddion, ond arosodd y blaenau — sef cymydau Glyn Rhondda a Meisgyn — dan reolaeth arglwyddi Cymreig lleol. Talai'r arglwyddi hyn wrogaeth i'r arglwyddi Normanaidd grymus ond cadwent raddau helaeth o annibyniaeth er hynny a buont yn barod iawn i amddiffyn yr annibyniaeth honno.

Yn yr Oesoedd Canol roedd Penychen yn cynnwys dwy ganolfan eglwysig o bwys, sef Llandaf, sedd esgobion Llandaf, a Llancarfan (Nant Carfan), clas a gysylltir â'r awdur cynnar Caradog o Lancarfan.

Gweler hefyd golygu

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.