Mikhail Bakunin
Chwyldroadwr, anarchydd ac athronydd o Rwsia oedd Mikhail Bakunin (30 Mai 1814 - 1 Gorffennaf 1876). Gwrthododd bob math o awdurdod a phob math o gyfalafiaeth, gan eu hystyried yn anghydnaws â rhyddid.
Mikhail Bakunin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 30 Mai 1814 ![]() Priamukhino ![]() |
Bu farw | 1 Gorffennaf 1876 ![]() Bern ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Ffrainc, Rwsia ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, ysgrifennwr, gwleidydd, anarchydd, chwyldroadwr ![]() |
Adnabyddus am | Dieu et l’état, Catecism Chwyldroadol, Gosudarstvennost' i anarkhiia ![]() |
Prif ddylanwad | E. T. A. Hoffmann, Alexander Ivanovich Herzen, Nikolay Ogarev, Pierre-Joseph Proudhon, Jean-Jacques Rousseau, Ludwig Feuerbach, Karl Marx, Georg Hegel, Fyodor Dostoievski ![]() |
Mudiad | anarchiaeth, anffyddiaeth, athroniaeth y Gorllewin, sosialaeth ryddfrydol ![]() |
Tad | Aleksandr Bakunin ![]() |
Mam | Varvara Muravyova ![]() |
Priod | Antonia Kwiatkowska ![]() |
Plant | Maria Bakunin, Giulia Sofia Bakunin ![]() |
Perthnasau | Renato Caccioppoli ![]() |
Llinach | Bakunin ![]() |
llofnod | |
![]() |
Dechreuodd yn genedlaetholwr cyn gwrdd â chyfoeswyr megis Karl Marx a'r anarchydd Pierre-Joseph Pruodhon ym Mharis yn yr 1840au. Datblygodd ei syniadau gan ddod yn anarchydd cyfunol - erbyn heddiw ystyrir yn dad i'r athrawiaeth gan nifer.[1] Roedd bri a phoblograwydd Bakunin fel chwyldroadwr hefyd yn ei wneud yn un o'r ideolegau enwocaf yn Ewrop, gan ennill dylanwad sylweddol ymhlith radicaliaid ledled Rwsia ac Ewrop.
Daeth yn un o brif gynrychiolwyr yr anarchwyr yn y Gymdeithas Ryngwladol Gyntaf tan iddo gael ei ddiarddeliad gan Karl Marx a'i ddilynwyr yn 1872. Diffiniodd y rhwyg y wahaniaeth rhwng sosialaeth "wladwriaethol" Marcsiaeth a sosialaeth "gwrth-wladwriaethol" anarchiaeth, athrawiaethau oedd cynt yn weddol gydlynol.
Yn gryno
golyguMagwyd Bakunin yn Pryamukhino, ystâd deuluol gyfoethog yn Nhalaith Tver, un o rabarthau gweinyddol Ymerodraeth Rwsia.[2] O 1840 ymlaen, astudiodd ym Moscfa, ac yna ym Merlin gan obeithio droi ei olwg tua'r byd academaidd.[3] Yn ddiweddarach ym Mharis, cyfarfu â Karl Marx (oedd a chyslltiadau Cymreig) a Pierre-Joseph Proudhon, a ddylanwadodd yn ddwfn arno..[4] Rhoddodd radicaliaeth gynyddol Bakunin ddiwedd ar ei obeithion am yrfa fel athro prifysgol!.[4] Cafodd ei alltudio o Ffrainc am wrthwynebu meddiannaeth Ymerodraeth Rwsia o Wlad Pwyl. Ar ôl cymryd rhan yng ngwrthryfeloedd Prag 1848 a Dresden 1849, cafodd Bakunin ei garcharu, ei roi ar brawf, ei ddedfrydu i farwolaeth, a'i estraddodi sawl gwaith. Wedi'i alltudio i Siberia ym 1857, dihangodd drwy Japan i'r Unol Daleithiau ac yna i Lundain,.[5] lle bu'n gweithio gydag Alexander Herzen ar y cyfnodolyn Kolokol (Y Gloch). Ym 1863, gadawodd Bakunin i ymuno â'r gwrthryfel yng Ngwlad Pwyl, ond methodd â chyrraedd yno ac yn lle hynny treuliodd amser yn y Swistir a'r Eidal.
Ym 1868, ymunodd Bakunin â Chymdeithas y Gweithwyr Rhyngwladol, gan arwain y garfan anarchaidd i dyfu mewn dylanwad yn gyflym. Cafodd Cyngres yr Hague ym 1872 ei dominyddu gan frwydr rhwng Bakunin a Marx, a oedd yn ffigur allweddol yng Nghyngor Cyffredinol y Rhyngwladol ac a ddadleuodd dros ddefnyddio'r wladwriaeth i sicrhau sosialaeth. Mewn cyferbyniad, dadleuodd Bakunin a'r garfan anarchaidd dros ddisodli'r wladwriaeth gan ffederasiynau o weithleoedd a chomiwnau hunanlywodraethol. Ni allai Bakunin gyrraedd yr Iseldiroedd, a chollodd y garfan anarchaidd y ddadl yn ei absenoldeb. Cafodd Bakunin ei ddiarddel o Gyngor y Rhyngwladol am gynnal, ym marn Marx, sefydliad cyfrinachol o fewn y Rhyngwladol, a sefydlodd y Rhyngwladol Gwrth-Awdurdodaidd ym 1872. O 1870 hyd at ei farwolaeth ym 1876, ysgrifennodd Bakunin ei weithiau hir e.e. Statism and Anarchy a God and the State, ond parhaodd i gymryd rhan uniongyrchol mewn mudiadau gweithwyr a gwerinwyr Ewropeaidd.[6] Ym 1870, bu’n rhan o wrthryfel yn Lyon, Ffrainc. Ceisiodd Bakunin gymryd rhan mewn gwrthryfel anarchaidd yn Bologna, yr Eidal, ond bu'n rhaid iddo ddychwelyd i'r Swistir mewn cuddwisg, oherwydd afiechyd.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ libcom.org, Bakunin, Mikhail, 1814-1876
- ↑ Shatz 2003, t. 35.
- ↑ Eckhardt 2022, t. 309.
- ↑ 4.0 4.1 Eckhardt 2022, t. 310.
- ↑ 5.0 5.1 Shatz 2003, t. 38.
- ↑ Shatz 2003, t. 40.