Mistar Urdd

masgot Urdd Gobaith Cymru

Mistar Urdd (1976- ) yw'r personoliad o logo coch, gwyn a gwyrdd trionglog Urdd Gobaith Cymru

Mistar Urdd
Enghraifft o'r canlynolmasgot Edit this on Wikidata
CrëwrWynne Melville Jones Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1976 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mr Urdd gyda'r dylunydd Wyn Mel (Wynne Melville Jones) yn Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth, 2023

Gwreiddiau golygu

Crëwyd Mistar Urdd ym Medi 1976 gan Wynne Melville Jones, Swyddog Cyhoeddusrwydd yr Urdd ar y pryd[1]. Mewn cyfweliad a'r Western Mail yn 2006 dywedodd Jones "edrychais ar fathodyn yr Urdd - triongl mewn coch, gwyn a gwyrdd - a meddwl ei fod yn fflat a diflas. Tynnais lun gwên arno a gweld trawsnewidiad yn syth, ategais drwyn, llygaid ac aelodau".[2]

Ymddangosodd Mistar urdd fel cymeriad byw am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Maesteg ym 1979 gyda'r diddanwr Mici Plwm yn gwisgo lifrau'r cymeriad.[3]

Nwyddau golygu

Yn wreiddiol roedd Mistar Urdd yn gymeriad dau ddimensiwn yn cael ei atgynhyrchu ar fathodynnau, llyfrau lloffion a nwyddau eraill. Rhoddwyd contract i gwmni gwneud teganau meddal Wendy Davies, Trefyclo i greu gonciau tri dimensiwn o'r cymeriad; roedd yr archeb gyntaf am werth £50 o deganau ond wedi iddynt werthu mewn dim o dro rhoddwyd ail archeb iddi werth £12,000.[4]

Yn ogystal ag ymddangos ar fathodynnau, mygiau a nwyddau traddodiadol eraill defnyddiwyd y logo ar ddillad hefyd megis pyjamas, capiau nos, crysau a thrôns; ym 1978 achosodd y trôns anghydfod rhyng-eisteddfodol pan orfodwyd stondin yr Urdd ar faes Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i roi'r gorau i'w gwerthu gan nad oedd yr eisteddfodwyr rhyngwladol yn credu ei fod yn weddus i werthu dillad isaf mewn eisteddfod.[2]

Bu gonc Mistar Urdd ar daith i'r gofod ym 1998 gyda Dafydd Rhys Williams gofodwr o Ganada o dras Cymreig gan deithio i'r Orsaf Ofod Ryngwladol[5] .

Pen Gwyn golygu

Yn 1979, cyflwynwyd ffrind i Mistar Urdd o'r enw Pen Gwyn, cymeriad yn hannu o Batagonia. Yn yr 1980au ymddangosodd Mistar Urdd a Pen Gwyn ar ffurf cartŵn yng nghylchgrawn Deryn. Yn ogystal fe ryddhawyd cân Pen Gwyn, wedi'i chyfansoddi gan Geraint Davies a'i pherfformio gan Emyr Wyn[6]

Cerddoriaeth golygu

Mae Mistar Urdd wedi bod yn destun sawl can. Yn 1979 cyhoeddwyd record 7 modfedd gyda dau gan a gyfansoddwyd gan Geraint Davies; ar ochr un roedd y gan Mistar Urdd yn cael ei ganu gan Mistar Urdd ei hun (gan ddefnyddio llais Emyr Wyn) ac yn cynnwys y gytgan enwog:

Hei, Mistar Urdd yn dy goch gwyn a gwyrdd
Mae hwyl i gael ym mhobman yn dy gwmni.
Hei, Mistar Urdd, tyrd am dro ar hyd y ffyrdd,
Cawn ganu'n cân i holl ieuenctid Cymru.

Ar ail ochr y record mae Ray Gravell yn canu Y Fi, A Mistar Urdd, A'r Crysau Coch[7]

Yn 2002 ail recordiwyd cân Mistar Urdd gan CIC yn rhan o ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr yn dilyn cyfnod anodd clwy'r traed a genau.[5]

Yn 2011 recordiodd y cymeriad Rapsgaliwn o wasanaeth plant Cyw S4C fersiwn newydd rap o gan Mistar Urdd Hei! Mistar Urdd a Rapsgaliwn er mwyn hybu rhaglenni'r sianel o Eisteddfod yr Urdd, Abertawe a'r fro.[8]

Ym 1997 cyhoeddodd y grŵp Super Furry Animals y gan Trôns Mr Urdd fel ail ochr i'w record Hermann Loves Pauline yng ngwledydd Prydain ac fel ychwanegiad i fersiwn yr UDA o'u halbwm Mwng.[9]

Roedd y grŵp Angylion Stanli yn canu cân gwatwar mewn gigs yn y 1980au cynar o'r enw Ffa Coffi Mistar Urdd ond gwrthododd cwmni Sain ei recordio.

Cafwyd can llai ffafriol i Mistar Urdd ar albwm 2005 Malwod a Morgrug gan MC Saizmundo, lle mae'r artist yn sôn am y pleser o gicio Mr Urdd druan.[10]

Ar 25 Ionawr 2022, dyddiad 100fed pen-blwydd Urdd Gobaith Cymru, torrodd cân Mistar Urdd dwy record byd Guinness World Records am y nifer fwyaf o fideos â uwch lwythwyd i Twitter a Facebook o bobl yn canu'r un gân mewn awr.[11]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gweiddi - Hei Mistar Urdd adalwyd 1 Mehefin 2016
  2. 2.0 2.1 Who'd have thought Mr Urdd had a dark past? adalwyd 1 Mehefin 2016
  3. Daily Post Mistar Urdd celebrates his 40th birthday at the Eisteddfod in Flint adalwyd 1 Mehefin 2016
  4. Y Cymro Pen-blwydd hapus Mistar Urdd Archifwyd 2016-06-02 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 1 Mehefin 2016
  5. 5.0 5.1 Pen-blwydd Mistar Urdd adalwyd 2 Mehefin 2016
  6. Croeso nôl, Pen Gwyn! , BBC Cymru Fuw, 24 Mai 2015. Cyrchwyd ar 2 Mehefin 2016.
  7. Mistar Urdd - Discography adalwyd 2 Mehefin 2016
  8. Hei! Mistar Urdd a Rapsgaliwn adalwyd 2 Mehefin 2016
  9. Mwng (15th Anniversary Edition) Super Furry Animals adalwyd 2 Mehefin 2016
  10. BBC Saizmundo Malwod a Morgrug...Medi 2005 adalwyd 2 Mehefin 2016
  11. "Urdd breaks two world records on 100th birthday". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-16.