Wynne Melville Jones
Arlunydd ac entrepreneur o Gymru yw Wynne Melville Jones (a adnabyddir yn aml fel Wyn Mel; ganwyd 1947) a fu hefyd ym myd cysylltiadau cyhoeddus a moderneiddio mudiad yr Urdd.
Wynne Melville Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1947 Tregaron |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd, person busnes |
Bu'n fyfyriwr celf ac erbyn 2015 roedd wedi dychwelyd at ei gariad cyntaf, sef celf, ac yn gweithio o'i gartref yn Llanfihangel Genau'r Glyn lle mae'n weithgar yn y gymuned. Cyhoeddwyd ei hunangofiant Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da yn 2010 a Wyn Mel hefyd yn 2010. Mae'n un o sefydlwyr Banc Bro Llanfihangel Genau'r Glyn, menter gymunedol i hyrwyddo bywyd cymdeithasol a diwylliedig y gymuned.
Geni a magu
golyguFe'i ganwyd yn fab y Mans yn Nhregaron. Mynychodd Ysgol Uwchradd Tregaron lle daeth o dan ddylanwad Ogwyn Davies, ei athro Celf. Yna dilynodd gwrs blwyddyn yng Ngholeg Celf Abertawe cyn dilyn Cwrs Athro Mewn Celf a Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Yn y coleg roedd yn Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr a sefydlodd gylchgrawn dwyieithog 'CHWYN', i fyrfyrwyr y Coleg.
Urdd Gobaith Cymru
golyguYn 1969 fe'i penodwyd yn Drefnydd yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin ac ymhen dwy flynedd cafodd ei symud i'r pencadlys yn Aberystwyth i fod yn gyfrifol am gyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus y mudiad. Yn dilyn Arwisgo Tywysog Charles yng Nghaernarfon roedd morâl y mudiad yn isel iawn a rhwygwyd y mudiad gan yr Arwisgo ac ymweliad Charles i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.[1] Trefnodd Wynne nifer o ymgyrchoedd cenedlaethol mawr er mwyn codi proffil ac ysbryd y mudiad, gan gynnwys ymgyrch 'Ras Falwns Mwya'r Byd' pan ollyngwyd 100,000 o falwns yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach dyfeisiodd y cymeriad Mistar Urdd, y cymeriad trilliw a sefydlwyd ar logo'r Urdd ac a ddaeth yn fyw yn 1979. Tyfodd yn gymeriad a welwyd ar bob math o bethau e.e. mygiau, beiros a hyd yn oed trons. Yn 2016 roedd yn dal i gael ei ddefnyddio gan y mudiad i ddenu plant i'w rhengoedd.[2][3]; bu Jones yn gyfrifol am gyflwyno ffrind pennaf Mr Urdd i blant Gymru hefyd, sef Pen Gwyn, pengwin o'r Wladfa[4]
Mae Wynne yn gyn-Gadeirydd Cyngor yr Urdd ac yn Llywydd Anrhydeddus Urdd Gobaith Cymru am oes.
Cwmni Strata Matrix
golyguYn 1979 gadawodd yr Urdd a sefydlodd gwmni PR dwyieithog - y cyntaf yng Nghymru - StrataMatrix a bu'n ei reoli am 30 mlynedd. Roedd gan y cwmni swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd. Cynrychioliodd 'Strata Matrix' nifer fawr o gwmniau a sefydliadau cenedlaethol Cymru. Sefydlodd 'Gymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus Cymru' a newidiodd eu henw i: 'Cyswllt'.
Golwg
golyguGyda Dylan Iorwerth a Roy Stephens sefydlodd gylchgrawn a Chwmni Golwg sydd a'i bencadlys yn Llambed.[5]
Celf
golyguAil gydiodd yn y brwsh paent wedi iddo ymddeol, ac aeth ati i baentio Cors Caron yn y pedwar tymor yn 2011. Mae'n aml yn darlunio iconau Cymreig a thirlun Sir Benfro. Dangoswyd ei waith yn Aberaeron, Aberystwyth, Abergwaun, Caerdydd, Tregaron, Y Bala a Llundain.
Mae nifer o'i luniau wedi creu diddordeb y tu allan i Gymru gan gynnwys y darlun o Soar-y-Mynydd, sy'n eiddo i gyn-Arlywydd UDA Jimmy Carter.[6]
Yn 2015 roedd yn byw yn Llanfihangel Genau'r Glyn gyda'i briod Linda ac mae ganddo ddwy ferch a nifer o wyrion.
Llyfryddiaeth
golygu- Erthygl ar lythyr Carter, Western Mail, 24 Rhagfyr 2012
- Erthygl ar lythyr Carter, Golwg, 2 Mai 2013
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.gweiddi.org;[dolen farw] adalwyd 22 Awst 2015
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 21 Awst 2015
- ↑ Y Cymro Pen-blwydd hapus Mistar Urdd Archifwyd 2016-06-02 yn y Peiriant Wayback adalwyd 1 Mehefin 2016
- ↑ Croeso nôl, Pen Gwyn! adalwyd 2 Mehefin 2016
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 22 Awst 2015
- ↑ www.orielwynmel.co.uk; adalwyd 18 Awst 2015
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Wynne Melville Jones Archifwyd 2020-12-07 yn y Peiriant Wayback