Moel y Gamelin
Mynydd yn Sir Ddinbych yw Moel y Gamelin (578 metr). Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain y sir tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Llangollen, yng nghymuned Llandysilio-yn-Iâl a thua 2.5 milltir i'r gogledd o bentref bychan Llandysilio ei hun. Dyma bwynt uchaf y gyfres o fryniau canolig eu huchder a adnabyddir fel Mynydd Llandysilio ac sy'n gorwedd rhwng y ffyrdd A5104 i'r gogledd, yr A542 i'r dwyrain a'r A5 i'r de.
Math | bryn, safle archaeolegol, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 577 metr |
Cyfesurynnau | 53.0096°N 3.229°W |
Cod OS | SJ1763646520 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 382 metr |
Rhiant gopa | Moel y Gamelin |
Cadwyn fynydd | Bryniau Clwyd |
Ar graig arall gerllaw ceir Moel y Gaer, sy'n safle bryngaer sylweddol o Oes yr Haearn.
Crug crwn ar y copa
golyguCeir crug crwn a godwyd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ar y copa, sy'n dyddio o Oes yr Efydd ar gopa'r mynydd. Mae'n mesur 30 metr o gylch ac mae'n 1.8 metr o uchder. Pridd a cherrig yw deunydd y garnedd ac mewn canlyniad mae wedi dioddef erydu gan gerddwyr a beiciau mynydd.[1] Yn ôl gwefan Coflein, fodd bynnag, mae mewn cyflwr da ("heb ei falurio").[2]
Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE068.[3] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.
Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[4]
Oriel luniau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Helen Burnham, Clwyd and Powys, yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tud. 29.
- ↑ "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-13. Cyrchwyd 2010-11-07.
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-07.