Moel Feity

bryn (591m) ym Mhowys

Mynydd yn y Fforest Fawr, Powys yw Moel Feity a geir ym Mannau Brycheiniog rhwng Llanymddyfri a Threfynwy, cyfeiriad grid SN848230, tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Fan Brycheiniog. Dyma gopa mwyaf gogleddol y Fforest Fawr.

Moel Feity
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr591 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.894°N 3.67466°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN8486323047 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd79 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaTwr y Fan Foel Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Map

I'r de o Foel Feity ceir Blaentawe a Llyn y Fan Fawr, tarddle Afon Tawe. I'r gogledd ceir Coedwig Glasfynydd. Llifa Afon Hydfer, un o ragneintiau Afon Wysg o is-lethrau gorllewinol y mynydd. I'r dwyrain mae ffordd fynydd yn croesi Bwlch Cerrig Duon.

Mae'r mynydd a'r tir o'i gwmpas yn gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 513metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 591 metr (1939 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Mawrth 2007.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.