Moel Hiraddug
Saif Moel Hiraddug (Cyfeirnod OS: SJ063785 ) gerllaw pentref Diserth yn Sir Ddinbych ac mae bryngaer ar ei gopa - y bryngaer mwyaf gogleddol o'r gadwyn sy'n ymestyn ar gopaon Bryniau Clwyd. Darganfuwyd plat copr wedi ei addurno yno, plat sy'n dyddio yn ôl i'r 2g C.C. ac sy'n cael ei ddefnyddio fel logo gan CPAT (Ymddiriedolaeth Archaeoleg Clwyd-Powys).[1]
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Diserth |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 265 metr |
Cyfesurynnau | 53.2947°N 3.407°W |
Cod OS | SJ06327845 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL012 |
Bryngaer Moel Hiraddug golygu
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: FL012.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Mae'r waliau allanol yn fwy na'r cyffredin ac yn mesur oddeutu 2400 troedfedd o hyd a rhwng 240 - 480 troedfedd o led. Wynebu'r De-ddwyrain mae'r fynedfa i'r gaer a gellir gweld olion cylchoedd o'i mewn. Arwynebedd y fryngaer yw 12 ha.[3]
Mae llawer o'r rhannau gogleddol o'r gaer wedi'i dinistrio gan fwyngloddio am nicl a cobalt.
Hiraddug golygu
Yn nhrefgordd ganoloesol Hiraddug, ger y mynydd, ganed y bardd ac ysgolhaig Dafydd Ddu o Hiraddug (bu farw tua 1370).
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-21. Cyrchwyd 2009-03-19.
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ Gwefan Coflein[dolen marw]