Moel Unben

bryn (358m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Bryn yn ardal Bro Gernyw, ym mwrdeistref sirol Conwy, yw Moel Unben (358m). Fe'i lleolir yng nghanol y bryniau a amgëir mewn triongl o dir sy'n gorwedd rhwng Llanfair Talhaiarn i'r gogledd, Llansannan i'r dwyrain a Llangernyw i'r gorllewin.

Moel Unben
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr358 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.19601°N 3.63328°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH9098867795 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd94 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMwdwl-eithin Edit this on Wikidata
Map
Moel Unben: golygfa o'r de-orllewin

Saif Moel Unben rhwng bryniau Tre-pys-llygod i'r gorllewin a Pen y Mwdwl i'r dwyrain. Mae'n foel ynysig a wahanir oddi wrth ei chymdogion gan gymoedd Nant Melai, i'r gorllewin, a Nant Barrog i'r dwyrain, dwy ffrwd fechan sy'n ymarllwys i afon Elwy ger Llanfair Talhaearn. Ceir coedwigoedd ar lethrau Moel Unben ond mae ei gopa estynedig yn foel.

Ystyr y gair Cymraeg Canol unben yw "pennaeth" neu "arglwydd". Anodd gwybod erbyn heddiw iddo gael ei enwi felly am ei bod yn perthyn i ryw arglwydd lleol neu ynteu am ei bod yn sefyll allan yn drawiadol, fel pennaeth, rhwng y ddau fryn arall.