Tre-pys-llygod
bryn (320m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy
Bryn coediog yn Sir Conwy yw Tre-pys-llygod (1005-1048 troedfedd). Mae'n gorwedd i'r de o Afon Elwy, rhwng Llanfair Talhaearn a Llangernyw.
Math | copa, bryn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 320 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.20431°N 3.65621°W ![]() |
Cod OS | SH8947868753 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 119 metr ![]() |
Rhiant gopa | Mwdwl-eithin ![]() |
![]() | |
Mae'r enw yn anghyffredin. Roedd 'tref' yn Gymraeg Canol yn golygu cymuned, un o unedau weinyddol y cantrefi, gyda chant o drefi ymhob cantref, felly mae'n bosibl mae enw'r gymuned ganoloesol oedd ar wasgar ar y bryn ydyw. Math o blanhigyn yw pys llygod (vetch), a fwyteir gan wartheg. Adlewyrchu natur wledig y gymuned gynnar honno y mae'r enw felly. Mae'r ardal yn parhau'n wledig iawn heddiw, gyda chanran uchel o siaradwyr Cymraeg.
I'r dwyrain o Dre-pys-llygod, dros Nant Melai, saif bryn 358 m Moel Unben.