Calopteryx splendens
Gwryw; gwyrdd metalig
Benyw; gwyrdd metalig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Teulu: Calopterygidae
Genws: Calopteryx
Rhywogaeth: C. splendens
Enw deuenwol
Calopteryx splendens
(Harris, 1780)

Mursen yw Morwyn wych (ll. Morynion gwych; Lladin: Calopteryx splendens; Saesneg: Banded Demoiselle) sy'n bryfyn sy'n perthyn i deulu'r Calopterygidae yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr).

Y cynefin naturiol

golygu

Rhywogaeth o Ewroasia ydy'r Forwyn wych, yn frodorol ac mae'n parhau i fyw yno ac yng ngogledd-orllewin Tsieina, Taganay ac ym Mharc Cenedlaethol Zyuratkul, Russia.[1] Fe'u ceir hefyd ym Mharciau Cenedlaethol Fruška Gora yn Serbia. Maent hefyd i'w canfod yng ngwledydd Prydain, ar wahân Ucheldir yr Alban.[2]

Disgrifiadau

golygu

Mae'r Forwyn wych yn gymharol fawr, gyda chyfanswm ei hyd (o un pen yr adenydd agored i'r pen arall) yn 48mm gyda'r ôl adain yn 36mm.

Mae adenydd yr oedolyn gwryw yn dryloyw gyda smotyn llydan, glas tywyll arnynt neu linell weithiau ar y rhan allanol. Ar yr oedolyn ifanc mae'r smotyn yn frown golau. Gall y corff fod yn las metalig neu'n wyrddlas, neu cyfuniad o'r ddau liw.

Tryleu yw adenydd y fenyw a'r rheiny'n symudliw o wyrdd golau gyda smotyn gwyn ger eu brig (sef pseudopterostigma), a chorff gwyrdd / gwyrdd-efydd metalig.

Amrywiaeth y lliwiau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Calopteryx splendens (Harris, 1782) Archifwyd 2013-05-09 yn y Peiriant Wayback - Красная Книга Челябинской области: животные, растения, грибы / Министерство по радиационной и экологической безопасности Челябинской области, Ин-т экологии растений и животных УрО РАН. - Екатеринбург: Изд-во Урал. ун-та, 2005. - 450 с.: ил.
  2. Brooks & Lewington (2004). Field Guide to the Dragonflies and Damselflies of Great Britain and Ireland. British Wildlife Publishing. ISBN 0-9531399-0-5. |access-date= requires |url= (help)

Llyfryddiaeth

golygu
  • Dijkstra, Klaas-Douwe B. (2006). Field Guide to the Dragonflies of Britain and Europe. tt. 66–67. ISBN 0-9531399-4-8.
  • Hämäläinen, Matti (2008) Calopteryx splendens (Harris, 1780) Journal of the British Dragonfly Society 24(1): 19-23
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: