Mosfellsbær

tref yng Ngwlad yr Iâ

Mae Mosfellsbær yn dref yn ne orllewin Gwlad yr Iâ sy'n gorwedd oddeutu 12 cilometr (7 milltir) i'r dwyrain o'r brifddinas, Reykjavík.

Mosfellsbær
MathCymunedau Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,343 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRegína Ás­valds­dótt­ir Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Loimaa, Skien, Bwrdeistref Thisted, Bwrdeistref Uddevalla Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirReykjavík Fawr Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd197 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaReykjavíkurborg, Bláskógabyggð, Grímsnes- og Grafningshreppur, Ölfus, Kópavogsbær Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.168633°N 21.713225°W Edit this on Wikidata
Cod post270 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRegína Ás­valds­dótt­ir Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Bwrdeistref Mosfellsbaer

Mae'r dref ond rhyw siwrnau 15 munud yn y car o ganol dinas Reykjavík ac mae'n un o'r saith bwrdeistref sydd o fewn yr ardal a elwir yn swyddogol yn rhanbarth y Brifddinas, neu Reykjavík Fawr. Ceir sawl dosbarth o fewn tref Mosfellsbær ei hun, gan gynnwys cilfach Leiruvogur sy'n rhan o fjord Kollafjörður. Ceir aber i dair afon yn y cilfach; Leirvogsá, Kaldakvísl a Varmá. Poblogaeth y dref yw 9,075 a maint y dref yw 185 km sgwâr.

Mae gan Mosfellsbær adnoddau hamdden ar gyfer twristiaid a phreswylwyr. Gelwir y dref yn "y dref werdd" gan y gwneir defnydd o'r adnoddau thermal gan gynnwys adeiladu tai gwydr yn y fwrdeistref. Ers 1933 mae'r bwrdeistref wedi cyflenwi ardal y brifddinas gyda dŵr poeth naturiol ar gyfer gwresogi tai, pyllau nofio ayyb. Mae'r cefn gwlad o gwmpas y dref yn cynnwys mynyddoedd sy'n addas ar gyfer cerdded, mynydda, sgio a physgota am frithyll a'r torgoch (brithyll melyn) yn y llynoedd bychain.

Gwnaed yr enillydd Gwobr Nobel am lenyddiaeth yn 1955, Halldór Laxness (1902-1998) yn ddinesydd anrhydeddus o'r dref. Bu'n byw yno gydol ei oes ac fe seiliwyd nifer o'i brofiadau a chymderiadau yn ei nofelau ar ei brofiadau yn y dref.

Daearyddiaeth

golygu
 
Mosfellsbær

Safair mynydd Helgafell i'r dwyrain o'r dref.

Defnyddir mwy na 100 o dyllau turio i bwmpio dŵr poeth i'r brifddinas. I'r de o'r brif dref mae crib pelagoni Úlfarsfell, ychydig ymhellach i'r dwyrain ceir llyn Hafravatn. I'r dwyrain o'r fwrdeistref gorweddau Llyn Leirvogsvatn.

Diwylliant a Hanes

golygu
 
Mosfellsbær

Poblogaeth y gymuned yn 1900, (a alwyd yn Mosfellssveit yr adeg hynny) oedd dim ond 400. Tyfodd y dref yn sydyn yn ail hanner yr 20g oherwydd y defnydd o'r diwydiant geothermal a'r diwydiant gwlân. erbyn 1 Rhagfyr 1999 roedd y boblogaeth wedi codi i 5,849 ac mae dros 9,000 bellach.

Dinesydd enwocaf Mosfellsbær oedd y bardd Halldór Laxness, a fagwyd ar y fferm Laxnes, sydd heddiw'n adnabyddus fel fferm ceffylau. Yn y blynyddoedd diweddarach bu'n byw mewn tŷ o'r enw, Gljúfrasteinn. Mae'r tŷ hwn bellach wedi'i drosglwyddo i'r wladwriaeth ac mae heddiw yn gwasanaethu fel amgueddfa ar gyfer ei fywyd a'i waith yn ogystal â thŷ llenyddiaeth. Cynhelir digwyddiadau yma ac ymysg y digwyddiadau mwyaf poblogaeth yw'r ddarlleniadau a gynhleir ar Sul yr Adfent lle bydd llenorion enwog y wlad yn cyflwyno eu gwaith diweddaraf.

Mosfellsbær iyw cartref stiwdio gerddorol Sigur Rós sydd yn Sundlaugin, a oedd, cyn ei droi'n stiwdio yn hen bwll nofio gwag (ystyr sundlaugin yw "y pwll nofio"). Roedd y sain acwstig a grewyd gan y pwll nofio gwag yn un o'r rhesymau iddynt brynu'r eiddo.[1] Defnyddir Sundlaugin ar gyfer recordio a chymysgu caneuon nifer o artistiaid cerddorol Gwlad yr Iâ gan gynnwys Amiina (sy'n aml yn teithio gyda Sigur Rós) a Jimmy Lavelle o The Album Leaf.

Nodir Mosfellsbær yn y Sagas hefyd. Sonir i Egill Skallagrímsson ddod yn hen ŵr iddo fyw yna gyda'i nith Þórdís, merch ei frawd Þórólfur a'i gŵr Grim fyw yn Mosfellsbær neu gerllaw.

Dywedir fod y bardd a'r rhyfelwr Llychlynaidd, Egill Skallagrímsson wedi ei gladdu yn y dref ynghŷd â'r drysor arian.[2]

Traffig

golygu
 
Yr Hringvegur, y Cylchffordd, ger Mosfellsbær

Yn Mosfellsbær bydd y ffordd rhif 36 Þingvallavegur yn fforchio i mewn i arc Cenedlaethol Þingvellir. Mae'r dref ei hun wedi ei leoli ar y Hringvegur, cylchffordd Rhif 1 enwog Gwlad yr Iâ, sy'n teithio o gwmpas yr ynys gyfan.

Chwaraeon

golygu

Mae'r campws chwaraeon yn Varmá yn un o'r gorau yng Ngwlad yr Iâ ac yn cynnwys pwll nofio ac adnoddau chwaraeon i oedolion a phlant.

Sefydlwyd y clwb chwaraeon lleol, Ungmennafélagið Afturelding yn 1909. Mae gan y clwb oddeutu 3,800 aelod. Lleolir Clwb Golff Kjölur y tu allan i'r dref yn Hlíðar ger y môr.

Gefailldrefi

golygu

Enwogion

golygu
  • Halldór Kiljan Laxness (1902–1998), Llenor
  • Ernir Hrafn Arnarson (g 1986), Chwraewr Pêl-llaw
  • Ólafur Arnalds (g 1986), Cerddor a chynhyrchydd
  • Telma Þrastardóttir (g 1995), Chwraewraig Pêl-droed
  • Greta Salóme Stefánsdóttir (g 1986), Cantores Bop, Cyfansoddwraig a Fiolinydd
  • Róbert Ingi Douglas, cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. sunrise, eighteen seconds before. "sigur rós - feature articles". www.sigur-ros.co.uk. Cyrchwyd 2016-06-18.
  2. Byock, J., Walker, P., Erlandson, J., Holck, P., Zori, D., Guđmundsson, M., & Tveskov, M. (2005). A Viking-Age valley in Iceland: the Mosfell archaeological project. Medieval Archaeology, 49(1), 195-218. doi:10.1179/007660905x54080
  3. "Róbert I. Douglas". IMDb. Cyrchwyd 2016-06-18.

Dolenni allanol

golygu