Ed Holden

Rapiwr a bît-bocsiwr o Gymro
(Ailgyfeiriad o Mr phormula)

Mae Ed Holden neu i roi ei enw llwyfan, Mr Phormula yn un o arloeswyr y sîn bît-bocsio yn y Deyrnas Unedig ac yn sicr yng Nghymru. Mae'n rapiwr, bît-bocsiwr, perfformiwr ac yn rhedeg ei stiwdio recordio ei hun, Stiwdio Panad[1] yn Llanfrothen, Gwynedd.

Ed Holden
FfugenwEd Holden Edit this on Wikidata
Ganwyd1980s Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Man preswylLlanfrothen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethrapiwr, beatboxer Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mrphormula.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Ed Holden yn Llanelwy a magwyd yn Llanerchymedd ac yna Amlwch, Ynys Môn ac aeth i Ysgol Syr Thomas Jones. Yn 21 oed rhoddodd gorau i'w swydd mewn canolfan alwadau er mwyn mynd yn gerddor, cynhyrchydd a pherfformiwr llawn amser. Bydd hefyd yn rhoi gwersi rapio a bît bocsio mewn ysgolion a chlybiau.[2]

Gyrfa golygu

Mae Ed Holden/Mr Phormula wedi chwarae rhan flaenllaw yn y Sôn Roc Gymraeg ers canol yr 2000au.

Dechreuodd ddiddordeb Ed yn y Sîn Roc Gymraeg pan oedd yn 17 oed a cyflwynodd Aaron Elias o'r grŵp Pep Le Pew, gasét o fiwsig Cymraeg iddo. Dyma oedd y tro cyntaf i Ed glywed rap yn y Gymraeg. Yn ôl wefan Llywodraeth Cymru fel rhan o ymgyrch Dydd Miwsig Cymru 2018, "Wnes i wrando ar y cassette a clywed rap yn yr iaith Gymraeg am y tro cynta’ erioed, wow! Felly wnes i ymuno efo’r band a dyna be gychwynodd fy ngyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg."[3] Wedi'r profiad yma, ymunodd Ed gyda grŵp Pep le Pew o Borthmadog ar ddechrau'r Mileniwm.

Roedd yn aelod o grŵp rap chwaraeus, Genod Droog oedd yn cynnwys unigolion sydd wedi mynd ymlaen i chwarae rhan amlwg ym mywyd cerddoriaeth a diwylliant Cymru gan gynnwys y prifardd Aneirin Karadog, y cyflwynydd a chynhyrchydd radio, Dyl Mei, a'r cyflwynydd ar Radio Cymru, Gethin Evans.

Mae hefyd wedi perfformio efo Derwyddon Dr Gonzo - band boblogaidd a dylwanwadol arall.

Ers diwedd y Genod Droog, mae Ed wedi parhau i berfformio a chyfansoddi. Ef yw pencampwr Lwpio Cymru ar hyn o bryd, ac yn 2013, bu’n is-bencampwr Lwpio’r DU.

Mae wedi gweithio gyda rhai o fawrion y byd hip hop gan gynnwys The Pharcyde, Jungle Brothers, Boy better Know, Plan B, Professor Green a’r chwedlonol Krs-One, ac mae hyn oll yn dangos ansawdd a chwmpas doniau cynhyrchu Mr Phormula sy’n ategu natur farddonol ei ddwyieithrwydd.

Mae Mr Phormula’n un o’r artistiaid mwyaf prysur yn sîn hip hop y DU, ac mae wedi perfformio mewn nifer o leoliadau, clybiau nos a gwyliau (gan gynnwys Neuadd Albert yn Llundain), yn ogystal ag ymddangosiadau lawer ar deledu a radio Cymreig a Phrydeinig. Yn 2012 daeth y person gyntaf i berfformio yn y Gymraeg yng ngwobrau MOBO yn y Liverpool Arena.[2]

Mae’i waith newydd arloesol yn datblygu’r sîn hip hop yng Nghymru yn ogystal â hyrwyddo’r genre dwyieithog ar draws y byd.

Stiwdio Panad golygu

Sefydlodd Ed Holden Stiwdio Panad yn Llanfrothen. Mae Stiwdio Panad yn fan cynhyrchu i ddeunydd gwreiddiol Ed Holden a “Panad Productions”. He is 6,4

Disgograffi golygu

  • 2017 – Mr Phormula – Llais / Voice
  • 2017 – Mr Phormula – Cwestiynau / Questions (sengl)
  • 2016 – Mr Phormula – Llwybrau EP
  • 2016 – Mr Phormula – Un Ffordd EP
  • 2014 - Mr Phormula – Be ti’n Gweld EP
  • 2014 - Mr Phormula – Cymud (albuwm)
  • 2013 - Sleepbeggar – Me leaving me EP (prosiect ar y cyd)
  • 2012 - Mr Phormula – Minority EP
  • 2011 - Y Bwgan – Recordiau coch (cynhyrchu trac a chasgliad)
  • 2010 - Mr Phormula – Forward thinking albwm
  • 2009 - Pen-Ta-Gram – Twisted Tongues abwm (prosiect ar y cyd)
  • 2009 - Barddoniaeth boced-din – Raps heddiw publication
  • 2008 - Genod Droog – Ni oedd Y Genod Droog albwm
  • 2008 - Dybl L - Gesha pwy sy nôl?' (prosiect ar y cyd)
  • 2008 - Y Diwygiad – HYMN 808 albwm (prosiect ar y cyd)
  • 1972 - Spiderman
  • 2982- blue buggie

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu