Parti Pyjamas Mwyaf y Byd!
Cynhaliwyd Parti Pyjamas Mwya'r Byd ar Ddydd Mawrth, 9 Mai 2017 ledled Cymru, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth pobl o grwpiau gofal ac addysg plant bach.[1] Trefnwyd y digwyddiad gan y Mudiad Meithrin er mwyn tynnu sylw pobl at weithgaredd yr holl grwpiau sy'n cynnig gofal ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg: 'Cymraeg i Blant', y cylchoedd meithrin a chylchoedd 'Ti a Fi'.[2] Yn Nhachwedd 2016, cyhoeddodd y Mudiad Meithrin gynlluniau i geisio torri record y byd.[3]
Ceisiwyd hybu pobl i wisgo pyjamas ar Ddydd Mawrth, y 9fed o Fai er mwyn mynychu'r cylch, y feithrinfa neu'r lleoliad sy'n cefnogi!
Talodd pawb a oedd yn cymryd rhan £1 am y fraint, gyda'r arian i'w gadw gan y cylch meithrin fel rhan o'u hymdrechion elusennol.
Trwy gael gweithgaredd hwyliog - a cheisio torri record byd ar yr un pryd - roedd yn gyfrwng i dynnu sylw pobl at weithgaredd y cylchoedd a hefyd i danlinellu pwysigrwydd dysgu trwy chwarae, darllen a chysgu i fywyd y plentyn yn y blynyddoedd cynnar.
Roedd y parti yn rhan o ddathliadau'r Mudiad yn 45 mlwydd oed.
Gobeithiai'r trefnyddion y byddid yn chwalu'r record byd presennol, sef 2,004 o unigolion yn eu pyjamas! Ond nodwyd hefyd mai'r digwyddiadau lu ar lawr gwlad sy'n bwysig.
Wedi cyfri'r holl ddata a dderbyniwyd gan gylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, grwpiau 'Cymraeg i Blant, meithrinfeydd dydd, swyddfeydd, ysgolion, unigolion ayyb, roedd 8651 wedi cymryd rhan yn y digwyddiad!
Gofal plant ac addysg Gymraeg
golyguGyda'r pwyslais cynyddol ar "greu" siaradwyr newydd er mwyn cyrraedd at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, targed a gefnogir gan Mudiad Meithrin, cydnabyddir pwysigrwydd lleoliadau gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.[4] Mae cynnal 'Parti Pyjamas Mwyaf y Byd' yn gyfrwng hwyliog i gylchoedd meithrin, i gylchoedd Ti a Fi, i feithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg ac i grwpiau 'Cymraeg i Blant' dynnu sylw at weithgaredd llawr gwlad. Yn ddiweddar ar 18.05.17, cyhoeddwyd adroddiad yn sgil ymchwiliad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (dan gadeiryddiaeth Bethan Jenkins AC yn y Cynulluad Cenedlaethol) i'r strategaeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chydnabuwyd pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar i'r weledigaeth honno: http://senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16224
Themau
golyguEr mai prif nodwedd y digwyddiad yw cael hwyl, mae elfen fwy ddifrifol i'r gweithgaredd sef:
- Dysgu trwy Chwarae
- Darllen a
- Chysgu.
Dywedir fod y tri pheth hyn yn cyfrannu'n drwm at les y plentyn yn ystod y blynyddoedd cynnar.
Mae "dysgu trwy chwarae" yn greiddiol i addysgeg y Cyfnod Sylfaen ac felly'n ganolog i drefn gweithgaredd yn y cylchoedd meithrin, gan fod nifer ohonynt yn ddarparwyr addysg i blant tair a phedair mlwydd oed. Anogir ein cylchoedd i gynnal gweithgaredd miri mawr ("messy play") neu chwarae heuristaidd trwy greu tywod lleuad a gosod gwahanol wrthrychau yn y sypiau tywod. Caiff y plant hwyl yn chwilio am y gwahanol wrthrychau.
Tanlinellir pwysigrwydd darllen i blant a babis ifanc iawn fel y tystia ymgyrchoedd magu plant Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Mudiad Meithrin. Mae 'amser stori', cynllun benthyg llyfr, trefnu ymweliad i'r llyfrgell a chreu llyfrau oll yn agweddau pwysig o weithgaredd cylchoedd metihrin.
Ceir tystiolaeth hefyd fod cael noson dda o gwsg (a chwsg yn ystod y dydd yn ogystal) yn hynod bwysig i les a ffyniant y plentyn bach. Mae nifer o gylchoedd metihrin yn darparu ardaloedd tawel i blant gael gorffwys neu gysgu'n ystod y dydd. Mae cynllun trechu tlodi Llywodraeth Cymru, 'Dechrau'n Deg', yn rhoi pwyslais mawr ar hyn.
Felly er fod y slogan arwynebol Parti Pyjamas Mwyaf y Byd' yn ymddangos yn fympwyol, mae elfen fwy difrifol yn perthyn i'r ymgyrch.
Cefnogaeth
golyguCefnogwyd y fenter gan brif bartner sef ffatri pyjamas Aykroyd's yn y Bala. Creodd y cwmni bâr o byjamas i 'Dewin' (cymeriad hoffus y Mudiad) yn dilyn cystadleuaeth ymysg plant y cylchoedd. Enillydd y gystadleuaeth oedd merch 4 oed, Bethan, o gylch meithrin Terrig, y Treuddyn, Sir y Fflint. Yn atodol, derbyniwyd cefnogaeth gan gronfa 'Dathlu' y gronfa Loteri Fawr er mwyn hyrwyddo a hybu'r digwyddiad yn y cyfnod yn arwain at y 9fed o Fai.
Roedd pecyn gweithgareddau ar gael i bob cylch yn cynnwys caneuon, gweithgaredd Miri Mawr (neu messy play) a stori a chafwyd ffilm o 'Ben Dant', cymeriad poblogaidd 'Cyw', yn darllen stori "Môrladron mewn Pyjamas". Darparwyd cefnogaeth i gylchoedd ac i rieni ganu caneuon addas e.e. 'Heno, Heno hen blant bach...' ayyb
Cefnogwyd y digwyddiad gan rai o sêr y cyfryngau: Catrin a Huw (cyflwynwyr 'Cyw') a gyflwynodd 'Cyw' ar y dydd yn eu pyjamas, Caryl Roberts o Fferm Ffactor, Mari Løvgreen, Al Huws (Radio Cymru) a gyflwynodd ei raglen mewn 'onesie', Shân Cothi, Tommo, Meinir 'Ffermio', Ifan Jones Evans, Martyn Geraint, cast Pobol y Cwm, rhai o gast Rownd a Rownd, cyflwynwyr 'Tag' (Stwnsh S4C), cyflwynwyr Heno a Prynhawn Da, Carys 'Ffa-la-la', Anni Llŷn a mwy!
Cefnogodd Mistar Urdd, Comisiynydd Plant Cymru (Sally Holland) a'r Comisiynydd Iaith (Meri Huws) y digwyddiad hefyd. Bu nifer o Aelodau Cynulliad Cymru yn ddigon dewr i gael tynnu'i lluniau gyda Dewin er mwyn dangos eu cefnogaeth!
Cafwyd cystadleuaeth ymysg myfyrwyr Cymru i gyfansoddi cerdd ar gyfer yr achlysur. Caryl Bryn o Brifysgol Bangor oedd yn fuddugol gyda'i cherdd a chyfansoddodd Anni Llŷn gerdd i'r digwyddiad yn rhinwedd ei rôl fel Bardd Plant Cymru hefyd.
Dyma rai o'r sefydliadau sy'n cefnogi 'Parti Pyjamas Mwyaf y Byd': Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cyw (S4C), Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mentrau Iaith Cymru (MIC a'r mentrau lleol), Merched y Wawr a'r Urdd. Mae nifer o ysgolion cynradd, swyddfeydd a llyfrgelloedd hefyd yn cefnogi.
Creu stori
golyguBu cylch meithrin Sarnau a Llandderfel yn brysur yn creu stori ar thema pyjamas i gyd-fynd efo'r achlysur a chyhoeddwyd hwnnw yng nghylchgrawn Wcw, a hefyd mewn cylchgrawn arbennig i nodi cynnal Gwyl Dewin a Doti (yn ystod mis Mehefin 2017).
Gwobr
golyguAr 8 Chwefror 2018 enillodd Mudiad Meithrin wobr yn seremoni wobrwyo Trydydd Sector Cymru a drefnir gan Gyngor Gwirfoddol Cymru. Roedd y wobr yn y categori "codi arian yn arloesol" ac yn benodol yn cyfeirio at yr holl weithgarwch ledled y wlad ar ddiwrnod 'Parti Pyjamas Mwyaf y Byd'! Wrth dderbyn y wobr, cyfeiriodd Dr Gwenllian Lansdown Davies (Prif Weithredwr y Mudiad) at holl rialtwch a hwyl y diwrnod gan nodi mai'r ddau brif fwriad oedd galluogi'r Cylchoedd Meithrin / Ti a Fi i godi arian ond i wneud hynny tra'n cael hwyl gan ar yr un pryd hyrwyddo gofal plant ac addysg Gymraeg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mudiad Meithrin (Mudiad Ysgolion Meithrin);[dolen farw] adalwyd 8 Mai 2017.
- ↑ Gwefan y Mudiad Meithrin[dolen farw] adalwyd 9 Mai 2017.
- ↑ "Mudiad Meithrin am geisio cynnal ‘Parti Pyjamas’ mwya’r byd", Golwg360, 23 Tachwedd 2016.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru Archifwyd 2017-09-04 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 9 Mai 2017.