Mursen dinlas fach

rhywogaeth o fursennod
Ischnura pumilio
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Teulu: Coenagrionidae
Genws: Ischnura
Rhywogaeth: I.pumilio
Enw deuenwol
Ischnura pumilio
(Charpentier, 1825)

Mursen (math o bryfyn) yn nheulu'r Coenagrionidae yw'r Fursen dinlas fach (llu: mursennod tinlas bach; Lladin: Ischnura pumilio; Saesneg: Scarce blue-tailed damselfly) sydd o fewn y genws a elwir yn Ischnura. Mae'r mursennod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Fursen dinlas fach i'w chael yng nghanol a de Ewrop; i'r dwyrain o Asia Leiaf hyd at Siberia ac i'r de mae i'w chanfod hyd at Moroco a Madeira.

Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân.

Mae adenydd yr oedolyn yn 31mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng Mai a Medi. Abdomen du sydd gan y gwryw, gyda smotyn llachar o las ar ei gynffon (ar segment rhif 8 a 9).[1] Mae'r Fursen dinlas fach yn debyg i'r Ischnura elegans, ond gellir gwahaniaethu rhyngddynt drwy edrych ar segment 8.[2] Wrth i'r fenyw fynd yn hŷn mae eu lliwiau'n tywyll gan droi o oren ifanc i gwyrddlas.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Dragonfly Society. "Ischnura pumilio - Scarce Blue-tailed Damselfly".
  2. British Dragonfly Society. "Ischnura elegans - Blue-tailed Damselfly".

Dolen allanol golygu