Mwclis mân

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Mwclis mân
Microlejeunea ulicina
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Porellales
Teulu: Lejeuneaceae
Genws: Microlejeunea
Rhywogaeth: M. ulicina
Enw deuenwol
Microlejeunea ulicina

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Mwclis mân (enw gwyddonol: Microlejeunea ulicina; enw Saesneg: fairy beads). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon gyffredin iawn ac i’w chanfod yng Nghymru, gorllewin yr Alban a Lloegr a thrwy Iwerddon.

Weithiau, gall fod yn anodd sylwi ar y llysiau'r afu deiliog gwyrdd-golau yma, heb lens llaw, ond dro arall, mae'n ffurfio matiau helaeth. Mae'r egin yn tyfu hyd at oddeutu 6 mm o hyd a 0.25–0.35 mm o led.[1]

Llysiau'r afu

golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Mwclis mân gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau

golygu
  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 25 Hydref 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.