Myfanwy
Un o ganeuon y cyfansoddwr Cymreig Joseph Parry (1841–1903) yw Myfanwy, gyda'r geiriau'n gan Richard Davies (Mynyddog). Dyma un o ganeuon enwocaf y bartneriaeth hon - rhain hefyd fu'n gyfrifol am yr opera Blodwen.
Geiriau golygu
Paham mae dicter, O Myfanwy,
Yn llenwi'th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
Heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys,
Fu'n denu'n nghalon ar dy ôl?
Pa beth a wneuthum, O Myfanwy,
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
 thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod
Ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy,
Heb gael dy galon gyda hi.
Myfanwy boed yr holl o'th fywyd
Dan heulwen ddisglair canol dydd.
A boed i rosyn gwridog iechyd
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
Anghofia'r oll o'th addewidion
A wnest i rywun, 'ngeneth ddel,
A dyro'th law, Myfanwy dirion
I ddim ond dweud y gair "Ffarwél".
Gweler hefyd golygu
- Myfanwy Fychan, sef y "Myfanwy" o'r Oesoedd Canol y bu ei hanes rhamantus yn ysbrydolaeth i Geiriog gyfansoddi ei gerdd o'r un enw.