Côr Meibion Pontarddulais
Fel côr ieuenctid y cychwynodd Côr Meibion Pontarddulais a hynny yn 1960 o dan arweiniad Noel Davies MBE. Ers ei sefydlu mae'r côr wedi bod yn hynod lwyddiannus mewn cystadleuthau safonol, gan gynnwys ennill ei bumed fuddugoliaeth ar ddeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2008 ac wedi teithio'n eang drwy Ewrop yn ogystal â Chanada ac Unol Daleithiau America.[1]
Côr Meibion Pontarddulais | |
---|---|
Tarddiad | Pontarddulais, Abertawe, Cymru |
Cyfnod perfformio | 1960 | –presennol
Gwefan | www.pontarddulaismalechoir.com/cymraeg/index.php |
Yn 2001 a 2004 enillodd y côr wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Corau Meibion yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a thros y blynyddoedd cipiwyd deg gwobr gyntaf yn Eisteddfod Ceredigion, pump yn Eisteddfod Glowyr Porthcawl a dwywaith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid (1965 a 1968).
Hanes y Côr
golyguSefydlwyd y côr ym 1960, dan arweiniad y Noel Davies a hynny fel "Côr Ieuenctid Pontarddulais" ac enillodd mewn Eisteddfodau Ieuenctid. Roedd yn un o nifer o gorau enwog mewn ardal cymharol fychan. O fewn ychydig fisoedd, tyfodd y côr i dros 80 o leisiau gan ei wneud yn gymwys i gystadlu fel côr meibion.
Roedd Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn 1963 yn garreg filltir bwysig i'r côr, pan wnaethant gipio'r brif wobr o dan drwyn ambell gôr llawer mwy profiadol. Ar bum achlysur mae'r côr wedi perfformio yn Neuadd Albert, Llundain.
Noddwyr Anrhydeddus
golygu- Shân Cothi
- Wyn Davies
- Ieuan Evans MBE
- Gareth Glyn
- Alun Guy
- Y Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS
- Edwina Hart MBE, AM
- Brian Hughes
- H.M. Lord Lieutenant D Byron Lewis CStJ,FCA
- Dennis O'Neill
- Garry Owen
- Eirian Owen
- Elin Manahan Thomas
- Huw Tregelles Williams DL
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Côr Meibion Pontarddulais adalwyd 23 Gorffennaf 2013