GIG Cymru

(Ailgyfeiriad o NHS Cymru)

GIG Cymru (Saesneg: NHS Wales) yw enw corfforaethol swyddogol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru; yr oedd yn rhan o'r un stwythur Gwasanaeth Iechyd Gwladol â Lloegr tan yn ddiweddar ond erbyn heddiw mae'n ddatganoledig dan ofal Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

GIG Cymru
Enghraifft o'r canlynolhealth system, asiantaeth lywodraethol Edit this on Wikidata
Rhan oGwasanaeth Iechyd Gwladol, Llywodraeth Cymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 Gorffennaf 1948, 1946 Edit this on Wikidata
PencadlysParc Cathays Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nhs.wales/, https://www.wales.nhs.uk/cym Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Andrew Goodall (dde), Prif Weithredwr GIG Cymru, yn ystod Pandemig COVID-19; Ionawr 2021

Strwythr

golygu

Ceir sawl ysbyty GIG yng Nghymru, yn ysbytai cyffredinol, cymunedol a lleol.

Crëwyd Byrddau Iechyd Lleol yn 2003 i gymryd lle'r hen Awdurdodau Iechyd. Mae ymddiriedolaethau iechyd Cymru yn gyfrifol am weinyddu ysbytai yn eu rhanbarth ynghyd â gofal cymunedol a gwasanaethau iechyd meddwl. Ceir 12 ymddiriedolaeth ranbarthol ynghyd ag un ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac un arall, Felindre [1] Archifwyd 2005-10-01 yn y Peiriant Wayback., ar gyfer gwasanaethau cenedlaethol ar draws Cymru.

Mae saith bwrdd iechyd yng Nghymru[1]:

 

1. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

2. Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

5. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

6. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

7. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 
Arwydd Cymraeg ger Llyn Crafnant yn dweud "Diolch NHS!"; Gwanwyn 2021

Mae gan Gymru un ysbyty sy'n darparu hyfforddiant, sef Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Mae Comisiwn Iechyd Cymru [2] Archifwyd 2006-02-13 yn y Peiriant Wayback. yn asiantaeth weithredol dan reolaeth Llywodraeth y Cynulliad sy'n trefnu gofal canolog arbenigol. Mae'n darparu yn ogystal gyngor am wasanaethau arbenigol i GIG Cymru.

Mae gwasanaeth NHS Direct ar gael yng Nghymru hefyd, sy'n cynnig cyngor i gleifion yn Gymraeg a Saesneg. Enw Cymraeg y gwasanaeth yw Galw Iechyd Cymru.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu