Na h-Òganaich
Ffurfiwyd y grŵp gwerin iaith Gaeleg Na h-Òganaich (Gaeleg: ar gyfer 'y rhai ifanc' er ei fod yn cael ei gyfieithu'n aml fel 'gwaed ifanc') o Glasgow yn gynnar yn 1971, yn dilyn cyngerdd yn Dunoon lle cyfarfu’r gantores Margaret MacLeod, a enillodd Fedal Aur y Mòd, â’r gitarydd Noel Eadie. Soniodd Margaret yn ddi-flewyn-ar-dafod fod ei brawd, Donnie, yn dysgu gitâr, felly penderfynwyd ffurfio triawd i gystadlu yng nghystadleuaeth y Grŵp Gwerin yn y Mòd Cenedlaethol Brenhinol. Fe'i cydnebir yn eang am atgyfodi diddordeb mewn cerddoriaeth Gaeleg yn y 1970au.[1]
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1971 |
Sefydlu
golyguRoedd ffrind o Ynys Lewis, Donnie MacLean, yn gweithio gyda’r BBC ac yn eu cyflwyno i recordiadau o’r Prifardd anadnabyddus o Melbost, Murdo Macfarlane. Gan gydnabod gwreiddioldeb a hynodrwydd caneuon Murdo, aeth y triawd â dau ohonyn nhw i’r Mòd yn Stirling ym mis Hydref 1971, lle enillon nhw gystadleuaeth gyda dau o ganeuon Murdo, Mhorag leat Shiubhlainn and Oran Cladaich. Enillon nhw cystadleuaeth y grŵp gwerin a chreu cynnwrf yn syth gyda’u perfformiad proffesiynol a’u caneuon nofel.[2]
Y flwyddyn ganlynol perfformion nhw un arall o ganeuon Murdo (Mi le m’ Uillinn) ac ennill cystadleuaeth y Gân Newydd yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Killarney, Iwerddon, gan gyflwyno eu hunain i’r llwyfan rhyngwladol. Arweiniodd hyn at ymrwymiadau ledled y byd sy’n siarad yr Iaith Geltaidd: yn Lloegr, Canada, Cymru a Llydaw.
Recordiodd y grŵp dri albwm ar gyfer label Beltona Sword, cangen o Decca Records - The Great Gaelic Sound of Na h-Òganaich (1972), Gael Force Three (1973) a Scot-Free (1975).
Teithio
golyguYm 1976 gwahoddwyd Na h-Òganaich i gymryd rhan mewn taith estynedig o amgylch yr Unol Daleithiau. Bryd hynny roedd Noel yn gweithio fel darlithydd coleg ac yn methu cymryd rhan, felly aeth Margaret a Donnie ymlaen i fynd ar daith, ac yn ddiweddarach perfformio yn ôl yn y DU, fel deuawd gyda cherddorion cefnogol.
Mae’r grŵp gwreiddiol wedi ailffurfio sawl gwaith ers hynny ar sail unwaith ac am byth, yn arbennig yn Fèis nan Còisir yn Steòrnabhagh ac yn Celtic Connections yn Glasgow (2007). Mae Margaret wedi parhau i ganu’n broffesiynol gyda’r acordionydd Billy Anderson, tra daeth Donnie yn yr 1980au yn berfformiwr teledu poblogaidd a chyflwynydd gyda’r rhaglen deledu Gaeleg i blant Dotaman ar BBC Scotland. Mae Noel wedi bod yn byw ac yn gweithio ym myd addysg ar Ynys Lewis ers 1978.
Gwaddol
golyguDisgrifir gwefan y grŵp Na h’Oganaich, fel "un o’r grwpiau pwysicaf yn niwylliant Gaeleg, gan baratoi’r ffordd i Runrig a Capercaillie wrth roi balchder i Gael ifanc yn eu hiaith eu hunain ac wrth fynd â chaneuon Gaeleg i gynulleidfa ehangach yn yr Alban ac ar draws y byd."[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Artist Profiles: Na h-Oganaich". World Music Central. Cyrchwyd 8 Medi 2022.
- ↑ 2.0 2.1 "Na h'Oganaich". Gwefan Scottish Traditional Music Hall of Fame. Cyrchwyd 8 Awst 2022.
Dolenni allanol
golygu- "Na h-Òganaich: a Gael Force for good." West Highland Free Press. Archifwyd 2010-08-03 yn y Peiriant Wayback
- Disgograffi
- Coisich a Ruin Na h-Òganaich yn canu Coisich a Ruin ("Cerdda fy nghariad") ar Youtube