Na h-Eileanan an Iar (etholaeth seneddol y DU)
Cyfesurynnau: 57°40′16″N 6°57′11″W / 57.671°N 6.953°W
Mae Na h-Eileanan an Iar yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1918 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon. Mae'r etholaeth o fewn sir Na h-Eileanan Siar. Cyn Etholiad cyffredinol 2005 yr enw ar yr etholaeth oedd the Western Isles. Ceir etholaeth o'r un enw ar gyfer Senedd yr Alban.
Na h-Eileanan an Iar (Outer Hebrides) | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Na h-Eileanan an Iar (Outer Hebrides) yn Yr Alban. | |
Awdurdodau unedol yr Alban | Na h-Eileanan Siar |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 1918 |
Aelod Seneddol | Angus MacNeil SNP |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Ross a Cromarty Inverness-shire |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Cynrychiolir yr etholaeth ers 2005 gan Angus MacNeil, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) a ddaliodd ei afael yn y sedd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019 gyda mwyafrif o 2,438.
Aelodau SeneddolGolygu
Etholiad | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
1918 | Donald Murray | Rhyddfrydwyr | |
1922 | Syr William Dingwall Mitchell Cotts | Rhyddfrydwyr Cenedlaethol | |
1923 | Alexander Mackenzie Livingstone | Rhyddfrydwyr | |
1929 | Thomas Bridgehill Wilson Ramsay | Rhyddfrydwyr | |
1931 | Rhyddfrydwyr Cenedlaethol | ||
1935 | Malcolm Macmillan | Llafur | |
1970 | Donald Stewart | SNP | |
1987 | Calum MacDonald | Llafur | |
2005 | Angus MacNeil | SNP |