Ynysoedd Erch a Shetland (etholaeth seneddol y DU)

Mae Ynysoedd Erch a Shetland (Saesneg: Orkney and Shetland) yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny; hen enw'r etholaeth oedd Orkney and Zetland. Mae rhan o'r etholaeth o fewn y sir (neu 'swydd') Ynysoedd Erch a Shetland. Yn etholiadau Senedd yr Alban mae Ynysoedd Erch a Shetland yn ddwy etholaeth ar wahân. Dyma un o etholaethau lleiaf o ran nifer yr etholwyr yng ngwledydd Prydain.

Ynysoedd Erch a Shetland
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Ynysoedd Erch a Shetland yn Yr Alban ar gyfer etholiad cyffredinol 1708.
Awdurdodau unedol yr AlbanYnysoedd Erch a Shetland
Etholaethau32,181
Etholaeth gyfredol
Aelod SeneddolAlistair Carmichael Democratiaid Rhyddfrydol
Nifer yr aelodau1
Crewyd oOrkney and Shetland
Orkney and Zetland
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2001 gan Alistair Carmichael (Democratiaid Rhyddfrydol). Yn etholiad 2015 cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban, ond roedd yr etholaeth hon yn un oi dri nad aeth i'w meddiant. Roedd gan Carmichael 817 o fwyafrif, gyda Danus George Moncreiff Skene (SNP yn dynn wrth ei sodlau.[1] Daliodd Carmichael ei afael yn y sedd yn 2019.

Aelodau Seneddol golygu

Blwyddyn Aelod Plaid
1707 Alexander Douglas of Eagleshay
1713 George Douglas
1715 James Moodie
1722 George Douglas
Is-etholiad 1730 Robert Douglas
1747 James Halyburton
1754 James Douglas
1768 Thomas Dundas I
Is-etholiad 1771 Thomas Dundas II
1780 Robert Baikie
1781 Charles Dundas
1784 Thomas Dundas II
1790 John Balfour
1796 Capt. Robert Honyman I
1806 Col. Robert Honyman II
1807 Malcolm Laing
1812 Richard Bempde Johnstone Honyman
1818 George Heneage Lawrence Dundas
1820 John Balfour
1826 George Heneage Lawrence Dundas
1830 George Traill Chwigiaid
1835 Thomas Balfour Tori
1837 Frederick Dundas Rhyddfrydwyr
1847 Arthur Anderson Rhyddfrydwyr
1852 Frederick Dundas Rhyddfrydwyr
Is-etholiad 1873 Samuel Laing Rhyddfrydwyr
1885 Leonard Lyell Rhyddfrydwyr
1900 Cathcart Wason Undebwr Rhyddfrydol
Is-etholiad 1902 Rhyddfrydwr Annibynnol
1906 Rhyddfrydwyr
1918 Rhyddfrydwr y Glymblaid
Is-etholiad 1921 Malcolm Smith Rhyddfrydwr y Glymblaid
1922 Robert William Hamilton Rhyddfrydwyr
1935 Basil Neven-Spence Ceidwadwyr
1950 Jo Grimond Rhyddfrydwyr
1983 Jim Wallace Rhyddfrydwyr
1988 Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban
2001 - 2019 Alistair Carmichael Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015