Canol Swydd Ayr (etholaeth seneddol y DU)
Mae Canol Swydd Ayr yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 3005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr. Mae'n etholaeth gymysg o wahanol fathau o drefi: Irvine a rhannau o Kilwinning yn drefi diwydiannol yn y gogledd, ar y naill law, a Troon a Prestwick yn drefi cyfoethog yn ne'r etholaeth.
Canol Swydd Ayr | |
---|---|
Etholaeth ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Canol Swydd Ayr yn Yr Alban ar gyfer etholiad cyffredinol 2005. | |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 2005 |
Aelod Seneddol | Philippa Whitford SNP |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | De Cunninghame |
1950–1983 | |
Olynwyd gan | De Cunninghame |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Philippa Whitford, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd.
Gweler hefyd Golygu
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|