Awdures o Ymerodraeth Rwsia (ac yna Rwsia) oedd Natalya Il'inichna Sats (weithiu Natalia Satz; Rwsieg: Наталия Ильинична; 14 Awst 1903 - 18 Rhagfyr 1993) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr theatrau plant, awdur a chyfarwyddwr cerdd. Hi sefydlodd Theatr Gerdd Mocfa i Blant, sydd bellach wedi'i galw ar ei hôl. Ysgrifennodd dri llyfr: bygraffiad, Braslun o 'Mywyd a gyfieithwyd i'r Saesneg yn 1985; yn 2019, nid oedd cyfieithiad Cymraeg.

Natalya Sats
Ganwyd14 Awst 1903 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Irkutsk Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 1993 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
AddysgYmgeisydd i Gelf Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Celfyddydau Theatr Rwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr theatr, ysgrifennwr, cyfarwyddwr cerdd, cyfarwyddwr opera, gohebydd gyda'i farn annibynnol, dramodydd, athro drama Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Celfyddydau Theatr Rwsia Edit this on Wikidata
TadIlya Sats Edit this on Wikidata
PriodIsrael Weitzer Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Gladwriaeth yr USSR, Urdd Lenin, Arwr y Llafur Sosialaidd, Urdd y Chwyldro Hydref, Artist y Bobl (CCCP), Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Gwobr Lenin Komsomol, Artist Pobl yr RSFSR, Artist Haeddianol yr RSFSR, Gwobr Lenin, Gwobr Cyngor Gweinidogion yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Irkutsk, Irkutsk Oblast, Rwsia ar 14 Awst 1903, bu farw ym Moscfa ac fe'i claddwyd ym Mynwent Novodevichy yn y ddinas honno, gyda'i thad.[1][2]

Bu'n briod i'r Iddew Israel Weitzer.

Magwraeth

golygu

Ganwyd Sats yn Irkutsk, Ymerodraeth Rwsia, lle'r oedd ei thad, Ilya Sats, yn alltud gwleidyddol. Tyfodd Ilya Sats, cyfansoddwr, o dras Iddewig. Roedd yn ffrind ac yn amddiffwr brwd o'r awdur Leo Tolstoy (1828 – 1910).[3]:Ch.1 Mam Natalya oedd Anna Sats née Shchastnaya, merch gyffredinol o Wcrain; gadawoddd y cratref yn ferch ifanc i fod yn gantores broffesiynol ym Montpellier, dinas yn ne Ffrainc, lle cyfarfu ag Ilya Sats. Pan gafodd Ilya ei alltudio i Irkutsk, dilynodd Anna ef ac yn fuan rhoddodd enedigaeth i Natalya. Priododd y ddau wedi hynny. Symudodd y teulu i Moscfa yn 1904, pan ddaeth Ilya Sats yn gyfarwyddwr cerdd Theatr Gerdd Moscow.

Gwaith

golygu

Ar ôl y Chwyldro Bolsieficiaid (neu 'Chwyldro'r Hydref) ym 1917, cynigiodd y Comisar Addysg Anatoly Lunacharsky sefydlu theatr i blant, ac argymhellodd cyfarwyddwr MAT, Konstantin Stanislavsky, y gallai Natalya Sats, yn 15 oed, gyflawni'r gwaith.[4] O dan gyfarwyddyd Lunacharsky, dechreuodd Sats gynhyrchu sioeau pypedau teithio ar lwyfanau dros dro o gwmpas Moscfa. Rhoddodd y llywodraeth adeilad iddi ym Moscow, yn theatr ar gyfer ei pherfformiadau. Yma sefydlodd ei hun fel cyfarwyddwr llwyfan a chynhyrchydd a dechreuodd ddenu sylw rhyngwladol. Gwahoddodd yr arweinydd Otto Klemperer yn 1931 hi i gyflwyno Le nozze di Figaro ('Priodas Figaro' gan Wolfgang Mozart) yn Buenos Aires, a Falstaff gan Giuseppe Verdi yn Berlin.[3][4]

Pedr a'r Blaidd

golygu

Yn 1936, comisiynodd Sats waith a fyddai'n newid hanes cerddoriaeth i blant. Fel cyfarwyddwr Theatr Moscow i Blant, roedd Sats yn dymuno cynhyrchu drama a fyddai'n cyflwyno plant i offerynnau'r gerddorfa. Comisiynodd Sergei Prokofiev i gyfansoddi Pedr a'r Blaidd a gweithiodd yn agos gydag ef gan gyfrannu llawer o syniadau at y libretto (y geiriau). Perfformiodd Pedr a'r Blaidd am y tro cyntaf yn Theatr Ffilharmonig Moscfa ar 2 Mai 1936. Oherwydd salwch, nid oedd Sats yn gallu mynychu'r premiere hwn, nad oedd yn ôl Prokofiev yn llwyddiant. Fodd bynnag, tridiau'n ddiweddarach, llefarwyd rhan y storiwr gan Sats ym mherfformiad cyntaf y gwaith yn Theatr Moscfa i Blant. Bu'r ail berfformiad hwn yn llwyddiant ysgubol ac fe lansiodd y gwaith yn rhyngwladol. Aeth Peter a'r Blaidd, a gyflwynwyd i Sats, ymlaen i lwyddiant byd-eang. Cafodd ei recordio dros 400 o weithiau, a'i gyfieithu mewn llawer o ieithoedd.[3]

Carchar

golygu

Fe'i carcharwyd am bum mlynedd gan ei bod yn perthyn i un a oedd 'yn frawdwr yn erbyn yr henwlad', ei gŵr.

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Undeb Awduron yr USSR am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Gladwriaeth yr USSR, Urdd Lenin, Arwr y Llafur Sosialaidd, Urdd y Chwyldro Hydref, Artist y Bobl (CCCP), Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Gwobr Lenin Komsomol, Artist Pobl yr RSFSR, Artist Haeddianol yr RSFSR, Gwobr Lenin, Gwobr Cyngor Gweinidogion yr Undeb Sofietaidd .


Cyfeiriadau

golygu
  1. Dyddiad marw: "Natalya Sats". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalja Iljinitschna Saz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  2. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014 А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
  3. 3.0 3.1 3.2 Sats, Natalia (1979). Sketches from my Life (yn Russian). Cyfieithwyd gan Syrovatkin, Sergei. Moscow: Raduga.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. 4.0 4.1 Edwards, Bobb (2009-04-14). "Natalya Sats". Find a Grave. Cyrchwyd 30 Mehefin 2017.