Cyfieithiad W. Gareth Jones o'r ddrama The Cherry Orchard gan Anton Chekhov yw Y Gelli Geirios. Llwyfannwyd y ddrama Rwseg wreiddiol ym 1904, ychydig fisoedd cyn i'r dramodydd farw. Cafodd y cyfieithiad hwn ei weld ar lwyfan yng Nghymru ym 1991 gan Gwmni Theatr Gwynedd.

Y Gelli Geirios
AwdurW. Gareth Jones
CyhoeddwrCAA
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1993
Argaeleddar gael
ISBN1 85644 178 4
GenreDramâu Cymraeg
CyfresDramâu Aberystwyth

Disgrifiad byr

golygu

Madame Ranefscaia yw prif gymeriad y ddrama - tirfeddiannwr o Rwsia, sy’n cael ei gorfodi i werthu ystad ei theulu, gan gynnwys perllan geirios werthfawr. Ond mae Lopachin, masnachwr diegwyddor a mab cyn-daeog, yn ceisio ei pherswadio i ymuno â'i gynllun twyllodrus, fel na bydd raid iddi werthu’r tir, ond yn ei brydlesu i gael incwm rheolaidd.

Cefndir

golygu

"Drama oedd hon am dynged hanesyddol Rwsia - ei gorffennol, ei phresennol a'i dyfodol ", meddai W. Gareth Jones yn y Rhagymadrodd i'r Ddrama, pan gafodd ei chyhoeddi ym 1993.[1]

"Er iddi gael ei gosod nôl mherfeddion Rwsia ganrif yn ôl," medde Dafydd Fôn mewn adolygiad o'r ddrama yn Barn ym 1991, "mae'n rhyfeddol pa mor berthnasol yw i Gymru'n hoes ni. Hynod o berthnasol yw'r [sefyllfa] lle mae'r stâd ar werth, a Lopachin ẩ'i fryd ar ddileu'r gelli geirios enwog er mwyn adeiladu tai haf i ymwelwyr. Onid oes sawl Lopachin yn brasgamu trwy gymoedd Cymru heddiw? Cyfarwydd hefyd, yw'r cymeriadau; y perchennog, Madam Ranefscaia, yn gwrthod derbyn y sefyllfa, a'i brawd, Leonid, yn byw mewn paradwys ffŵl lle mai'r unig realiti yw peli snwcer. Mae Cymru'n llawn ohonynt. Llawn yw'n gwlad hefyd o'r ddau was, Ffirs, yr hen was, na wna ddim ond hel atgofion am y nefoedd a fu, ac Yasha ifanc, yn ysu am ddianc i Baris, am nad oes dim yma, ac yntau'n cael ei fygu. Rhyfedd o beth yw llenyddiaeth!"[2]

Cyhoeddwyd y ddrama gan CAA ym 1993, fel rhan o'r gyfres Dramâu Aberystwyth.[1]

Cymeriadau

golygu
  • Madam Liwbof Andreiefna (Liwba) Ranefscaia - tirfeddianwr
  • Ania - ei merch 17 oed
  • Faria - ei merch fabwysiedig 24 oed
  • Leonid Andreiefitsh (Lionia) Gaef - brawd Madam Ranefscaia
  • Iermolai Lopachin - gŵr busnes
  • Piotr (Petia) Troffimof - myfyriwr
  • Simeonof-Pishtshic - tirfeddianwr
  • Sharlotta-Ifanofna - athrawes Almaenig
  • Iepichodof - clerc ar ystad Ranefscaia
  • Dwniasha - morwyn
  • Ffirs - gwas 87 oed
  • Iasha - gwas ifanc
  • Crwydryn
  • Gorsaf Feistr
  • Clerc Y Post
  • Gwesteion
  • Gweision

Cynyrchiadau nodedig

golygu
 
Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Y Gelli Geirios, 1991

Llwyfannwyd y cyfieithiad yma am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ar gychwyn 1991. Addaswyd y sgript ar gyfer y llwyfan gan John Ogwen. Cyfarwyddwr Graham Laker; is-gyfarwyddwr Tony Llewelyn; cynllunydd Martin Morley; cynllunydd goleuo Tony Bailey Hughes; cynllunydd sain Siôn Havard Gregory; dawnsfeydd Iona Eryri Williams; cast:[3]

Mewn adolygiad o'r cynhyrchiad yn Barn ym mis Mawrth 1991, roedd Dafydd Fôn yn croesawu'r "ymgodymu ag un o ddramâu mawr y byd yn y cyfnod post-Ibsen-aidd. Mae'n ddrama sy'n troedion sicr a llwyddiannus y ffin raselog hwnnw sy rhwng comedi a thrasiedi, weithiau'n ddoniol, weithiau'n drist, ond eto byth yn ffarsaidd, nac, ychwaith, fyth yn sentimental ddagreuol. Ond mae'n ddrama gymhleth, fel llawer o lenyddiaeth Rwsia."[2]

"Roedd perfformiad John Ogwen fel Lopachin mor gaboledig ag erioed, yn hofran rhwng taeogrwydd ymgreiniol a thra-arglwyddiaeth ariannol, ac eto heb wybod yn iawn beth ydyw. Trefor Selway yn gampus fel y Leonid chwit-chwat, di-ddim, a Llion Williams wedi dod â'r un cymeriad, fwy neu lai, o Deulu'r Mans i Rwsia ar droad y ganrif, ac wedi gwneud hynny'n hynod o lwyddiannus. Mici Plwm, wedyn, yn argyhoeddi, ond yn tueddu, ar adegau, i edrych fel ceriwb bach gwyrdd, a hynny oherwydd hurtrwydd ei wisg, oedd yn llawer mwy addas i'r ddeunawfed ganrif nag i droad yr un bresennol. Eto, efallai fod ei dlodi arffwysol yn ei orfodi i wisgo dillad ei hen hen daid. Campwaith, a dweud y lleiaf, oedd cameo Edwin Williams o'r hen was bonheddig, Ffirs. Y symud yn gampus, a'r cyd-actio'n argyhoeddi, a'r cyfan yn erbyn set o safon arferol y cwmni."[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Jones, W. Gareth (1993). Y Gelli Geirios. Aberystwyth: CAA. ISBN 1 85644 178 4.
  2. 2.0 2.1 2.2 Fôn, Dafydd (Mawrth 1991). "Y Gelli Geirios". Barn 338.
  3. Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Y Gelli Geirios 1991.