Excelsior
Drama ddychanol gan Saunders Lewis yw Excelsior a gyfansoddwyd ar ddechrau'r 1960au fel drama i deledu. Ni chyhoeddwyd y ddrama lwyfan tan 1980. Comedi ddychanol am fyd gwleidyddiaeth Cymru a geir yn Excelsior; golwg deifiol ar ysbryd uchelgais mewn unigolion a pharodrwydd gwleidyddion (o bob lliw) i werthu eu hegwyddorion.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Saunders Lewis |
Cyhoeddwr | Gwasg Christopher Davies |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1980 |
Genre | Drama |
Disgrifiad byr
golygu"Drama ydi hi am Cris, gweinidog ifanc brwdfrydig ddall," yn ôl Robat Trefor yn Barn (Mai 1992) "sydd â'i fryd ar adael ei eglwys Gymraeg yn Llundain er mwyn ateb ei alwad fel cenedlaetholwr a dychwelyd i'w henfro a gafael yn y gwaith o ailgodi ac ailadeiladu Cymru. Yn anffodus iddo ef, y mae'i fryd hefyd ar Dot, merch ac ysgrifennydd preifat Huw Huws, yr aelod seneddol dros etholaeth ei henfro, a blaenor yn ei gapel. Newydd fod yn gwrando ar Cris yn annerch yn un o gyfarfodydd 'Plaid Ymreolaeth Cymru' y mae Dot ar ddechrau'r ddrama ac 'ar newydd win yn feddw fawr' mae hithau am ganlyn Cris yn canlyn Arthur. Ond daw Huw Huws adref gyda'r newydd iddo yntau gael galwad y diwrnod hwnnw, galwad i Dŷ'r Arglwyddi, ac ar gorn hynny mae penderfyniadau pwysfawr i'w gwneud."[1]
Cefndir
golyguFe'i sgwennwyd gan Saunders Lewis ar gais y BBC i'w dangos ar Ddygwyl Dewi 1962 a'i hail-ddarlledu ar ôl hynny. Ond achoswyd cymaint o helbul gan y darllediad cyntaf fel na ddarlledwyd hi am yr ail dro yn wyneb bygythiad gan yr Aelod Seneddol Lafur Leo Abse i fynd â'r dramodydd a'r Gorfforaeth i'r gyfraith am enllib. Ceir yr hanes yn llawn yn rhagymadrodd Saunders i'r ddrama lwyfan.
Dyma'r gyntaf o dair drama sy'n trafod materion neu fywyd cyfoes yng Nghymru, gyda Problemau Prifysgol a Cymru Fydd yn ei dilyn. "Ni chafodd y gyntaf ei dangos ond unwaith ar y sgrin deledu", yn ôl Saunders Lewis yn ei Ragair i gyhoeddiad Cymru Fydd ym 1967: "[...] Y mae cyfraith athrod Lloegr yn lladd dychan [...] Am yr ail ddrama ni fynnai neb mohoni; nis llwyfannwyd, nis teledwyd, nis cyhoeddwyd, druan fach. A hynny, yn ôl llawer beirniad, a ddylsai fod yn dynged Cymru Fydd. Ond i mi y maent yn driawd."[2]
Cymeriadau
golygu- Huw Huws - Aelod Seneddol y Blaid Lafur.
- Magi Huws - ei wraig.
- Dot Huws - ei ferch.
- Y Parchedig Crismas Jones.
- Dic Sarc, Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur.
Cynyrchiadau nodedig
golygu1960au
golyguCafodd y ddrama ei ddarlledu ar BBC Cymru ar y 1af o Fawrth 1962. Cynhyrchydd David J Thomas. Cast:[3]
- Huw Huws - Ieuan Rhys Willliams
- Magi Huws - Nesta Harris
- Dot Huws - Annest Williams
- Y Parchedig Crismas Jones - Huw Tudor
- Dic Sarc - Glanffrwd James.
1990au
golyguLlwyfanwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1992 gan fynd â'r cynhyrchiad ar daith drwy Gymru ym mis Mawrth ac Ebrill. Ymwelwyd â Bangor, Abertawe, Caerdydd, Harlech, Aberystwyth, Y Drenewydd a'r Wyddgrug. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Graham Laker a Martin Morley oedd yn cynllunio. Cast:
- Huw Huws - Lindsay Evans
- Magi Huws - Myfanwy Talog
- Dot Huws - Nia Williams
- Y Parchedig Crismas Jones - Huw Garmon
- Dic Sarc - Wynford Ellis Owen
Cafwyd adolygiad o'r cynhyrchiad yn Barn (Mai 1992) gan Robat Trefor: "Huw Huws, yn ôl yr awdur, ydi canolbwynt y ddrama. Cynhaliai Lindsay Evans ef yn fombastig hunandybus a chryn dipyn o ffrwyn ar y sentimentaleiddiwch hurt Gymreig hwnnw sy'n perthyn i'r cymeriad [...] Cyrhaeddai'r portread ei uchafbwynt yn y drydedd act, fel y gwnâi'r ddrama ei hun, yn y cyd-chwarae â Wynford Ellis Owen fel Dic Sarc, gyda siniciaeth ddofn y ddau wleidydd caled yn codi rhywbeth arnom a oedd rywle rhwng ias a gwên. Am y ddau gariad, yr oedd Nia Williams yn Ddot fwy penderfynol hunanol na phenchwiban, yn union yn ôl y gofyn, a Huw Garmon yn cynnig inni Gris ffarslyd ac adroddllyd, y gweinidog ifanc drama go iawn. Anodd gweld sut arall y gellid ei ddarlunio, sut arall y cyfleid ei dröedigaeth 'chwyldro mewn noson', ac eto yr oedd yr arddull braidd yn rhy wahanol i'r gweddill. [...] Ond Myfanwy Talog oedd biau'r dorch am yr actio, dywedwch a fynnoch. Dyma inni Fagi Huws hunanfeddiannol a dewr, wedi ei dal yn y fagl ac am achub eraill rhagddi, yn weledydd oraclaidd, fel 'hen witsh' chwedl Huw, ac yn gynigydd ymwared."[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Excelsior, 1980 (Gwasg Christopher Davies)
Cyfeiriadau
golygu