Y Claf Diglefyd

gwaith ysgrifenedig (llyfr)

Ffars Ffrangeg gan Molière yw Y Claf Diglefyd (Teitl Ffrangeg: Le Malade Imaginaire; yn fras, "Y gŵr sy'n dychmygu ei fod yn glaf"). Y ddrama yma oedd drama olaf Molière; fei'i perfformiwyd gyntaf yn gynnar yn 1673, a chymerwyd yr awdur yn wael yn ystod y pedwerydd perfformiad, ar 17 Chwefror 1673. Bu farw yn fuan wedyn. Cyfieithwyd yn ddrama i'r Gymraeg gan Bruce Griffiths a Gwenllian Tudur, a'i chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1972 o dan y teitl Y Claf Diglefyd fel rhan o'r Gyfres Y Ddrama yn Ewrop.

Y Claf Diglefyd
Enghraifft o'r canlynolgwaith dramatig Edit this on Wikidata
AwdurMolière Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1673 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1673 Edit this on Wikidata
Genrecomédie-ballet Edit this on Wikidata
CyfresCyfres Y Ddrama yn Ewrop
CymeriadauThomas Diafoirus, Argan, Béline, Angélique, Louison, Béralde, Cléante, Mr. Diafoirus, Mr. Purgon, Mr. Fleurant, Mr. de Bonnefoi, Toinette Edit this on Wikidata
Prif bwncmeddygaeth Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afSalle du Palais-Royal Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af1673 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrMarc-Antoine Charpentier Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun o'r ddrama gan Honoré Daumer

Er bod yn ddrama wedi'i hail gyhoeddi yn 2011, cewch lawr lwytho copi yn rhad ac am ddim o'r ddolen ganlynol ar wefan Gwasg Prifysgol Cymru: Y Claf Diglefyd.

Disgrifiad byr

golygu

Arwr y ddrama yw Argan, cybydd sy'n dychmygu ei fod yn wael. Mae ei feddygon yn manteisio ar hyn i gael arian ganddo. Dymuniad Argan yw i'w ferch, Angelique, briodi meddyg, er mwyn iddo gael triniaeth am ddim, ond mae hi eisoes mewn cariad a Cleante.

Mae brawd Argan, Beralde, a morwyn Argan, Toinette, yn perswadio Argan i gymeryd arno ei fod wedi marw, er mwyn dareganfod pwy sy'n ei garu mewn gwirionedd. Mae Argan yn darganfod mai dim ond ar ôl ei arian y mae ei ail wraig, tra mae Angelique yn ei garu er ei fwyn ei hun. Y canlyniad yw fod Argan yn cytuno i Angelique briodi ei dewis ei hun.

Cymeriadau

golygu
  • Argan - y claf diglefyd
  • Béline - ei ail wraig
  • Angélique - merch Argan a chariad Cléante
  • Louison - merch fach Argan a chwaer Angélique
  • Béralde - brawd Argan
  • Cléante - cariad Angélique
  • Monsieur Diafoirus - meddyg
  • Thomas Diafoirus - ei fab, a charwr Angélique
  • Dr. Purgon - meddyg Argan
  • Monsieur Fleurant - drygist
  • Monsieur Bonnefoi - twrnai
  • Toinette - y forwyn
  • Polichinelle
  • Y Ddwy Sipsi
  • Y Meddygon
  • Y Llywydd

Cynyrchiadau Llwyfan

golygu

1960au

golygu

Crëwyd Y Claf Diglefyd am y tro cyntaf yn Gymraeg yn Theatr Fach, Llangefni, 19‑24 Mai, 1969; cyfarwyddwr Hazel Eames; cyfansoddwr Dr. Robert Smith, Coleg y Gogledd; cast:

  • Argan - Glyn Williams
  • Béline - Enid Morgan
  • Angélique - Eirlys Williams
  • Louison - Bethan Eames
  • Béralde - Vernon Jones
  • Cléante - Geraint Williams
  • M. Diafoirus - Gwilym Owen
  • Thomas Diafoirus - Kenneth Hughes
  • Dr. Purgon - Dave Williams
  • M. Fleurant - Griff  R. Jones
  • M. Bonnefoi - Eifion Williams
  • Toinette - Gwenda Goodall
  • Polichinelle - Dennis Williams
  • Y Ddwy Sipsi - Nerys Vaughan Owen a Rita Jones
  • Y Meddygon - Len Morgan, Dennis Williams a Dave Williams
  • Y Llywydd - Vernon Jones
 
Cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Y Claf Diglefyd 1971

1970au

golygu

Aeth Cwmni Theatr Cymru ati i'w llwyfannu yn Chwefror‑Ebrill 1971. Cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts; cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Meic Stevens, ag eithrio cân Cléante, a gyfansoddwyd gan Dafydd Iwan; cast:

Mae'r actores Sharon Morgan yn disgrifio'r cynhyrchiad fel "[c]ynhyrchiad mwya uchelgeisiol Wilbert", yn ei hunangofiant Hanes Rhyw Gymraes.[1] "...Perfformiad o'dd yn cynnwys gwisgoedd a setie lliwgar a drud ac ynddo gast niferus. Yn ychwanegol at hyn, penderfynodd gynnwys anterliwt draddodiadol rhwng pob act ac archdeip o drwbadŵr Commedia dell'arte. O'dd Punchinello'n hiraethu am ei gariad yng nghwmni criw o sipsiwn. Bydden ni'r sipsiwn yn canu a dawnsio gan daro'r tambwrins, y rhubanau sidan yn hedfan ac yn golur ffug brown droston ni."[1]

Awgryma Sharon hefyd mai "penderfyniad dewr" oedd cyflogi Meic Stevens, "...nid yn unig i chware rhan Punchinello ond i gyfansoddi'r gerddoriaeth hefyd" ac i gyflogi Dafydd Iwan i bortreadu un o'r prif rannau. "Ro'dd y protestiade iaith yn eu hanterth ac arwyddion yn cal eu peintio ym mhobman, a thrwy gyflogi Dafydd, cadeirydd Cymdeithas yr laith ar y pryd, fe na'th Wilbert yn hollol glir ei fod e'n cefnogi'r ymgyrch yn gyfan gwbwl. Ro'dd Dafydd yn actor digon deheuig, ond ro'dd hin anochel y bydde ei weithgareddau allgyrsiol yn creu ambell i broblem. Arllwyswyd paent dros gar Dafydd a gosodwyd hoelion yn ei deiars, ac yna fe'i harestiwyd." [1]

1990au

golygu
 
Rhaglen Pwy Sy'n Sâl? Cwmni Theatr Gwynedd 1994

Bu cynhyrchiad o'r ddrama gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1994 ynghyd â throsiad o'r ffars Le Médecin Malgré Lui gan Annes Gruffydd, o dan y teitl Pwy Sy'n Sâl?. Cyfarwyddwyr Graham Laker a Firenza Guidi; cynllunydd Martin Morley; cast:

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Morgan, Sharon (2011). Hanes Rhyw Gymraes. Y Lolfa. ISBN 9781847713292.