Nick Griffin

gwleidydd Prydeinig (ganwyd 1959)

Mae Nicholas John Griffin (ganwyd 1 Mawrth 1959) yn wleidydd Seisnig asgell dde eithafol. Mae wedi bod yn gadeirydd y British National Party (BNP) (Plaid Genedlaethol Prydain) er 1999.

Nick Griffin
Ganwyd1 Mawrth 1959 Edit this on Wikidata
Barnet Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, sgriptiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Senedd Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolBritish National Party Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://nickgriffinmep.eu Edit this on Wikidata

Dyddiau cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Nick Griffin yng ngogledd Llundain, Lloegr, a thyfodd i fyny yn Halesworth, Suffolk. Addysgwyd ef mewn dwy ysgol gyhoeddus yn Suffolk i ddechrau, St Felix School (Southwold) a Woodbridge School; astudiodd Griffin hanes, ac yna'r gyfraith yng Ngholeg Downing, Caergrawnt. Bu Griffin yn paffio tra yng Nghaergrawnt. Graddiodd gyda gradd ail ddosbarth isaf mewn hanes a'r gyfraith (Tripos I Hanes dwy flynedd/ Tripos II Cyfraith un blwyddyn).[angen ffynhonnell] Ers gadael y brifysgol, mae Griffin wedi gweithio ym meysydd peirianeg amaethyddiaeth, adfer tai, a choedwigaeth.[angen ffynhonnell] Yn ddiweddar, mae wedi bod yn ysgrifennwr gwleidyddol a threfnwr a chadeirydd y BNP.

Gwleidyddiaeth golygu

Mae Nick Griffin yn un o'r rhai sy'n gwadu'r Holocost. Cyfeiriodd ato fel "Twyll yr Ugeinfed Ganrif" (the Hoax of the Twentieth Century). Dywedodd hefyd: "Dwi'n ymwybodol iawn o'r ffaith mai'r farn gyffredinol yw y cafodd 6 miliwn o Iddewon eu gasio a'u hamlosgi neu eu troi'n lampshades. Y gred gyffredinol ar un adeg oedd fod y Ddaear yn fflat ... Dwi wedi dod i'r casgliad bod chwedl y 'diffodiant' yn gymysgedd o bropaganda rhyfel y Cynghreiriaid, celwydd tra buddiol, a hysteria gwrach diweddar."[1]

Etholiadau a gystadlwyd golygu

Dyddiad yr etholaeth Etholaeth Plaid Pleidleisiau %
22 Hydref 1981 Gogledd-orllewin Croydon FFC 429 1.2
9 Mehefin 1983 Gogledd-orllewin Croydon FFC 336 0.9
23 Tachwedd 2000 Gorllewin West Bromwich PGP 794 4.2
7 Mehefin 2001 Gorllewin Oldham a Royton PGP 6,552 16.4
5 Mai 2005 Keighley PGP 4,240 9.2
3 Mai 2007 Gorllewin De Cymru PGP 8,993 5.5
6 Mehefin 2009 Gogledd-orllewin Lloegr PGP 132,194 8.0 (etholedig)
6 Mai 2010 Barking PGP 6,620 14.6

Cyfeiriadau golygu

  1. "I am well aware that the orthodox opinion is that 6 million Jews were gassed and cremated or turned into lampshades. Orthodox opinion also once held that the earth is flat … I have reached the conclusion that the 'extermination' tale is a mixture of Allied wartime propaganda, extremely profitable lie, and latter-day witch-hysteria." Dyfyniad o eiriau Nick Griffin ar wefan Searchlight Cymru[1] Archifwyd 2009-05-31 yn y Peiriant Wayback..

Dolenni allanol golygu

Gwefan Swyddogol golygu

Erthyglau am Griffin golygu

Senedd Ewrop
Rhagflaenydd:
Den Dover
Aelod Senedd Ewrop dros Ogledd-orllewin Lloegr
2009 – presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
John Tyndall
Arweinydd y British National Party
Medi 1999 – presennol
Olynydd:
deiliad