Cwmwl o nwy rhyngserol yn y gofod ydy Nifwl Mawr Orion, a adnabyddir hefyd fel Messier 42 (M42) a NGC 1976. Mae'n un o'r gwrthrychau seryddol enwocaf yn y wybren, ac yn disgleirio oherwydd effaith golau sêr sydd wedi ffurfio o nwy y nifwl.[1][2][3]

Nifwl Mawr Orion
Enghraifft o'r canlynolH II region, astronomical radio source, ffynhonnell pelydr-X astroffisegol, reflection nebula Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod26 Tachwedd 1610 Edit this on Wikidata
Rhan oOrion Molecular Cloud Complex Edit this on Wikidata
Yn cynnwysKleinmann-Low nebula Edit this on Wikidata
CytserOrion Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear1,345 ±20 blwyddyn golau, 0.5 Edit this on Wikidata
Cyflymder rheiddiol27.8 ±5 cilometr yr eiliad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Nifwl Mawr Orion, a adnabyddir hefyd fel Messier 42

Y nifwl a'i leoliad yn Orion golygu

 
Llun o Orion a recordiwyd dros amser estynedig gan ddangos nifylau o ddisgleirdeb gwan.

Mae'r cytser Orion yn cynnwys rhan o Alaeth y Llwybr Llaethog sy'n gyfoethog gyda nifylau a chlystyrau sêr. Mewn sawl lle mae cymylau o nwy oer wedi crebachu dan ei hunan disgyrchiant i ffurfio sêr newydd, gyda goleuni uwchfioled sêr màs uchel yn ïoneiddio'r nwy i greu nifylau disglair, o'r fath a elwir parthau HII.

 
Delwedd o Nifwl Mawr Orion (canol) a NGC 1977 (uwch y canol) recordiwyd gan seryddwr amatur yng Nghanada

Y nifwl disgleiriaf yn Orion ydy Nifwl Mawr Orion a welir yng nghleddyf Orion–sef yr arf dychmygol welodd pobl y byd clasurol yn hongian i lawr o wregys y duw Orion.

Rhestrwyd fel gwrthrych rhif 42 yng nghatalog clystyrau sêr a nifylau y seryddwr Charles Messier yn y 18g, a felly adnabyddir fel Messier 42, neu M42. Caiff ei adnabod hefyd fel NGC 1976 ar ôl ei rif yn y Catalog Cyffredinol Newydd o glystyrau sêr a gwrthrychau nifylaidd. Galwyd rhan arall neilltuedig o'r un nifwl yn Messier 43 (M43), a NGC 1982. Mae'r nifwl mor ddisglair iddo fod yn weladwy trwy finociwlar.[3]

Natur y nifwl golygu

 
Delwedd eang o Nifwl Mawr Orion, yn dangos nifwl NGC 1977 uwchben y brif nifwl
 
Nifwl Mawr Orion recordiwyd gan seryddwr amatur. Mae Messier 43 yn agos i ben y darlun ar y chwith

Lleolir Nifwl Mawr Orion 1,344 ± 20 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd o'r Ddaear.[4][5] Mae'r nifwl yn ymddangos yn yr awyr tua 60 munud o arc ar ei draws, sy'n golygu diamedr o dros 20 o flynyddoedd goleuni.

Nifwl disglair o'r fath a elwir parth HII ydy Nifwl Mawr Orion: mae hyn yn golygu bod y nifwl yn gwmwl o nwy poeth gyda mwyafrif mawr o'r hydrogen yn bodoli fel ïonau (sef protonau rhydd). Mae rhai o'r ïonau hydrogen yn cyfuno gyda electronau i ffurfio atomau niwtral, ac yn allyrru golau gweladwy, uwchfioled ac isgoch. Felly mae'r nifwl yn disgleirio ac yn weladwy trwy telesgopau.

Mae'r nifwl wedi ffurfio sêr yn y gorffennol trwy grebachiad darnau o'r nwy dan atyniad disgyrchiant ei hun. Mae'r hyn wedi creu sêr mewn clwstwr, ac mae golau uwchfioled o'r sêr o fàs uchel wedi achosi'r ïoneiddio rhai o'r nwy. Yng nghanol y clwstwr ydy'r Trapesiwm, seren luosg o bedair seren ddisglair cyfagos sydd yn weladwy trwy telesgop bach amatur.[2][3]

 
Delwedd o ran ganolog Nifwl Mawr Orion recordiwyd gan Delesgop Gofod Hubble, yn dangos pedair seren y Trapesiwm ychydig i'r chwith o'r canol

Mae'r atomau yn y nwy yn allyrru golau wrth i'r electronnau ynddi'n symud o un lefel egni i lefel gyda egni llai. Oherwydd bod gan y lefelau hyn egniau penodol, mae'r nifwl yn disgleirio gyda golau gyda thonfeddi neilltuol, sef golau gyda lliwiau manwl. O ganlyniad mae sbectrwm Nifwl Mawr Orion yn dangos llinellau disglair. Y gryfaf o rain ydy'r llinell a elwir hydrogen alffa (Hα) gyda lliw coch. Dyma'r rheswm am y lliw coch neu binc ar ffotograffau. Mae llinellau sbectrol cryf eraill yn cynnwys rhai ocsigen wedi ei ïoneiddio dwy waith, a hydrogen beta (Hβ) yn y ran werdd o'r sbectrwm; mae rhain yn dangos fel lliw gwyrdd ar ffotograffau.

Trwy gymharu'r cryfder llinellau yn y sbectrwm, mae'n bosib mesur tymheredd, dwysedd a chyfansoddiad cemegol y nwy. Mae'r tymheredd tua 9000–10000 Kelvin. Mae'r dwysedd yn amrywio o le i le gyda 4000–9000 electronau rhydd mewn bob centimetr ciwbig dros y canol. Mae hyn yn golygu bod tua 4000–9000 niwclews hydrogen mewn bob centimetr ciwbig.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. Tudalennau 201–202.
  2. 2.0 2.1 Evans, Aneurin (1984), "Hanes yr Haul a'r Sêr–II", Y Gwyddonydd 22 (3): 104–108, https://journals.library.wales/view/1394134/1406652/35, adalwyd 10 Ebrill 2017
  3. 3.0 3.1 3.2 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 2. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23568-8. Tud. 1317–1337. (Yn Saesneg.)
  4. Reid, M. J.; Menten, K. M.; Zheng, X. W.; Brunthaler, A.; Moscadelli, L.; Xu, Y.; Zhang, B.; Sato, M. et al. (2009). "Trigonometric Parallaxes of Massive Star Forming Regions: VI. Galactic Structure, Fundamental Parameters and Non-Circular Motions". Astrophysical Journal 700: 137. arXiv:0902.3913. Bibcode 2009ApJ...700..137R. doi:10.1088/0004-637X/700/1/137.
  5. Hirota, Tomoya; Bushimata, Takeshi; Choi, Yoon Kyung et al. (2007). "Distance to Orion KL Measured with VERA". Publications of the Astronomical Society of Japan 59 (5): 897–903. arXiv:0705.3792. Bibcode 2007PASJ...59..897H. doi:10.1093/pasj/59.5.897.
  6. McLeod, A. F.; Weilbacher, P. M.; Ginsburg, A. et al. (2016). "A Nebular Analysis of the Central Orion Nebula with MUSE". Monthly Notices of the Royal Astronomical Society 455 (4): 4057-4086. arXiv:1511.01914. Bibcode 2016MNRAS.455.4057M. doi:10.1093/mnras/stv2617. (Yn Saesneg.)