Nos Galan yw'r enw ar gyfer 31 Rhagfyr, noson olaf y flwyddyn yng Nghalendr Gregori. Mewn nifer o wledydd, bydd pobl yn cynnal noson gymdeithasol ar Nos Galan sy'n cyrraedd ei huchafbwynt gyda phawb yn cyfarch a dymuno blwyddyn newydd dda i'w gilydd am hanner nos.

Nos Galan
Enghraifft o'r canlynolgŵyl, gwylnos Edit this on Wikidata
Mathgŵyl Edit this on Wikidata
Olynwyd ganDydd Calan Edit this on Wikidata
Yn cynnwysparti Nos Galan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Samoa, Tonga a Critimati (Ynys Nadolig), rhan o Ciribati, yw'r lleoedd cyntaf i groesawu'r Flwyddyn Newydd tra bod Samoa America ac Ynys Baker yn Unol Daleithiau America ymhlith yr olaf.[1]

Mae gan wledydd o amgylch y byd wahanol draddodiadau ac arferion ar gyfer nodi neu groesawu'r flwyddyn newydd. Mewn nifer o ddathliadau, ac yn arbennig dinasoedd, bydd hanner nos yn cael ei ddynodi gyda thanio tân gwyllt.

Cynhelir Rasys Nos Galan, ras redeg 5 km, yn Aberpennar yng Nghwm Cynon bob blwyddyn. Mae'r ras yn dathlu bywyd a gorchestion y rhedwr Guto Nyth Brân.

Mae rhai rhannau o Gymru yn dal i ddathlu'r Hen Galan ar 12-13 Ionawr, yn unol â Chalendr Iŵl, sef y calendr oedd yn cael ei ddefnyddio tan iddo gael ei ddisodli gan Galendr Gregori yn 1752.

Cyfeiriadau golygu

  1. Emily Allen (31 December 2016). "New Year's Eve: When is it 2017 around the world?". The Telegraph. Cyrchwyd 31 December 2016.