Mae Rasys Nos Galan yn ddigwyddiad blynyddol ar gyfer ras pum-cilometr (3.1 milltir), a gynhelir ar Nos Galan yn Aberpennar, yng Nghwm Cynon.

Cerflun Guto Nyth Brân, Stryd Rhydychen, Aberpennar

Mae Rasys Nos Galan yn dathlu bywyd a chyflawniadau y rhedwr o Gymro, Guto Nyth Brân. Fe'i sefydlwyd ym 1958 gan y rhedwr lleol Bernard Baldwin, ac mae'n cael ei redeg dros 5 cilometr ar lwybr ras cystadleuol cyntaf Guto.

Ar ei anterth roedd yr achlysur yn cael sylw gan y BBC yn genedlaethol fel rhan o'i ddathliadau Nos Galan, ond daeth y rasys i ben ym 1973 yn dilyn pryderon gan Heddlu Morgannwg ynglŷn â'r oedi gormodol i draffig. Atgyfodwyd Rasys Nos Galan yn 1984, pan gostyngwyd nifer y rhedwyr i 14 a chynhaliwyd ras 1 cilometr. Roedd y ras hefyd yn torri gyda'r traddodiad, gyda thri rhedwr dirgel, yn cynrychioli presennol, gorffennol a dyfodol athletau, yn cario Ffagl Nos Galan.

Mae Rasys Nos Galan yn dal i ddenu rhedwyr o bob cwr o Brydain. Cystadlodd dros 800 o redwyr yn 2009, a daeth 10,000 o bobl i Aberpennar ar gyfer adloniant oedd yn rhan o'r noson.[1]

Llwybr a thraddodiadau

golygu

Mae'r brif ras yn dechrau gyda gwasanaeth yn yr eglwys yn Llanwynno, ac yna torch o flodau yn cael ei osod ar fedd Guto Nyth Brân ym mynwent Llanwynno. Ar ôl cynnau ffagl, mae'n cael ei gario i'r dref gyfagos, Aberpennar, lle bydd y brif ras yn digwydd. Mae fformat y ras wedi newid sawl gwaith yn ystod ei hanes. Mae'r ras bresennol yn cynnwys tri cylched drwy ganol y dref, gan ddechrau yn Heol Henry ac yn dod i ben yn Heol Rhydychen, ger cerflun coffaol Guto.

Yn draddodiadol, amserwyd y ras i ddod i ben am hanner nos.[2] Ond yn ddiweddar cafodd ei ail-drefnu er cyfleustra adloniant teuluol, a nawr mae'n dod i ben tua 21:00.

Mae'r aildrefnu wedi arwain at dwf o ran maint a gradd, a nawr mae'n dechrau gyda phrynhawn o adloniant stryd, a rasys hwyl ar gyfer plant,  gan ddiweddu gyda'r gwasanaeth yn yr eglwys, ras y rhedwyr proffesiynol a chyflwyniadau.[3]

Rhedwr dirgel

golygu

Mae'r ras yn dechrau ac yn cael ei redeg gan redwr dirgel, fel arfer rhywun enwog ym myd rasio neu chwaraeon. Y rhedwr dirgel sy'n gosod y dorch flodau:[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Wales stars help warm up Nos Galan runners". South Wales Echo. 2010-01-01. Cyrchwyd 2010-01-01.
  2. "Mountain Ash". Rhondda Cynon Taff. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-18. Cyrchwyd 2009-01-01. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Nos Galan". nosgalan.co.uk. Cyrchwyd 2010-01-01.
  4. "Roberts and Hook are Nos Galan mystery runners". BBC Wales. 2010-01-01. Cyrchwyd 2010-01-01.
  5. "John Hartson and Mark Taylor are Nos Galan runners". BBC Wales. 31 December 2010. Cyrchwyd 1 November 2011.
  6. "Rugby legend Shane Williams joins Nos Galan races new year celebrations". walesonline.co.uk. 31 December 2011. Cyrchwyd 1 January 2013.
  7. "Dai Greene helps start Nos Galan run in Mountain Ash". BBC News. 1 January 2013. Cyrchwyd 1 January 2013.
  8. "Nos Galan: Record turnout with Alun Wyn Jones 'mystery' runner". BBC News. 31 December 2013. Cyrchwyd 6 January 2014.

Dolenni allanol

golygu