Octagon
Octagon rheolaidd | |
---|---|
Octagon rheolaidd | |
Ymylon a Fertigau | 8 |
Symbol schläfli | {8} t{4} |
Diagram Coxeter–Dynkin | |
Grŵp cymesuredd | Deuhedrol (D8) |
Arwynebedd (gyda t=hyd ymyl) |
|
Ongl mewnol (gradd) |
135° |
Polygon wyth ochrog yw octagon mewn geometreg. Cynyrchiolir octagon rheolaidd gan y Symbol schläfli {8}.
Octagonau rheolaidd
golyguMae octagon rheolaidd yn octagon sydd â phob ochr o'r un hyd a phob ongl mewnol yr un maint. Mae ongl mewnol pob fertig octagon rheolaidd yn 135° ac mae swm yr holl onglau mewnol yn 1,080°.
Rhoddir arwynebedd octagon rheolaidd gydag ochr hyd a gan
Yn nhermau , (circumradius) yr arwynebedd yw
Yn nhermau , (inradius) yr arwynebedd yw
Yn naturiol, mae'r ddau gyfernod olaf yn cromfachu'r gwerth pi, sef ardal y cylch.
Gellir hefyd ganfod yr arwynebedd fel hyn:
yw rhychwant yr octagon, neu'r croeslin ail-fyraf; a yw hyd un o'r ochrau neu'r gwaelod. Gellir profi hyny'n hawdd gan gymryd octagon, a darlunio sgwâr o gwmpas y tu allan iddi (gan wneud yn siwr fod pedwar ochr o'r wyth yn cyffwrdd pedwar ochr y sgwâr), a gan gymryd y trionglau sy'n ffurfio'r corneli (trionglau 45-45-90) a'u gosod gyda'r onglau sgwâr yn pwyntio i mewn at ei gilydd gan ffurfio sgwâr. Mae ymylon y sgwâr hwn yr un maint a gwaelod yr octagon.
Gan gymryd y rhychwant , hyd ochr yw
Yr arwynebedd felly yw
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Sut i ganfod arwynebedd octagon
- (Saesneg) Diffiniad priodweddau octagon Gyda animeiddio rhyngweithiol
Polygonau |
Triongl | Pedrochr | Pentagon | Hecsagon | Heptagon | Octagon | Nonagon | Decagon | Hendecagon | Dodecagon | Triskaidecagon | Tetradecagon | Pentadecagon | Hexadecagon | Heptadecagon | Octadecagon | Enneadecagon | Icosagon | Chiliagon | Myriagon |