Ogofâu Cefn
Mae Ogofâu Cefn yn grŵp o bedair ogof gydgysylltiedig ar glogwyni calchfaen Dyffryn Elwy, tua 5km i'r de-orllewin o Lanelwy, yn Sir Ddinbych. Cloddiwyd yr ogof yn y 19g a daethpwyd o hyd i weddillion dynol ac anifeiliaid yn dyddio'n ôl i'r cyfnod Paleolithig. Mae'r rhwydwaith o ogofâu yng Nghoed yr Allt, tua hanner cilometr o Ogof Bontnewydd, yng nghymuned Cefn Meiriadog, sef un o ogofâu pwysicaf Ewrop. Mae'r ogofâu hyn wedi'u cofrestru fel henebion o bwys (NPRN 94801).[1]
Enghraifft o'r canlynol | ogof |
---|---|
Gwladwriaeth | Cymru, y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Sir Ddinbych |
Canfuwyd bod Ogofâu Cefn yn llawn esgyrn anifeiliaid ac yn gartref i'r Neanderthaliaid cynnar, mae'r ogofâu wedi denu llawer o ymwelwyr nodedig, gan gynnwys Charles Darwin ym 1831. Ar un adeg roedd y ffordd o Ddinbych i Abergele yn mynd trwy fwa'r graig ar lan yr Elwy a thruliodd llawer o bobl eu hamser yma, gan gynnwys awduron megis Thomas Pennant, Richard Fenton ac Edward Pugh yn y blynyddoedd cyn cloddio'r ogofâu yn 1830.[2]
Ymwelodd Charles Darwin â'r ardal yn Awst 1831 gyda'r Athro Adam Sedgwick; nododd Darwin yn sylwi bod Sedgwick wedi gweld esgyrn rhinoseros mewn mwd yn yr ogof. Daeth o hyd i esgyrn eliffant, hipopotamws a rhinoseros a oedd yn dyddio'n ôl i'r cyfnod rhewlifol diwethaf (c. 125,000 CP).
Cloddiwyd y rhwydwaith o ogofâu am y tro cyntaf yn y 1830au gan y Parch E. Stanley, a daeth o hyd i ddarnau o offer carreg ynghyd â nifer o esgyrn anifeiliaid a oedd wedi'u gosod dros gyfnod eang, a gronnwyd yn yr ogofâu yn ôl pob tebyg gan weithgarwch dŵr yr afon, ychydig fetrau islaw.
Gweddillion cwrs tanddaearol gynt o Afon Elwy yw cyntedd yr 'Hen Ogof', a erydwyd trwy'r calchfaen. Defnyddir yr ogofâu ar gyfer gweithgareddau ogofa gan ganolfan gweithgareddau awyr agored a leolir yr ochr arall i'r afon.
Oriel luniau
golygu-
Dyffryn Afon Elw, Cefn Meiriadog
-
Coed yr Allt
-
Ogof y Chwarel
-
Tu fewn yr ogof isaf, ger yr afon
-
Yr ogof isaf, ger yr afon
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ coflein.gov.uk; adalwyd 12 Gorffennaf 2023.
- ↑ museum.wales; adalwyd 12 gorffennaf 2023