Ogof Denisova
Lleolir Ogof Denisova (Rwseg: Денисова пещера, hefyd Ayu-Tash) yng nghadwyn Bashelaksky ym Mynyddoedd Altai yn rhanbarth Crai Altai, Siberia, Rwsia. Mae'r ogof o ddiddordeb paleoarchaeolegol a phaleontolegol mawr. Darganfuwyd darnau esgyrn o'r hominin Denisova, y cyfeirir ati weithiau fel y "ddynes X" (oherwydd disgyniad ar ochr y fam y DNA mitochondrial), yn yr ogof, ynghyd ag artiffactau sy'n dyddio o tua 40,000 mlynedd yn ôl. Darganfuwyd olion Neanderthaliaid yn yr ogof yn ogystal â homo sapiens cynnar; ill dau'n byw yn yr un cyfnod.[1] Canfuwyd dau ddant aelodau gwahanol o'r un boblogaeth ac yn ddiweddar canfuwyd dant arall a oedd yn cynnwys DNA, a olygai ei bod yn bosibl dyddio'r dant.[2][3]
Math | ogof, solutional cave, paleolithic site |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Soloneshensky District |
Gwlad | Rwsia |
Uwch y môr | 670 ±1000000000 metr |
Cyfesurynnau | 51.397581°N 84.676206°E |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Altai |
Statws treftadaeth | safle treftadaeth ddiwylliannol ffederal yn Rwsia, Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
Lleolir yr ogof ger pentref bychan Chorny Anui (Rwseg: Чёрный Ануй) ym Mynyddoedd Altai ger y ffin rhwng Crai Altai a Gweriniaeth Altai, ar lan Afon Anui tua 150 km i'r de o ddinas Barnaul. Ffurfwyd yr ogof o galchfaen Silwraidd ac mae'n cynnwys llawr gyda arwynebedd o 270 metr sgwar. Ceir siambr ganolog sy'n mesur 9 x 11 metr gyda siambrau ymylol hefyd.
Mae sedimentau'r ogof yn llawn o weddilion anifeiliaid, yn cynnwys rhai sydd wedi darfod. Cafwyd hyd i weddillion 27 rhywogaeth o anifeiliad mawr, yn cynnwys udfil a llewod ogof, a 39 rhywogaeth o famaliaid llai, yn ogystal â gweddillion ymlusgiaid, a 50 rhywogaeth o adar.
Hominin Denisova
golyguMae Hominin Denisova yn rhywogaeth unigryw o fewn y genws Homo. Enwau arall ar y rhywogaeth hon yw Homo sp. Altai neu Homo sapiens ssp. Denisova.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ David Leveille (31 Awst 2012). "Scientists Map An Extinct Denisovan Girl's Genome". The World,. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-24. Cyrchwyd 31 Awst 2012. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help)CS1 maint: extra punctuation (link) - ↑ Zimmer, Carl (16 Tachwedd 2015). "In a Tooth, DNA From Some Very Old Cousins, the Denisovans". New York Times. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2015.
- ↑ Sawyer, Susanna; Renaud, Gabriel; Viola, Bence; Hublin, Jean-Jacques; Gansauge, Marie-Theres; Shunkov, Michael V.; Derevianko, Anatoly P.; Prüfer, Kay et al. (11 Tachwedd 2015). "Nuclear and mitochondrial DNA sequences from two Denisovan individuals". PNAS. doi:10.1073/pnas.1519905112. http://www.pnas.org/content/early/2015/11/11/1519905112. Adalwyd 16 Tachwedd 2015.
- ↑ "Exploring Taxonomy". European Molecular Biology Laboratory, Wellcome Trust. Cyrchwyd 27 Hydref 2015.