Omnia (band)
Mae Omnia yn fand "gwerin baganaidd Neo-Geltaidd" o'r Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae'i aelodau'n dod o Iwerddon, yr Iseldiroedd, Lloegr, a Gwlad Belg. Dylanwadir eu cerddoriaeth gan amrywiaeth o ddiwylliannau, megis Iwerddon, Lloegr, ac Affganistan.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Dod i'r brig | 1996 |
Genre | pagan folk, neofolk |
Yn cynnwys | Steve Evans - Van der Harten, Jennifer Evans - Van der Harten, Daphyd Sens, Rob van Barschot, Philip Steenbergen |
Gwladwriaeth | Yr Iseldiroedd |
Gwefan | http://www.worldofomnia.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maent yn canu yn y Gymraeg, Saesneg, Gwyddelig, Llydaweg, Ffineg, Almaeneg, Lladin, ac Hindi. Ymhlith yr offerynnau yw'r delyn Geltaidd, y delyn geg, yr hyrdi-gyrdi, y bodhrán, y gitâr, y bouzouki, y didgeridoo, ffliwtiau o bob math, y pibgodau, amrywiaeth o ddrymiau, ac offerynnau taro.
Aelodau
golygu- Aelodau presennol
- Sic (Steve Evans-van der Harten; Cernyw, 24 Gorffennaf 1967); Dyn-ffrynt, ffliwtiau, bouzouki, taro, ffliwt helyg, gitâr, llais
- Jenny (Jennifer Evans-van der Harten); telyn, hyrdi-gyrdi, dwlsimer morthwyliedig, bodhrán, piano, llais
- Philip 'Etrebomb' Steenbergen (ymunodd yn 2010); gitâr DADGAD
- Maral Haggi Moni (ymunodd yn 2011)
- Daphyd Sens (ymunodd yn 2011)
- Rob van Barschoten (ymunodd yn 2011)
- Cyn-aelodau
- Mich (Michel Rozek); drymiau (2007 – 2009)
- Yoast (Joost van Es); ffidil, gitâr, mandolin (2009 – 2009)
- Joe (Joseph Hennon) (ymunodd yn 2004); gitâr DADGAD
- Luka (Louis Aubri-Krieger); llithryn-ddidgeridoo, llais (1996 – 2010)
- Tom Spaan (2009 – 2011); drymiau
Disgyddiaeth
golygu- Sine Missione (2000)
- Sine Missione 2 (2002)
- 3 (2003) – a 3" CD
- Crone of War (2004) – Albwm sy'n canolbwyntio ar fytholeg Geltaidd, e.e., Rhod y Flwyddyn (Mabon) a duwiau Celtaidd, megis Cernunnos a Taranis.[1]
- Live Religion (2005) – Albwm byw
- PaganFolk (2006) – Albwm lle chwaraeir amrywiaeth o offerynnau traddodiadol. Cymharir y steil i gerddoriaeth Almaeneg a'r band Almaeneg Faun.[2]
- Cybershaman (2007) – Albwm rimics sy'n cynnwys wyth cân Omnia mewn steil cerddoriaeth berlewygon ac electronig.[3]
- Alive! (2007) – Golygfa'r gwarchod o Macbeth a ysgrifennwyd gan William Shakespeare, "The Raven" gan Edgar Allan Poe, a cherdd gan Lewis Caroll a ddarllenwyd i gerddoriaeth. Crëwyd y gwaith celf gan Alan Lee.[4]
- History (2007) (sampler Americanaidd) – Albwm casgliad
- PaganFolk At The Fairy Ball (2008) – Albwm bwy sydd ar gael oddi wrth eu gwefan yn unig
- Pagan Folk Lore (2008) – DVD
- World Of Omnia (2009) – Albwm casgliad
- Wolf Love (2010) – "Jaberwocky" gan Lewis Carroll a ddarllenwyd i gerddoriaeth.
Dolenni perthnasol i ganeuon a berfformir gan Omnia
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Lohmann, Stephanie. Omnia. Crown [sic] Of War, Sonic Seducer, Rhifyn 10/2004 (yn de). Thomas Vogel Media e.K.. URL
- ↑ Lohmann, Stephanie. Omnia, Pagan Folk, Sonic Seducer, Rhifyn 5/2006 (yn de). Thomas Vogel Media e.K.. URL
- ↑ Castelnau, Peter. Omnia. Cybershaman, Sonic Seducer, Rhifyn 7/2007 (yn de). Thomas Vogel Media e.K.. URL
- ↑ Castelnau, Peter. Omnia. Alive!, Sonic Seducer, Rhifyn 10/2007 (yn de). Thomas Vogel Media e.K.. URL